Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n ei ateb gan fod twristiaeth, fel y gwyddoch, yn gyfrifoldeb i mi. Credwn fod gennym dystiolaeth i ddangos bod ein marchnata thematig yn hynod lwyddiannus. Cynhyrchodd Blwyddyn Antur £370 miliwn yn ychwanegol yn 2016. Mae Blwyddyn y Chwedlau hefyd yn dangos canlyniadau addawol, gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn ymweld â safleoedd Cadw a'r amgueddfa genedlaethol yn ystod yr haf. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ganlyniadau cryf y flwyddyn hon, sef Blwyddyn y Môr, a'r flwyddyn nesaf, Blwyddyn Darganfod.