1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru yn y pumed Cynulliad? OAQ51704
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n ei ateb gan fod twristiaeth, fel y gwyddoch, yn gyfrifoldeb i mi. Credwn fod gennym dystiolaeth i ddangos bod ein marchnata thematig yn hynod lwyddiannus. Cynhyrchodd Blwyddyn Antur £370 miliwn yn ychwanegol yn 2016. Mae Blwyddyn y Chwedlau hefyd yn dangos canlyniadau addawol, gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn ymweld â safleoedd Cadw a'r amgueddfa genedlaethol yn ystod yr haf. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ganlyniadau cryf y flwyddyn hon, sef Blwyddyn y Môr, a'r flwyddyn nesaf, Blwyddyn Darganfod.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb cadarnhaol hwnnw, Weinidog. Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru yn effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi mynegi pryder fod y gyllideb farchnata gyfredol ar gyfer Croeso Cymru, o'i chymharu â chyrchfannau sy'n cystadlu, yn annigonol i wireddu potensial y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hyderus fod y gyllideb gyfredol ar gyfer Croeso Cymru yn ddigon i fanteisio i'r eithaf ar botensial a manteision y sector twristiaeth i economi Cymru? Diolch.
Rwyf yn y broses o ddechrau trafodaethau pellach ar gyllidebau'r ddwy flynedd nesaf, ond wrth ei flas y mae profi pwdin, fel petai, neu yn yr achos hwn wrth yr enwebiadau a gafodd ein gwahanol ymgyrchoedd ac yn wir, y gwobrau a ddaeth i ran Croeso Cymru—am natur eu hymgyrchoedd a'r ffordd y maent yn cynhyrchu ymateb. Nid yw blynyddoedd thematig ond yn un rhan o hynny, a rhan arall nad yw'n un o fy nghyfrifoldebau yn uniongyrchol ond sy'n amlwg yn rhan o dwristiaeth, yw digwyddiadau mawr. Cafwyd 35 o ddigwyddiadau mawr a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru—digwyddiadau diwylliannol, yn benodol, a digwyddiadau chwaraeon, sydd hefyd yn ddiwylliannol wrth gwrs. Rydym yn amcangyfrif bod tua 350,000 o ymwelwyr wedi teithio i Gymru i fwynhau'r digwyddiadau hyn, gan gynhyrchu gwariant ychwanegol o £52 miliwn a chynnal 1,215 o swyddi. Mae'r ymrwymiad hwnnw i gefnogi digwyddiadau ledled Cymru yn parhau, wrth gwrs, ac yn cynyddu. Yn ne-ddwyrain Cymru: marathon Casnewydd Cymru; Gŵyl y Llais, yn agos i'r fan hon; ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Ras Hwylio Volvo, lle mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd morol rhyngwladol mawr sy'n rhan o'r cyrchfannau a gwmpesir gan y ras hon.
Felly, nid ydym yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r gyllideb, ond rydym yn sicrhau ein bod yn graff iawn o ran y ffordd y caiff ei gwario.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.