1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf? OAQ51711
Gwnaf, wrth gwrs. Mae Trafnidiaeth Cymru, ar hyn o bryd, yn asesu'r tri chynigydd ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Bydd y cytundeb yn cael ei ddyfarnu ym mis Mai eleni a bydd yn weithredol o fis Hydref eleni ymlaen.
Mae'r ffaith eich bod yn cynnal y broses o dendro'r fasnachfraint o dan len mor drwchus o gyfrinachedd yn ddirgelwch llwyr. Yn wahanol i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Transport Scotland, rydych yn gwrthod cyhoeddi'r dogfennau gwahoddiad i dendro sydd wedi'u rhoi i gynigwyr. Pe baech yn cyhoeddi'r dogfennau hynny, byddai pobl yng Nghymru—y bobl sy'n cael eu heidio ar y trenau hynny bob dydd—yn cael cyfle i ddadansoddi'r meini prawf a chynnig syniadau ynglŷn â ffyrdd y gellid eu gwella. Gellir beio camgymeriadau'r fasnachfraint rheilffyrdd ddiwethaf ar gyfer Cymru ar gorff hyd braich yn San Steffan.
Fel teithiwr mynych ar reilffyrdd y Cymoedd i lawr o'r Rhondda, nid yw'n syndod i mi weld bod boddhad cwsmeriaid mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru wedi gostwng. Mae'r amodau'n aml yn ofnadwy. Os na fydd pethau'n gwella y tro hwn, ni fydd gennych chi na'ch cyd-Aelodau Llafur yn y Cabinet le i guddio. Pam na wnewch chi gyhoeddi dogfennau'r fasnachfraint, cynnwys y bobl, gwneud eich hun yn agored i fwy o graffu a darparu masnachfraint reilffyrdd well sy'n gweithio i bawb? Beth rydych chi'n ei ofni?
Nid ydym yn ofni dim. Dylai'r Aelod gydnabod, fodd bynnag, yn gyntaf oll, ein bod yn wlad gyntaf yn y byd i ddilyn y broses hon. Nid yw'n cael ei wneud yn unrhyw le arall yn y byd, mae'n wirioneddol arloesol ac mae wedi cael ei gynllunio i sicrhau ein bod yn herio arbenigwyr yn y maes i gyflwyno'r atebion gorau posibl ar gyfer teithwyr Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod angen gweld newid sylfaenol o ran darparu gwasanaethau, o ran prydlondeb ac o ran boddhad, ac mae pob un o'r cynigwyr wedi cael yr her o gyflwyno mewn amlen yr holl atebion gorau yn seiliedig ar dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, ac yn seiliedig ar yr ymgyrch i gynyddu lefelau boddhad teithwyr.
Nawr, gallaf dderbyn beirniadaeth am beidio â chyhoeddi'r dogfennau tendro llawn ar y cam hwn, ond y rheswm pam na allwn gyhoeddi gwybodaeth fanwl o fewn cyfnod y gwahoddiad i gyflwyno tendrau terfynol yw oherwydd y gallem beryglu'r holl broses gaffael gystadleuol, ac fel rwy'n dweud, dyma'r broses gyntaf o'i bath yn y byd. Dyna pam fod yr Alban wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu, a dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Gallai rhyddhau gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif yn ymwneud â chynlluniau busnes y cynigwyr arwain o bosibl at niweidio buddiannau masnachol y cwmnïau hynny. Fodd bynnag, pan fydd y darparwr gwasanaeth wedi'i benodi, byddwn yn sicrhau bod dogfennau pellach, gan gynnwys y ddogfen dendro lawn, ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn fwy na pharod i wynebu craffu llawn mewn perthynas â'r fasnachfraint a fydd yn weithredol yn y dyfodol ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Gallaf ddweud hyn: nid Llywodraeth Cymru yw achos y problemau ar rwydwaith Cymru ar hyn o bryd, ond Llywodraeth Cymru fydd yn eu datrys.