1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth yn Islwyn? OAQ51703
Gwnaf. Diolch. Mae manylion ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi ledled Cymru wedi'u nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd, wrth gwrs, ddiwedd y llynedd, a nod ein hymatebion yw sicrhau system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Islwyn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roedd adroddiad annibynnol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf i werthuso prosiect atgyfnerthu rheilffyrdd y Cymoedd yn nodi—ac roedd yn brosiect arloesol—ei fod wedi gwella ansawdd aer, ei fod wedi sicrhau cynnydd o 19 y cant yn y capasiti ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd, a hefyd ei fod wedi cynhyrchu tystiolaeth o fynediad at y farchnad swyddi. Yn wir, y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd oedd un o'r prif elfennau yn y prosiect hwn, a chafodd ei chreu i leihau'r defnydd o geir. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda gwerthusiad annibynnol yn dilysu llwyddiant y rheilffordd hon, sy'n rhedeg drwy galon fy etholaeth yn Islwyn, pa fesurau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau'r gwasanaeth hanfodol o Lynebwy i Gasnewydd?
Wel, roeddwn yn falch iawn o nodi canfyddiadau'r adroddiad. Roedd yn cyfiawnhau'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn yr ardal dros flynyddoedd lawer, ac mae hefyd yn dangos beth y gellir ei wneud pan fo buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n gallu diwallu dyheadau teithwyr. Rydym wedi cael ein tanariannu'n rhy hir. Yn sicr cawsom ein tanariannu drwy gydol y cyfnod rheoli diwethaf: 1 y cant o fuddsoddiad ar gyfer oddeutu 5 y cant o'r rhwydwaith. Ond rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth iawn, ac wrth i ni ddatblygu ein gweledigaeth ar gyfer metro de Cymru, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cysylltu'r datblygiadau ym maes trafnidiaeth gyda datblygiadau ein hystadau ysbytai ac iechyd, a chydag ystadau ysgol yn ogystal, i gael y gwerth mwyaf am arian pwrs y wlad.