Denu Twristiaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:18, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn y broses o ddechrau trafodaethau pellach ar gyllidebau'r ddwy flynedd nesaf, ond wrth ei flas y mae profi pwdin, fel petai, neu yn yr achos hwn wrth yr enwebiadau a gafodd ein gwahanol ymgyrchoedd ac yn wir, y gwobrau a ddaeth i ran Croeso Cymru—am natur eu hymgyrchoedd a'r ffordd y maent yn cynhyrchu ymateb. Nid yw blynyddoedd thematig ond yn un rhan o hynny, a rhan arall nad yw'n un o fy nghyfrifoldebau yn uniongyrchol ond sy'n amlwg yn rhan o dwristiaeth, yw digwyddiadau mawr. Cafwyd 35 o ddigwyddiadau mawr a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru—digwyddiadau diwylliannol, yn benodol, a digwyddiadau chwaraeon, sydd hefyd yn ddiwylliannol wrth gwrs. Rydym yn amcangyfrif bod tua 350,000 o ymwelwyr wedi teithio i Gymru i fwynhau'r digwyddiadau hyn, gan gynhyrchu gwariant ychwanegol o £52 miliwn a chynnal 1,215 o swyddi. Mae'r  ymrwymiad hwnnw i gefnogi digwyddiadau ledled Cymru yn parhau, wrth gwrs, ac yn cynyddu. Yn ne-ddwyrain Cymru: marathon Casnewydd Cymru; Gŵyl y Llais, yn agos i'r fan hon; ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Ras Hwylio Volvo, lle mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd morol rhyngwladol mawr sy'n rhan o'r cyrchfannau a gwmpesir gan y ras hon.

Felly, nid ydym yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r gyllideb, ond rydym yn sicrhau ein bod yn graff iawn o ran y ffordd y caiff ei gwario.