Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:14, 7 Chwefror 2018

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Gwnaf barhau i ofyn cwestiynau yn Gymraeg iddo fe, fel ei fod e'n gallu practiso ei Gymraeg, fel petai. Rydw i wedi edrych ar sawl map erbyn hyn o le mae pwyntiau gwefru ceir trydan ar gael, ac mae'n amlwg bod yna fwlch mawr yn yr anialwch gwyrdd yna yn y canolbarth. Os ydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus, byddwn i'n awgrymu bod cau'r bwlch yn un o'r blaenoriaethau ar gyfer yr arian cyhoeddus hwnnw. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod nifer o bobl â diddordeb mewn datblygu'r pwyntiau yma, gan gynnwys archfarchnadoedd a datblygiadau cyhoeddus newydd. Felly, a fedrwch chi ddweud wrthym ni ym mha ffordd rydych chi eisiau dod â'r tueddiadau yma at ei gilydd er mwyn sicrhau mai un peth sydd yn deillio o'r arian yma yw cyfiawnder cymdeithasol a bod mynediad pawb at y pwyntiau gwefru yma yn cael ei wneud yn gyson ar draws Cymru?