1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
7. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan? OAQ51713
Rydw i'n siarad Cymraeg tipyn bach cyn bo hir, beth bynnag—.
Rwy'n dysgu eto ac ni fuaswn eisiau gwneud cam â chwestiwn yr Aelod drwy stryffaglu i ateb y cwestiwn yn Gymraeg. Mae'n ymwneud â'r £2 filiwn rydym wedi'i gynnig i helpu i sicrhau rhwydwaith o bwyntiau gwefru ledled Cymru, gan ganolbwyntio yn gyntaf ac yn bennaf ar leoliadau ger cefnffyrdd i wasanaethu'r rhwydwaith priffyrdd, a achosodd fwyaf o bryder o ran pellter teithio. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda'r holl awdurdodau lleol ledled Cymru ar y fframwaith cyflawni er mwyn darparu cyllid cyn gynted â phosibl.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Gwnaf barhau i ofyn cwestiynau yn Gymraeg iddo fe, fel ei fod e'n gallu practiso ei Gymraeg, fel petai. Rydw i wedi edrych ar sawl map erbyn hyn o le mae pwyntiau gwefru ceir trydan ar gael, ac mae'n amlwg bod yna fwlch mawr yn yr anialwch gwyrdd yna yn y canolbarth. Os ydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus, byddwn i'n awgrymu bod cau'r bwlch yn un o'r blaenoriaethau ar gyfer yr arian cyhoeddus hwnnw. Ond mae hefyd yn wir i ddweud bod nifer o bobl â diddordeb mewn datblygu'r pwyntiau yma, gan gynnwys archfarchnadoedd a datblygiadau cyhoeddus newydd. Felly, a fedrwch chi ddweud wrthym ni ym mha ffordd rydych chi eisiau dod â'r tueddiadau yma at ei gilydd er mwyn sicrhau mai un peth sydd yn deillio o'r arian yma yw cyfiawnder cymdeithasol a bod mynediad pawb at y pwyntiau gwefru yma yn cael ei wneud yn gyson ar draws Cymru?
Diolch yn fawr iawn. Buaswn yn sicr yn cytuno, er nad oes gennym nifer helaeth o bwyntiau gwefru mae gennym ddigon ohonynt yn sicr ar hyd coridor yr M4 a'r A55, ond ar wahân i hynny mae'n dir hesb o ran mynediad cyhoeddus at bwyntiau gwefru trydanol. Er efallai mai £2 filiwn yn unig o gyllid sydd ar gael, mae Simon Thomas yn llygad ei le yn dweud y gallwn ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n denu arian cyfatebol a chyflwyno mwy o bwyntiau gwefru trydanol felly. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ysgogi cyllid gan gyflenwr preifat y fframwaith ar sail 50:50. Rwy'n credu y bydd argaeledd y cyllid yn rhoi grym bargeinio ardderchog i awdurdodau lleol gael cytundebau sy'n rhannu elw'n dda a rheolaeth dros bennu prisiau, er enghraifft. Yn fy marn i, bydd y £2 filiwn hefyd yn ein galluogi i sefydlu manyleb safonol gyda brand Cymru, ar gyfer gwefru cerbydau trydanol. Bydd hefyd yn caniatáu i ni greu fframwaith caffael ar gyfer gwefru cerbydau trydanol, y gellir ei ddefnyddio yn y tymor hwy yn ogystal. Mae'n agenda polisi cyffrous ac rwy'n falch ein bod yn gallu datblygu'r maes gwaith penodol hwn gyda'n gilydd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Mohammad Asghar.