Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 7 Chwefror 2018.
Rwy'n falch iawn i glywed hynny. Wrth gwrs, rwy'n credu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o achos diweddar o'r Llywodraeth yn datgelu data personol, sef fy nata personol i yn ymwneud â gohebiaeth, nid yn unig ar gam, ond hefyd yn gamarweiniol. A allai fe ddweud a yw e wedi darparu cyngor yn yr achos hwnnw pa un ai ydy'r Llywodraeth wedi torri rheoliadau datgelu data, ac a yw e'n gallu rhannu gyda ni gynnwys y cyngor hwnnw? A gan fod yr Arglwydd Ganghellor wedi creu protocol yn ymwneud â chyfrinachedd gohebiaeth Aelodau Seneddol, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon cwrdd â fi, ac Aelodau etholedig eraill, i ni greu protocol tebyg fan hyn, fel bod yna sicrwydd ynglŷn â chyfrinachedd ein gohebiaeth ni?