2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynglŷn â data personol? OAQ51721
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith yn ymwneud â data personol.
Rwy'n falch iawn i glywed hynny. Wrth gwrs, rwy'n credu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o achos diweddar o'r Llywodraeth yn datgelu data personol, sef fy nata personol i yn ymwneud â gohebiaeth, nid yn unig ar gam, ond hefyd yn gamarweiniol. A allai fe ddweud a yw e wedi darparu cyngor yn yr achos hwnnw pa un ai ydy'r Llywodraeth wedi torri rheoliadau datgelu data, ac a yw e'n gallu rhannu gyda ni gynnwys y cyngor hwnnw? A gan fod yr Arglwydd Ganghellor wedi creu protocol yn ymwneud â chyfrinachedd gohebiaeth Aelodau Seneddol, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn fodlon cwrdd â fi, ac Aelodau etholedig eraill, i ni greu protocol tebyg fan hyn, fel bod yna sicrwydd ynglŷn â chyfrinachedd ein gohebiaeth ni?
Diolch am y cwestiwn pellach. Fel y bydd cyfaill yr Aelod ar y rheng flaen yn gwybod, mae confensiwn y swyddog cyfreithiol yn fy ngwahardd i rhag trafod unrhyw gyngor penodol rwyf i wedi ei roi, neu'r ffaith fy mod i wedi rhoi cyngor o gwbl. Bydd yr Aelod yn gwybod bod barn Llywodraeth Cymru yn glir ar y cwestiwn hwnnw, fod dim trosedd wedi cymryd lle o dan Ddeddf 1998, ac mae hynny wedi bod yn fater cyhoeddus erbyn hyn. Mae'n sôn am gonfensiwn yr Arglwydd Ganghellor. Mae'n rhaid imi sôn wrtho fe nad ydw i'n gyfarwydd â'r confensiwn hwnnw, ac felly buaswn i'n barod i drafod cynnwys y confensiwn hwnnw gyda fe, os wnaiff e anfon nodyn ataf i.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, er gwaethaf y sefyllfa o ran deddfwriaeth diogelu data, fod camddefnyddio gwybodaeth breifat at ddibenion gwleidyddiaeth plaid pan fo'r wybodaeth breifat honno wedi'i chael yn rhinwedd swydd weinidogol, drwy ddefnyddio adnoddau swyddogol, yn anghywir, a'i fod hefyd yn torri cod y Gweinidogion ac na ddylid ei ailadrodd? Rydym wedi cael achosion o hyn o'r blaen, ac mae'n ymddangos y gallai ymddygiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mewn perthynas ag Adam Price, fod wedi torri'r cod hwnnw yn ogystal. Tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi ei farn ar hynny.
Mae'r Aelod yn seneddwr profiadol iawn, a bydd yn gwybod yn iawn nad yw hwnnw'n gwestiwn priodol i'r Cwnsler Cyffredinol ei ateb, ac felly rwy'n gwrthod.