Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Chwefror 2018.
Wel, fel rwyf wedi dweud yn glir mewn atebion blaenorol i gwestiynau ar y pwnc hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n sicrhau bod y siarter hawliau sylfaenol yn parhau'n rhan o'n cyfreitheg yma yng Nghymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i sefyllfa lle byddem yn cyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain, byddem eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw'r hawliau sy'n cael eu hadlewyrchu yn y siarter honno'n cael eu herydu i ddinasyddion Cymru. Fel y bydd yn ymwybodol, cyflwynwyd Bil i'r Llywydd iddi benderfynu yn ei gylch, felly nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar gynnwys y Bil hwnnw, ond gobeithiaf y bydd y sicrwydd rwyf wedi'i roi iddo yn dangos yn glir iddo fod hynny'n flaenoriaeth o leiaf.