2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith mewn gwledydd datganoledig yn y DU am y Bil parhad sy'n cael ei ddwyn ymlaen gan Lywodraeth Cymru? OAQ51727
Fel y bydd yr Aelod yn ymwybodol, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n parchu datganoli. Fodd bynnag, rydym yn barod i gyflwyno Bil parhad os yw'n amhosibl diwygio'r Bil sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn foddhaol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, fel y bydd yn gwybod, ar y materion hyn.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Rwy'n ymwybodol mai dewis olaf Llywodraeth Cymru ydyw, ond rydym ar drothwy'r cam olaf un, i bob pwrpas, lle mae angen i ni, o ran amser, wneud rhywbeth yn gyflym iawn. Rwy'n derbyn y ffaith bod angen i chi siarad â Llywodraeth yr Alban, oherwydd mae ganddynt hwy Fil parhad hefyd. Gallaf ddeall y gwahaniaethau yn y setliad datganoledig ac felly bod gwahaniaethau yn y Biliau. Ond mewn ateb i Simon Thomas yn gynharach, soniasoch am y siarter hawliau sylfaenol yn yr UE mewn gwirionedd. Rwy'n tybio ei bod yn bwysig gofyn y cwestiwn: a ydych wedi ystyried cynnwys elfennau o'r siarter hawliau sylfaenol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd Cymreig, i sicrhau y gall dinasyddion yma yn y DU elwa o'r hawliau hynny a'u bod yn cael eu cynnal yng nghyfraith Cymru os nad unrhyw beth arall?
Wel, fel rwyf wedi dweud yn glir mewn atebion blaenorol i gwestiynau ar y pwnc hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio Bil ymadael â'r UE sy'n sicrhau bod y siarter hawliau sylfaenol yn parhau'n rhan o'n cyfreitheg yma yng Nghymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i sefyllfa lle byddem yn cyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain, byddem eisiau sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw'r hawliau sy'n cael eu hadlewyrchu yn y siarter honno'n cael eu herydu i ddinasyddion Cymru. Fel y bydd yn ymwybodol, cyflwynwyd Bil i'r Llywydd iddi benderfynu yn ei gylch, felly nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar gynnwys y Bil hwnnw, ond gobeithiaf y bydd y sicrwydd rwyf wedi'i roi iddo yn dangos yn glir iddo fod hynny'n flaenoriaeth o leiaf.
Gwnsler Cyffredinol, mae'r trafodaethau rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU yn hollbwysig wrth i ni droi at Fil parhad i warchod cyfansoddiad y genedl Gymreig. Cafodd y Prif Weinidog gyfarfod gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, a disgrifiodd y Gweinidogion y cyfarfod hwnnw fel un defnyddiol. Mae sawl cyfarfod wedi bod bellach lle mae'r canlyniad naill ai wedi'i ddisgrifio fel un adeiladol neu ddefnyddiol, ond ni chytunwyd ar unrhyw welliannau. Yn ystod y cyfarfod, a allwch ddweud wrthym, a lwyddodd Llywodraeth y DU i roi unrhyw sicrwydd pellach i Lywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE?
Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar faterion unigol sy'n destun negodi neu drafodaeth gyda Llywodraeth y DU, am resymau y gobeithiaf y bydd yr Aelod yn eu deall. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio mewn perthynas â chymal 11, yn bennaf, ond ar gymalau eraill y Bil hefyd, ac maent, erbyn hyn, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i obeithio y gellir cael cytundeb mewn perthynas â'r gwelliannau a fyddai'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru ac a fyddai'n galluogi'r Bil ymadael â'r UE i gael ei ddiwygio'n briodol er mwyn gallu argymell cydsyniad. Ond yn amlwg, fel y mae ei chwestiwn yn nodi, mae amser yn brin ac felly mae angen i ni weld cynnydd mewn perthynas â hynny'n gyflym iawn. Yn amlwg, rydym yn ymwybodol o'r broses seneddol yn San Steffan o ran y trafodaethau a'r ffordd o feddwl yma mewn perthynas â'r posibilrwydd o gyflwyno Bil parhad, pe bai hynny'n angenrheidiol.