Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 7 Chwefror 2018.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y cyfle y gallent ei gynnig ar gyfer ehangu'r ystod economaidd-gymdeithasol o bobl a dderbynnir i'r proffesiwn? Un o anfanteision y system gyfredol yw bod pobl yn dechrau eu cwrs cyfnewid ac yn darganfod bod nifer o'r cwmnïau mwyaf eisoes wedi cau eu prosesau recriwtio ym mis Gorffennaf am ddwy flynedd. Oni fyddai'r cynnig newydd hwn yn caniatáu i ystod economaidd-gymdeithasol ehangach o bobl gael eu derbyn i'r proffesiwn?