2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r arholiad cymhwyso arfaethedig i gyfreithwyr a'i oblygiadau ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51696
Diolch am y cwestiwn. Rydym ni yn ystyried y goblygiadau ar hyn o bryd. Mae swyddogion wedi cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i drafod y cymhwyster newydd arfaethedig a’r goblygiadau i Gymru, yn cynnwys y setliad datganoli a defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae cyfarfod pellach yn cael ei drefnu i ehangu’r drafodaeth honno i gynnwys ein hysgolion cyfraith a’r proffesiwn cyfreithiol.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. A allaf ddweud bod yna bryderon ynglŷn â’r arholiad yma, yn enwedig wrth feddwl am allu unigolion i’w gymryd yng Nghymru, y gallu i sefyll yr arholiad yn Gymraeg a’r ffaith nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â materion cyfraith Cymru’n unig, yn enwedig wedi datganoli? A wnewch chi ymuno â fi i ddiolch i’r Athro Richard Owen o Brifysgol Abertawe am ei waith yn y maes hwn, ac a wnewch chi amlinellu beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â’r sefyllfa?
Gwnaf, yn sicr. Fel gwnes i sôn, mae cyfarfod eisoes wedi cael ei drefnu ac wedi cymryd lle gyda swyddogion yr SRA lle codwyd y pynciau yma’n benodol. Rwy’n cwrdd gyda’r SRA eto ymhen ychydig wythnosau. Rwy’n bwriadu parhau’r drafodaeth gyda nhw. Mae dau bwynt yn codi yma. Y cyntaf yw rôl cyfraith ddatganoledig yn y cymhwyster newydd, ac mae hyn, wrth gwrs—mae’n rhaid inni annog yr ysgolion cyfraith yng Nghymru i ddod ynghyd gyda ni ar hyn i ddarparu hynny trwy eu cyrsiau nhw. Nid yw hyn o fudd yn unig i bobl yn gweithio yng Nghymru, wrth gwrs; mae hyn yn bwysig i gyfreithwyr sydd mewn practis tu fas i Gymru gyda’r cleientiaid yna neu gleientiaid mewn mannau eraill sydd yn gweithredu yng Nghymru. Felly, mae impact eang i’r cwestiwn hwnnw, fel buasech yn ei ddisgwyl.
O ran y cwestiwn ar yr iaith—codwyd y cwestiwn hwnnw hefyd yn ein cyfarfod â’r swyddogion. Mae’n amlwg yn bwysig i gôl y Llywodraeth o fewn y strategaeth i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr fod defnydd y Gymraeg o fewn y proffesiynau yn beth rhwydd ac yn beth normal ac yn beth pob dydd. Felly, mae’n bwysig iawn i sicrhau bod hyn yn digwydd. Rwyf wedi cael cyfathrebiad y bore yma wrth Gomisiynydd y Gymraeg ar y testun hwn hefyd, fel mae’n digwydd. Gwnes i edrych ar rai o’r cyhoeddiadau a wnaethpwyd gan yr SRA yn y cyd-destun hwn, ac mae’n rhaid i fi ddweud, roeddwn i’n siomedig i weld bod dim digon o uchelgais yn beth oedd yn cael ei gynnig ar y pryd. Mae llawer o’r asesu o fewn y cymhwyster newydd yn mynd i ddigwydd ar sail amlddewis, ac felly dylai hynny fod yn syml iawn i'w ddarparu drwy'r Saesneg neu drwy'r Gymraeg ar y cyd.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y cyfle y gallent ei gynnig ar gyfer ehangu'r ystod economaidd-gymdeithasol o bobl a dderbynnir i'r proffesiwn? Un o anfanteision y system gyfredol yw bod pobl yn dechrau eu cwrs cyfnewid ac yn darganfod bod nifer o'r cwmnïau mwyaf eisoes wedi cau eu prosesau recriwtio ym mis Gorffennaf am ddwy flynedd. Oni fyddai'r cynnig newydd hwn yn caniatáu i ystod economaidd-gymdeithasol ehangach o bobl gael eu derbyn i'r proffesiwn?
Credaf mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yw y gall fod â photensial i wneud hynny. Ar hyn o bryd, yn amlwg, er bod y cymhwyster newydd yn destun ymgynghoriad, nid yw'r manylion o ran sut y bydd yn gweithredu'n ymarferol a sut y bydd yn berthnasol i'r cyfnod academaidd a'r cyfnod profiad gwaith yn gwbl glir, ac mae hwnnw'n un o'r materion rwyf eisiau ei archwilio pan fyddaf yn cyfarfod â'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Mae'r Aelod yn gywir i ddweud y dylai darparu meincnod cyffredin ar draws amrywiaeth o lwybrau i mewn i'r proffesiwn sicrhau chwarae teg i bawb. Ond fel y bydd hefyd yn gwybod, mae rhai o'r practisau mwy wedi teilwra cyrsiau gyda darparwyr cyrsiau ymarfer y gyfraith, ac os yw'r rheini'n goroesi i'r gyfundrefn newydd, fel petai, gallai greu rhyw fath o system ddwy haen. Felly, rwy'n credu bod yna rai cwestiynau sydd angen eu harchwilio. Yn amlwg, byddai rhywun yn gobeithio—fel y mae ei gwestiwn yn amlinellu—y ceir chwarae teg i bawb o ganlyniad i hyn. Mae'n sicr yn wir nad yw'r trefniadau cyfredol yn foddhaol am y rhesymau y mae'n eu rhoi.