Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid erlyn mewn perthynas â methiant i dalu'r dreth gyngor, wrth gwrs, ac nid Llywodraeth Cymru. Felly, bydd awdurdodau lleol ac ynadon lleol yn ceisio cyngor cyfreithiol eu hunain pan fyddant ei angen. Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod ôl-ddyledion y dreth gyngor yn cael eu rheoli'n briodol a chyhoeddwyd ymchwil ar hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oedd bryd hynny, ar ddiwedd 2017.
Canfu adolygiad barnwrol diweddar mewn perthynas â menyw a gafodd ei charcharu am fethu talu'r dreth gyngor nad yw'r system gyffredinol ar gyfer gorfodi yng Nghymru yn annheg ond bod penderfyniadau rhai llysoedd ynadon unigol wedi bod yn anghywir.