Adolygiad o Achosion Treisio

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:41, 7 Chwefror 2018

Diolch i'r Cwnsel Cyffredinol am ei ateb ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod y ffaith bod nifer o achosion wedi methu oherwydd bod y gweithdrefnau datgelu o'r ddwy ochr—wel, un ochr yn benodol—wedi methu yn peryglu'r ffordd rŷm ni'n mynd i'r afael â threisio a throseddau rhywiol yng Nghymru, ac felly yn tanseilio hyder yn y system. Nid yw hynny'n rhywbeth rwyf fi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr bod y Cwnsel Cyffredinol ddim ychwaith. Mae'n bwysig iawn fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu'n iawn ar y ddwy ochr, wrth gwrs. Mae'n amlwg bod methiannau difrifol wedi bod o ran datgelu gwybodaeth i'r ochr amddiffyn a bod Gwasanaeth Erlyn y Goron felly heb weithredu’n briodol bob tro i sicrhau bod hynny wedi'i wneud. A gaf fi ofyn felly yn benodol: a oes gennych chi unrhyw nifer o achosion sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd yng Nghymru? A ydych chi yn wir yn trafod hyn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle yn y gwasanaeth ac ar ochr yr heddlu hefyd wrth gwrs, i sicrhau na fyddwn ni yn y twll yma eto?