2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
7. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag adolygiad o achosion treisio yng Nghymru? OAQ51715
Rwy'n croesawu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i adolygu pob achos o dreisio a throseddau rhywiol yng Nghymru ac yn Lloegr sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau datgelu yn cael eu rhoi ar waith yn gywir. Mae'n hanfodol cymryd camau i sicrhau ffydd, ymddiriedaeth a hyder yn ein system cyfiawnder troseddol.
Diolch i'r Cwnsel Cyffredinol am ei ateb ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod y ffaith bod nifer o achosion wedi methu oherwydd bod y gweithdrefnau datgelu o'r ddwy ochr—wel, un ochr yn benodol—wedi methu yn peryglu'r ffordd rŷm ni'n mynd i'r afael â threisio a throseddau rhywiol yng Nghymru, ac felly yn tanseilio hyder yn y system. Nid yw hynny'n rhywbeth rwyf fi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr bod y Cwnsel Cyffredinol ddim ychwaith. Mae'n bwysig iawn fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu'n iawn ar y ddwy ochr, wrth gwrs. Mae'n amlwg bod methiannau difrifol wedi bod o ran datgelu gwybodaeth i'r ochr amddiffyn a bod Gwasanaeth Erlyn y Goron felly heb weithredu’n briodol bob tro i sicrhau bod hynny wedi'i wneud. A gaf fi ofyn felly yn benodol: a oes gennych chi unrhyw nifer o achosion sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd yng Nghymru? A ydych chi yn wir yn trafod hyn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle yn y gwasanaeth ac ar ochr yr heddlu hefyd wrth gwrs, i sicrhau na fyddwn ni yn y twll yma eto?
Mae cysylltiadau wedi bod. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar achosion unigol wrth gwrs. Byddai'r Aelod yn derbyn hynny, rwy'n gwybod. Rwy'n croesawu'r adolygiad. Mae'n rhaid sicrhau bod y rheolau yma'n cael eu dilyn. Un o'r sialensiau yw cadw'n gyfredol gyda'r cwestiwn o hyfforddiant a defnydd technoleg yn y llysoedd, ac y mae'r twf yn nefnydd cyfryngau cymdeithasol yn benodol yn golygu bod hyn y tu hwnt nawr i'r hyn a ddychmygwyd pan ddaeth y rheolau a'r technegau i fodolaeth. Nid yw hyn yn broblem newydd; nid yw'n broblem sydd yn benodol i'r cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs. Mae hyn wedi bod yn ffactor am ddegawdau mewn erlyniadau o bob math. Felly, rwyf yn croesawu'r adolygiad yng Nghymru ac yn Lloegr, ond dim ond cam dros dro gall yr adolygiad hwn fod. Mae'n rhaid ein bod ni'n cael system gyfreithiol a system droseddol sydd yn gymwys i'r oes rŷm ni'n byw ynddi o ran technoleg a defnydd pobl o wybodaeth a bod hynny nid jest yn gweithio ar gyfer heddiw, ond ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol hefyd.
Hoffwn i ddweud yn benodol fod lot o'r achosion wedi bod yng nghyd-destun troseddau trais ac ati, fel gwnaeth yr Aelod ei grybwyll. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn dal i ddod ymlaen gyda'u cwynion am hynny, wrth gwrs. Rwy'n derbyn yn union beth y mae'r Aelod yn ei ddweud ynglŷn ag hyder a ffydd yn y system. Mae rhifau achosion trais yng Nghymru wedi bod ar gynnydd. Mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'r rhifau hynny wrth gwrs, am resymau ystadegol sydd yn amlwg, ond mae'r ffaith bod pobl yn barod i ddod ymlaen â'u cwynion yn beth i'w groesawu yn nhermau parodrwydd pobl i ddod ymlaen yn y system.