Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ein gêm yn erbyn Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yw'r gêm flynyddol fawr i dîm rygbi'r Cynulliad, ac fe'i cynhelir ar ddiwrnod gêm pencampwriaeth y chwe gwlad rhwng Cymru a Lloegr. Byddaf yno, ym Mharc Roslyn yn Llundain ddydd Sadwrn, ochr yn ochr â nifer o Aelodau eraill, gobeithio gyda phob un ohonoch sydd wedi cael eich gwahodd i chwarae neu i gefnogi. Byddwn yno fel Aelodau, fel staff cymorth, fel ymchwilwyr, fel staff diogelwch, a bydd fy mab yno hefyd, i gyd ag un prif amcan: na, nid i ychwanegu at y chwe gêm a enillwyd gennym eisoes, er mor bwysig yw hynny, ond i wneud popeth yn ein gallu i godi proffil yr elusennau rydym yn eu cefnogi.
Mae elusen canser y coluddyn wedi cael wythnos brysur, yn cyhoeddi adroddiad newydd, yn galw am atgyfnerthu gwasanaethau a diagnosis gwell. Ac wrth wisgo cit rygbi'r Cynulliad, a rhoi ein cyrff yn y fantol am 80 munud ddydd Sadwrn, byddwn yn ceisio gwneud ein rhan i weiddi mor uchel ag y gallwn dros Steff a phawb arall sydd yn yr un sefyllfa ag ef, i ddweud ein bod, yn y frwydr yn erbyn canser, yn barod i fynd i'r gad.