Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i wedi bod yng nghanolfan ganser rhagorol Felindre y bore yma. Mi liciwn i ddiolch i'r staff sy'n arwain y frwydr yn erbyn canser yno a dymuno'n dda i'r holl gleifion welais i efo'u brwydrau personol eu hunain. Mae un ohonom ni yn brwydro ar hyn o bryd—un ifanc. Mae'n dymuniadau gorau ni'n mynd i Steffan Lewis, sydd wedi cael llawdriniaeth yn barod am ganser y coluddyn ac sy'n parhau â'i driniaeth. Pan wnaeth Aelod arall o'r Cynulliad yma, Glyn Davies, oroesi canser y coluddyn, mi sefydlodd o dîm rygbi, ac, ers hynny, mae tîm rygbi’r Cynulliad wedi cadw’n agos at elusen Bowel Cancer UK, yn codi arian lle gallwn ni a chodi ymwybyddiaeth bob amser. Rydw i'n gwisgo tei y tîm rŵan, ond nid tei fydd gen i amdanaf i ddydd Sadwrn, ond cit y tîm.