Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 7 Chwefror 2018.
Mae pob un yn y Siambr hon yn deall yn iawn nad yw galw am fwy o wleidyddion o reidrwydd yn mynd i fod yn boblogaidd. Serch hynny, mae'r adroddiad yma'n amlygu'r angen i weithredu i fynd i'r afael â'r bwlch mewn capasiti. Nododd y panel y cynigion sydd eisoes wedi'u gweithredu drwy ddulliau eraill er mwyn cynyddu capasiti'r Cynulliad, ond ni fu'r dulliau hynny ynddynt eu hunain yn ddigon. Felly, mae gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb i archwilio beth yn fwy y gellir ei wneud.
Er mwyn ethol mwy o Aelodau, mae angen system i wneud hynny, wrth gwrs, ac mae'r panel wedi ffafrio tair system benodol yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion craidd. Mi fydd ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad yn gwahodd ymatebion i'r argymhellion hyn, ynghyd â rhai awgrymiadau eraill ynglŷn â'r trefniadau etholiadol a threfniadau mewnol sydd wedi eu codi eisoes gan bwyllgorau'r Cynulliad yma yn eu gwaith blaenorol. Fe fydd yr ymgynghoriad hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y syniadau arloesol a blaengar yn adroddiad y panel am sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth, yn enwedig o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, ac edrychaf ymlaen at glywed y sylwadau ynglŷn â sut y gall cynigion ar gyfer y systemau etholiadol arwain at Gynulliad sy'n adlewyrchu'n well y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethau. Felly, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r pleidiau ar yr argymhellion hyn, ac ar unrhyw awgrymiadau amgen eraill y maent yn credu y gallent ddenu'r consensws anghenrheidiol yma yn y Siambr.
Mae adroddiad y panel arbenigol yn ei gwneud yn glir: os bydd y Cynulliad yn derbyn yr achos i gynyddu maint y Cynulliad a newid ein system etholiadol, yna nawr, yn ystod tymor y Cynulliad yma, yw'r amser i weithredu ac i ddeddfu. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn faterion sy'n mynd i wraidd ein trefniadau cyfansoddiadol, a dyna pam mae'r cydweithredu rhwng y pleidiau gwleidyddol ar y mater hwn dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod mor bwysig. Diolch i arweinwyr y pleidiau am eu mewnbwn, ac i'r Aelodau unigol hynny—ac, yn wir, i'r cynrychiolwyr sydd wedi mynychu cyfarfodydd o'r grŵp cyfeirio gwleidyddol. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y ffordd gadarnhaol, adeiladol a sensitif y mae pawb wedi ymgysylltu â'r materion anodd yma.
Fy mwriad yw parhau yn y modd hwnnw, a dylai diwygiad mor bwysig â hyn bob amser gael ei yrru ar sail drawsbleidiol, gyda chonsensws gwleidyddol eang yn y Siambr yma, ac yn fwy eang. Mi fydd ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys cwestiynau penodol am leihau'r oedran pleidleisio i gynnwys pobl sy'n 16 ac 17, i ganiatáu pawb sy'n preswylio yng Nghymru yn gyfreithlon i bleidleisio, hyd yn oed os nad ydynt yn ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol, ynghyd â rhai carcharorion.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad i’r Siambr yma bythefnos yn ôl, gan amlinellu ei gynigion ef ar gyfer diwygio etholiadau llywodraeth leol, yn cynnwys newidiadau tebyg i’r etholfraint. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ymrwymiad i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i sicrhau bod ein cynigion ar gyfer diwygio yn cael eu datblygu i greu fframwaith cydlynus, ymarferol ac effeithiol ar gyfer etholiadau yng Nghymru i'r dyfodol. Y cam nesaf o'r gwaith yw ymgysylltiad eang gyda holl Aelodau'r Cynulliad, gyda chymdeithas ddinesig a gwleidyddol, ac, yn fwy na dim, gyda phobl Cymru.
Bwriad y Comisiwn yw lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos nesaf, gan ofyn am farn ar argymhellion y panel arbenigol, ac ar ddiwygiadau posibl eraill i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad. Mae angen i'r sgwrs yma gynnwys ystod eang o leisiau o bob cwr o Gymru: pobl sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad yn aml, pobl na fyddent byth yn ystyried ymateb i ymgynghoriad y Cynulliad, a phobl a allai fod yn gwybod ychydig yn unig am y sefydliad ar hyn o bryd. I'r perwyl yma, felly, bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau gwahanol a fydd yn helpu pobl i ddeall y cynigion ac ymateb mewn ffyrdd addas. Er enghraifft, yn ogystal â chyhoeddi dogfen ymgynghori ffurfiol, fe fyddwn yn lansio gwefan fach i ddarparu gwybodaeth am y cynigion a helpu pobl i ymateb ar y materion sydd bwysicaf iddynt.
Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad heddiw yn gwahodd Aelodau i gymeradwyo penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori â phobl Cymru ar y ffordd ymlaen—dim mwy, dim llai. Bydd gwrando ar farn pobl, deall eu pryderon ac adeiladu ar eu syniadau yn ein helpu i benderfynu a yw'r amser yn iawn i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r sefydliad a chynnwys y ddeddfwriaeth honno. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig yma heddiw, a thrwy hynny sicrhau mai lleisiau y bobl yr ydym ni yn eu gwasanaethu fydd yn llunio dyfodol ein Senedd ni.