5. Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:58, 7 Chwefror 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig yn fy enw i.

Y llynedd, pasiwyd Deddf Cymru 2017, gan nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae yna wahanol safbwyntiau yn y Siambr hon ynghylch y Ddeddf yna a'r hyn y mae'n ei olygu i ddyfodol datganoli yng Nghymru. Serch hynny, yr wyf yn siŵr y gallem ni i gyd gytuno bod datganoli pwerau dros ein trefniadau etholiadol a mewnol ein hunain yn ddatblygiad pwysig. Mae'n gyfle i ni sicrhau bod ein Senedd genedlaethol yn adlewyrchu'n well y gymdeithas yr ydym yn ei chynrychioli ac yn gweithio yn y modd mwyaf effeithiol posib wrth ymateb i anghenion ein cymunedau.

Cam cyntaf pwysig yw defnyddio'r pwerau hyn i newid enw'r Cynulliad i 'Senedd Cymru', i sicrhau bod pawb yn deall beth mae'r sefydliad hwn yma i'w gyflawni, a sut mae'n gweithio gyda phobl Cymru ac ar ran pobl Cymru.

Mae'r Comisiwn hefyd wedi rhoi mesurau eraill ar waith, gan gynnwys sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru i ysbrydoli a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad, a gweithredu argymhellion y tasglu newyddion digidol annibynnol i'w gwneud hi'n haws i bobl ddeall yr hyn y mae'r Cynulliad yn ei wneud a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Fodd bynnag, pan ddaw Deddf Cymru i rym y mis Ebrill yma, byddwn yn gallu mynd ymhellach na hyn, i newid maint y Cynulliad, system etholiadol a threfniadau mewnol y sefydliad, yn ogystal ag etholfraint ein hetholiadau, gan gynnwys yr oedran pleidleisio.

Y llynedd, sefydlodd Comisiwn y Cynulliad banel arbenigol ar ddiwygio etholiadol i roi cyngor cadarn a gwleidyddol ddiduedd i ni ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Ers hynny, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r panel wedi cyhoeddi adroddiad manwl ac argymhellion penodol sy'n cynnwys neges glir ar gapasiti ein sefydliad. Daeth i'r casgliad bod y Cynulliad, gyda dim ond 60 Aelod, yn rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Hoffwn ddiolch, ar y pwynt yma, i'r panel, o dan gadeiryddiaeth Laura McAllister, am yr adroddiad cynhwysfawr a thrylwyr y maent wedi'i gyflwyno i ni.