Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 7 Chwefror 2018.
A gaf fi hefyd ymuno â'r Aelodau eraill i longyfarch Laura McAllister a'r panel am lunio adroddiad awdurdodol? Credaf ei fod cystal ag unrhyw beth a fyddai wedi'i gynhyrchu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae'n dilyn traddodiad balch o adrodd cyfansoddiadol a fu gennym yn ein hanes ers datganoli. Efallai ein bod wedi gorfod gwneud llawer o'r meddwl ar hyd y ffordd—ac felly cawsom gomisiwn Richard, cawsom gomisiwn Silk, a chomisiwn Holtham, er bod hwnnw'n ymwneud yn fwy uniongyrchol â Llywodraeth Cymru. Maent yn gorff o dystiolaeth gwych iawn ar y materion cyfansoddiadol canolog hyn yn fy marn i. Ni chredaf y gall unrhyw un ohonom amau prif ganfyddiad yr adroddiad, sef—a dyfynnaf—fod y Cynulliad
'yn rhy fach a bod gormod o bwysau arno.'
Rwyf wedi gwasanaethu yn y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999. Rwyf wedi ei weld yn esblygu a sylweddolaf, yn glir iawn, fod swm y gwaith a wnawn yn rhyfeddol—a'r rheswm am hynny yw ein bod yn cael cefnogaeth dda, yn meddu ar staff rhagorol, ac wedi dysgu addasu ein gweithdrefnau. Ond nid yw o reidrwydd yn ddigymell mewn rhai agweddau, ac mae cynnal capasiti y gwaith a wnawn yn rhoi llawer o straen ar rannau penodol o'r strwythur deddfwriaethol, ac mae'n briodol inni edrych ar hyn. Mae'r adroddiad yn dweud bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol arnom. Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn sicr pan fyddwch yn ein cymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn llai o lawer ac mae angen inni roi sylw i hyn.
A gaf fi droi at yr hyn a ddywedodd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol? Un o'u canfyddiadau canolog oedd nad oes gennym ond oddeutu 42 o ACau sy'n gallu bod yn aelodau o bwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru. Dyma sydd wrth wraidd ein gwendid, mewn gwirionedd; nad oes digon o ACau ar gyfer gwaith craffu. Beth bynnag a ddywedwn am ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, mae wedi cynhyrchu pwerau gweithredu cryf dros ben. Roeddwn yn siarad â rhywun y diwrnod o'r blaen a brotestiodd yn erbyn fy nefnydd o'r gair 'ffederal', a dywedais, 'Wel, mewn gwirionedd, yn y DU, rydym y tu hwnt i ffederaliaeth; mae ein Llywodraethau'n llawer cryfach na'r rhan fwyaf o Lywodraethau ffederal yn y byd gorllewinol.' Felly, mae angen inni gael deddfwrfa bwerus hefyd i graffu ar waith y Cynulliad hwnnw.
Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cynyddu'r aelodaeth yn eu barn hwy yn galw am newid y system etholiadol, ac mae'n well ganddynt y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond fy hun, nid wyf yn credu ei bod yn ddoeth inni gysylltu cynyddu maint y Cynulliad gyda system etholiadol newydd. Gallai un ddifetha'r llall os nad ydym yn ofalus iawn, a chredaf fy mod wedi synhwyro tôn o'r fath yng nghyfraniad Vikki Howells. Credaf y byddai'n ddoeth iawn inni edrych ar yr hyn sy'n hanfodol, sef gweld a allwn gynyddu maint y Cynulliad gyda chefnogaeth y cyhoedd.
Nawr, fe ddywedais 'rhwng 20 a 30'. Yn sicr, rwy'n credu y byddai 30 o aelodau ychwanegol yn gofyn gormod. Byddai hynny'n cynyddu ein maint o hanner. Yng Ngogledd Iwerddon, maent yn ystyried torri ychydig, i lai na 90 rwy'n credu. Pe baem yn awgrymu nifer mwy cymedrol o 75 Aelod, rwy'n cynnig y byddai cyfran yr Aelodau etholaethol o gymharu â'r Aelodau rhanbarthol yn aros yr un fath. Felly, ni fyddai'n rhaid inni newid y system etholiadol—er y byddai angen 50 o etholaethau ar gyfer ethol yn uniongyrchol wrth gwrs. Felly, byddai'n rhaid i gomisiwn ffiniau gyfarfod i wneud hynny. Ond o leiaf gallem fwrw ymlaen ar sail gwarchod system etholiadol bresennol y system aelod ychwanegol, sy'n cynhyrchu lefel eithaf uchel o gymesuredd. Dyna pam y mae wedi para ers cyhyd yn yr Almaen. Felly, dyna fyddai fy awgrym. Gwn hefyd y gallech gadw'r gyfran honno pe bai gennych 90 o Aelodau, ond credaf y byddai hynny'n gofyn gormod mewn gwirionedd o ystyried yr hinsawdd wleidyddol gyffredinol ar hyn o bryd.
Yn olaf a gaf fi droi at rôl dinasyddion? Credaf ein bod yn gweld grym mawr yn cael ei greu yn awr dros gynnwys dinasyddion, ac rydym yn symud yn bendant iawn tuag at ddemocratiaeth gyfranogol. Mae democratiaeth gynrychioliadol ar drai, mae dinasyddion angen llawer mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ac rwy'n croesawu hynny. Dyna pam yr awgrymais y dylem edrych ar sefydlu siambr dinasyddion ar ryw bwynt yn y Cynulliad Cenedlaethol. Nawr, efallai y byddwch am wneud hynny ar ugeinfed pen-blwydd datganoli a gofyn i'r siambr honno edrych ar y cyfansoddiad yn ei gyfanrwydd. Efallai mai dyna fydd un dasg, ond gallai hefyd edrych ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ac awgrymu eitemau ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol honno.
Ond mae gennyf un cyngor i'r Comisiwn: credaf fod angen rhywbeth llawer mwy gweithredol o ran cynnwys dinasyddion na'r hyn a welais yn cael ei awgrymu hyd yma mewn perthynas ag ymgynghori. Mae angen rheithgor neu banel dinasyddion fan lleiaf arnom i edrych ar y cwestiwn hwn, oherwydd gallai agor y drysau i wneud y polisi hwn yn ymarferol. Pe baem yn cael cefnogaeth rymus gan y cyhoedd, a bod hynny'n amlwg yn ddiduedd, credaf y gallem symud ymlaen ar y mater hwn. Nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y rhai sy'n dweud, 'Wel, bydd yn costio £100,000 neu £200,000 i redeg y math hwnnw o banel neu reithgor.' Wedi'r cyfan, rydym yn ystyried cynnydd sylweddol yn ein haelodaeth, a fydd yn creu miliynau o bunnoedd o wariant ychwanegol. Felly, dyna fy nghyngor i i'r Comisiwn: sicrhewch fod dinasyddion yn cael lleisio barn.