Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd, am gyflwyno'r cynnig heddiw ar ran Comisiwn y Cynulliad. Hefyd, hoffwn ddiolch i'r panel arbenigol am gynhyrchu ei adroddiad, a'r grŵp cyfeirio gwleidyddol ei hun, sydd wedi bod yn cyfarfod dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cyfarfodydd y grŵp cyfeirio gwleidyddol yn ddiddorol iawn, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf, er bod yn rhaid imi nodi mai un yn unig a fynychais yn bersonol, a hynny fel dirprwy. Ond gwrandaowdd UKIP yn ofalus ar y panel a'r hyn a oedd ganddynt i'w ddweud, ac ar ymateb y pleidiau gwleidyddol hefyd.
Ond rwy'n credu bod barn y pleidiau gwleidyddol am y newidiadau arfaethedig hyn yn llai pwysig mewn gwirionedd na barn y cyhoedd amdanynt. Dyna pam y mae UKIP yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus ac felly'n hapus i gefnogi'r cynnig heddiw. Ond teimlwn y dylai'r ymgynghoriad weithredu fel ffordd o addysgu etholwyr Cymru am y newidiadau arfaethedig hyn, a chredwn mai'r mwyaf ohonynt yw'r cynllun arfaethedig i ehangu'r Cynulliad. Credwn fod hwn yn fater mor fawr fel y dylai'r ymgynghoriad arwain at refferendwm yn y pen draw, gan na ellir pennu fod unrhyw gydsyniad poblogaidd wedi'i roi heb inni gael refferendwm o'r fath yn gyntaf.
Nawr, o ran y materion eraill, pleidlais yn 16 oed: mae gennym bolisi cenedlaethol ar hynny hefyd, ac rydym yn gwrthwynebu ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd: credwn y dylai hynny fod yn fater i'r pleidiau gwleidyddol eu hunain benderfynu yn ei gylch. Y broblem gyda'r ymgynghoriad yw sut i gael ymglymiad eang, a sut i sicrhau y caiff lleisiau eu clywed yn hynny ac nid yr hen wynebau'n unig—hynny yw, y rhanddeiliaid sydd eisoes yn gwbl gefnogol i'r Cynulliad fel sefydliad ac a fyddai'n ddigon bodlon gweld Cynulliad estynedig. Rhaid inni sicrhau nad yw'r ymgynghoriad wedi'i rigio mewn unrhyw ffordd.
Nawr, mae'r Llywydd wedi siarad am yr angen am gonsensws yn y lle hwn, ond hefyd am yr angen am ryw fesur o gydsyniad poblogaidd. Yn UKIP, credwn y byddai'n annoeth bwrw ymlaen, yn enwedig gydag ehangu'r Cynulliad, heb sicrhau'r cydsyniad poblogaidd hwnnw drwy gyfrwng refferendwm.