Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Hoffwn hefyd gofnodi diolch y Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol i Laura McAllister a'i thîm. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu sydd wedi digwydd â chynrychiolwyr gwleidyddol, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd mae'n hanfodol bellach yn ein barn ni ein bod yn gofyn i bobl Cymru am eu safbwyntiau ac nad ydym yn achub y blaen ar eu barn. Rydym yn ystyried mai'r cyfrifoldeb allweddol ar gyfer Comisiwn y Cynulliad yw sicrhau bod gan y Cymry ddealltwriaeth glir o'r cyfrifoldebau ychwanegol a ddaw yn sgil Deddf Cymru 2017. Rydym yn credu bod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb clir iawn i sicrhau bod gan bobl Cymru ddealltwriaeth dda o'r cynigion a wnaed gan y panel arbenigol. Mae'r cynigion hyn yn eithaf cymhleth o ran eu manylder. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn, yn enwedig argymhellion 6 a 7, sy'n sôn ynglŷn â sut y gallwn bleidleisio, neu sut y gall pobl Cymru bleidleisio dros Aelodau'r Cynulliad. Credaf fod angen eglurder gwirioneddol ynghylch unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol fel y gall pobl ddeall yn glir iawn beth yw'r gwahanol opsiynau. Mae'n system eithriadol o gymhleth.
Credwn yn gryf iawn hefyd fod gan Gomisiwn y Cynulliad gyfrifoldeb mawr iawn bellach i sicrhau y gall cymaint â phosibl o bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Rhaid iddo gynnwys mwy na'r rhanddeiliaid arferol. Rhaid inni gysylltu â'r bobl i gyd. Felly, byddwn yn eich annog i edrych ar ffyrdd arloesol a gwahanol o gyrraedd pobl, pa un a ydynt yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin, i sicrhau bod pawb yn cael cyfle.
Nid Cynulliad ydym bellach ond Senedd, ac mae'n hanfodol fod gan Aelodau'r Cynulliad yn y lle hwn y gallu, yr amser a'r adnoddau at eu defnydd i allu craffu'n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Wrth imi eistedd yma'n gwrando ar araith agoriadol y Llywydd, dros fy mlynyddoedd o fod yn Aelod Cynulliad, rwyf wedi bod yn y brif wrthblaid bob amser, namyn un blip bach iawn, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw gallu craffu pan ydych yn y rôl honno i allu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dwyn y blaid sy'n llywodraethu i gyfrif, oherwydd mae'n rhaid gallu pwyso a mesur ym mhob cymdeithas, a mae'n rhaid inni allu pwyso a mesur pwy bynnag sydd yn Llywodraeth yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny mae angen i ni fod yn effeithiol, yn deg, yn ddiduedd ac yn llawer llai llwythol ein natur mewn perthynas â phwyllgorau, a rhaid inni hefyd alluogi plaid lywodraethol i gael mainc gefn gadarn, oherwydd dyna'r ffordd y mae democratiaeth wirioneddol dda yn gweithio. Felly, gallwn weld bod yr alwad i weithredu, yr alwad i adolygu sut rydym yn rhedeg ein Cynulliad, yr alwad i adolygu'r arfau sydd gennym at ein defnydd, o bwys enfawr bellach. Ond mae'n un anodd i'w esbonio i bobl, a rhaid inni ei gwneud yn glir iawn—neu mae dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i'w gwneud yn glir iawn—fod pobl Cymru yn deall hynny, ac yna, pan fyddant wedi penderfynu, rhaid i ni wrando arnynt a chadw at hynny, oherwydd eu Senedd hwy yw hon wedi'r cyfan.