Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i'r Llywydd am gyflwyno'r ddadl yma heddiw, ac i Laura McAllister a'i thîm am waith mor drwyadl. Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl lle'r ydym ni wedi bod yn trafod o'r blaen. Rydw i'n cofio mynd, ar ran Plaid Cymru, i roi tystiolaeth i'r comisiwn Richard ynglyn ag ehangu'r Cynulliad y pryd hwnnw, pan benderfynwyd neu yr argymhellwyd y dylem ni symud—hyd yn oed dros 10 mlynedd yn ôl—at Gynulliad o 80 Aelod, a dyma ni yn dal, felly, yn 60. Felly, mae'n hen bryd inni siarad â phobl Cymru ynglŷn ag argymhellion trwyadl, go iawn, a phwrpasol iawn ar gyfer troi Cynulliad sydd yn esblygu’n Senedd yn Senedd go iawn, gyda chydbwysedd go iawn rhwng y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau.
Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, ond nid ydw i eisiau sarnu chwaith ar ymgynghoriad go iawn â’r cyhoedd. Felly, nid ydw i ond eisiau sôn ychydig am yr egwyddorion y mae Plaid Cymru’n teimlo eu bod yn bwysig wrth inni edrych ar hwn, gan gadw, wrth gwrs, yr opsiynau ar agor ar gyfer y dulliau o gyflawni’r egwyddorion hyn.
Yn gyntaf oll, rydw i eisiau sôn am y ffaith bod angen ehangu capasiti a gallu’r Cynulliad i graffu ar y Llywodraeth a dal y Llywodraeth i gyfrif. Mae hyn yn rhywbeth y mae Angela Burns newydd sôn amdano hefyd. Wrth gwrs, fel arfer, mae hwn yn cael ei ddisgrifio fel 'mwy o wleidyddion', ond hoffwn i ei ddisgrifio fe yn hytrach fel mwy o wleidyddion ond llai o rym i’r Llywodraeth, achos y Llywodraeth sydd yn gorfod wynebu Senedd fwy grymus, mwy pwerus yn Llywodraeth sydd yn gallu bod yn fwy atebol—yn gorfod bod yn fwy atebol—i gyhoedd Cymru. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn colli gwleidyddion yng Nghymru. Byddwn ni’n colli Aelodau Senedd Ewrop, ac rŷm ni o hyd yn trafod colli Aelodau Seneddol San Steffan drwy ddiwygio seneddol.
Yr ail egwyddor yw estyn yr etholfraint bleidleisio i bobl ifanc. Rydw i’n gwybod, drwy drafod ag ysgolion fy hunan, fod pobl ifanc yn rhannu yn eithaf 50:50 ar y materion yma eu hunain, ond rydw i yn credu bod estyn yr hawl yna i bobl ifanc i bleidleisio o 16 ymlaen yn rhywbeth y dylem ni nawr ystyried o ddifrif ar y cyd â’r newidiadau sy’n digwydd i’r cwricwlwm cenedlaethol.
Yn drydedd, wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr y bydd beth bynnag yr ŷm ni’n ei wneud yn gyfystyr neu’n gyfartal â chyfranogaeth pleidleisiau sydd gyda ni eisoes yn y Cynulliad, neu hyd yn oed yn gwella ar hynny. Ac mae yn bwysig i Blaid Cymru ein bod ni’n taro’r cydbwysedd yn iawn rhwng atebolrwydd lleol a’r ffaith bod pleidleisiau dros Gymru i gyd yn cael eu hadlewyrchu gymaint ag sy’n bosibl yn y lle hwn yn y ffordd y mae pobl yn pleidleisio. Rŷm ni’n dathlu’r ffaith bod isetholiad wedi digwydd ddoe ac yn croesawu Jack Sargeant fel Aelod newydd, sydd yn dangos bod yna brawf yn y broses, ac er efallai fod yna rai yn siomedig yn y nifer a oedd wedi troi mas, roedd hi’n eithaf calonogol a dweud y gwir fod bron un o bob tri o bobl Alun a Glannau Dyfrdwy wedi pleidleisio mewn isetholiad—mae’n well nag ambell isetholiad yn San Steffan. Ond, po fwyaf yr ydym yn gallu adeiladu ar gyfranogaeth, gorau y bydd y Senedd yma yn ymdrin â’r materion ger bron.
Wrth gwrs, mae’n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ac yn gwella ar y gynrychiolaeth gan y ddau ryw yma. Mae hwn yn rhywbeth y mae Siân Gwenllian wedi sôn yn ddiweddar yn y Cynulliad amdano. Mae yna argymhellion pendant gan Laura McAllister yn yr adroddiad. Yr hyn a ddywedaf i nawr yw nad yw hi’n anghyffredin o gwbl mewn democratiaeth fodern gweld prosesau a thechnegau yn eu lle i sicrhau bod y senedd yn cynrychioli, gymaint ag sy’n bosibl, ddynion a menywod yn gyfartal.