Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 7 Chwefror 2018.
Pleser o'r mwyaf yw cyfrannu at y ddadl ar y cynnig deddfwriaethol ar chwarae cynhwysol, a gyflwynwyd gerbron y Siambr gan Vikki Howells. Mae'n rhoi cyfle inni bwyso a mesur cynnydd ers y ddeddfwriaeth arloesol ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Cyfrannodd llawer o Aelodau—nad ydynt yma yn y Siambr ar hyn o bryd—at hynny.
Mae'n werth nodi bod y gair 'arloesol' wedi'i ddefnyddio gan Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol y gwn eich bod wedi cydweithio'n agos â hi, Vikki. Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant yw hi, ac maent wedi arwain y ffordd yn y byd gyda'u hymagwedd yn seiliedig ar hawliau tuag at chwarae plant. Treuliais amser yn fy ngyrfa gynnar mewn gwaith cymunedol yn datblygu a gweithio ar lwyth o feysydd chwarae yng Nghaerdydd ac yn y Pil yng Nghasnewydd. Roeddwn yn falch o gynnwys y dystiolaeth honno o fy mhrofiad ym mholisi chwarae cyntaf y byd ym mis Hydref 2002, pan oeddwn yn Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mewn iaith a thermau syml, nodai'r polisi chwarae gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd hanfodol chwarae ac ymrwymiad y dylai cymdeithas fynd ar drywydd pob cyfle i'w gefnogi. A chredwch neu beidio, nid oedd chwarae yn flaenoriaeth polisi ar y pryd. Ond roeddem yn gweithio fel Llywodraeth, fel rydych yn ei wneud yn awr, ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn 2006, ymrwymodd 'Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru'—teitl hir iawn—i sicrhau bod erthygl 31 o'r Confensiwn i gydnabod pwysigrwydd chwarae i'r plentyn yn cael ei weithredu'n llawn. Roedd y cynllun cyflawni ar gyfer chwarae yn cyfeirio at y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a hefyd, cyfeiriai at astudiaethau achos, megis Interplay yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a dyfynnaf:
Dechreuodd Interplay yn 1987 fel prosiect chwarae dros yr haf ac mae wedi tyfu ers hynny i ddod yn ddarparwr gydol y flwyddyn o chwarae a hamdden cynhwysol ar gyfer plant 5–19 oed yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr rywfaint o anableddau dysgu; mae gan lawer ohonynt namau corfforol, nam ar y synhwyrau ac ymddygiad heriol. Nid yw Interplay yn rhedeg cynlluniau chwarae, ond yn hytrach mae'n darparu staff cymorth ychwanegol i alluogi plant 5-11 oed gydag anghenion amrywiol i gael eu hintegreiddio i gynlluniau chwarae a drefnir gan awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol lleol a chanolfannau hamdden.
Mae angen i unrhyw bolisi i wella chwarae cynhwysol wneud defnydd o'r amgylchedd naturiol yn ogystal: er enghraifft, chwarae stryd, parthau 20 milltir yr awr, ac mae'n rhaid iddo ddenu plant eu hunain i nodi eu hawliau chwarae. A dyna oedd gogoniant datblygu meysydd chwarae antur, megis—a gwn nad yw yma ar hyn o bryd, ond rwyf wedi ymweld sawl gwaith gyda Lesley Griffiths â meysydd chwarae Y Fenter, fel y bydd rhai ohonoch wedi ei wneud yn Wrecsam o bosibl, cynllun sy'n dal i fod yn arloesol iawn.
Credaf fod Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyflwr presennol syniadau polisi a'r ddarpariaeth, gan gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn y diffiniad o chwarae cynhwysol, ond credaf fod Vikki Howells wedi ymestyn y diffiniad hwnnw i sicrhau ein bod yn cynnwys anghenion plant a phobl ifanc anabl.
Rwy'n meddwl bod y ddadl hon yn ein galluogi i roi chwarae yn ôl ar yr agenda, gan wella lles a hawliau plant, a chofio, wrth gwrs, fod y cyfnod sylfaen yn wir wedi agor dysgu drwy chwarae sydd wedi arwain at fwy o hyder yn ein pobl ifanc. Yn amlwg edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog, ond gadewch inni ddefnyddio ein polisi a'n deddfwriaeth arloesol i ailddatgan pwysigrwydd chwarae yng Nghymru ac ystyried beth arall y gallwn ei wneud o safbwynt deddfwriaeth, fel y mae Vikki Howells wedi ei gynnig heddiw.