6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil chwarae cynhwysol

– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:37, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at eitem 6, sef dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Vikki Howells i wneud ei chynnig ar y Bil chwarae cynhwysol.

Cynnig NDM6537 Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol a fyddai'n golygu bod rhaid iddynt ddarparu offer chwarae sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:37, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae chwarae yn rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n annog iechyd corfforol a lles, yn mynd i'r afael â gordewdra, yn gwella sgiliau echddygol a deheurwydd, yn adeiladu gwydnwch a ffitrwydd. Mae hefyd yn hyrwyddo lles meddyliol. Mae chwarae'n cyfrannu at ddatblygiad ymennydd iach. Mae'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r dychymyg. Mae'n rhoi cyfleoedd newydd i blant  ymgysylltu a rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas. Ond mae hefyd yn cyflawni'r rôl fwy sylfaenol o greu hunaniaeth yr unigolyn. Dywedodd y pediatregydd enwog, Donald Winnicott:

Mewn chwarae, a dim ond mewn chwarae, y gall y plentyn unigol... fod yn greadigol a defnyddio'r bersonoliaeth gyfan, a dim ond drwy fod yn greadigol y mae'r unigolyn yn darganfod yr hunan.

Roedd Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn datgan hawl plant i chwarae. Gosododd ddyletswydd ar Lywodraethau i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei pharchu, a'i chodeiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Aeth y Cynulliad hwn ati'n rhagweithiol i gyflawni hyn, a dyma oedd y Senedd gyntaf i fabwysiadu polisi chwarae cenedlaethol a'r gyntaf i ddeddfu ar gyfer chwarae plant.

Gosododd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau digon o gyfleoedd chwarae i blant, megis drwy feysydd chwarae sefydlog. Er nad dyma'r unig gyfleoedd ar gyfer chwarae, maent yn parhau i fod yn un o'r opsiynau mwyaf poblogaidd a chyfleus. Ond nid yw hynny'n wir yn achos pob plentyn. Yn arbennig, nid yw'n wir i rai ag anabledd. Yn 2015, cynhaliodd Sense  ymchwiliad cyhoeddus i'r ddarpariaeth o gyfleoedd chwarae i blant hyd at bump oed gydag anghenion niferus yng Nghymru a Lloegr. Fe'i cyhoeddwyd yn 2016, ac roedd yn cynnwys rhai canfyddiadau llwm. Gwelodd gonsensws cryf fod plant sydd ag anghenion lluosog yn wynebu rhwystrau sylweddol i chwarae hygyrch. Roedd teuluoedd yn awyddus i allu defnyddio lleoliadau chwarae prif ffrwd yn y gymuned. Fodd bynnag, teimlai 92 y cant o rieni nad oedd eu plentyn yn cael yr un cyfleoedd chwarae â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Roedd llawer o leoliadau'n anhygyrch i blant ag anghenion lluosog. Ac mae hyn yn effeithio ar iechyd, lles a gallu'r plant hyn i ryngweithio gyda'u ffrindiau, eu teulu a'r gymdeithas.

Mae llawer o fy etholwyr wedi cysylltu â mi hefyd i ddweud wrthyf am y problemau y maent yn eu hwynebu. Ers cael fy ethol, mae dau faes chwarae yn fy etholaeth wedi cael eu gwneud yn gynhwysol. Mewn un achos, Glyncoch, roedd hyn yn ymwneud â hygyrchedd y safle chwarae, ac yn yr achos arall, Cilfynydd, lle y cefais y fraint o gyfarfod â merch ifanc ryfeddol iawn o'r enw Mia Thorne, golygodd osod cyfarpar chwarae newydd cynhwysol fel y gallai Mia chwarae gyda'i ffrindiau.

Gall safle anhygyrch neu gyfarpar anhygyrch fod yn rhwystrau sy'n atal plant rhag chwarae. Roedd y ddau welliant yn rhan o fuddsoddiad eithriadol o uchelgeisiol o £1.7 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn safleoedd chwarae lleol. Gellid cymryd eu bod yn dweud, 'Rydym yn ymateb i'r her.' Yn hytrach, credaf mewn gwirionedd eu bod yn gweithio i dynnu sylw at y broblem. Er enghraifft, cefais wahoddiad gan un o fy nghyd-Aelodau yma i weld maes chwarae newydd yn eu hetholaeth mewn man arall yng Nghymru. Roedd y buddsoddiad wedi costio cannoedd o filoedd o bunnoedd, ac roedd yn safle trawiadol iawn gyda darnau o gyfarpar gwirioneddol dda. Gwnaed y parc ei hun yn hygyrch fel rhan o'r gwaith, ond nid oedd unrhyw gyfarpar chwarae cynhwysol. Gallai plant ag anableddau deithio at y cyfarpar chwarae, ond ni allent ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd. Teimlwn fod hwn yn gyfle mawr a gollwyd, o ystyried y swm enfawr a fuddsoddwyd. Am oddeutu £1,000 yn fwy, gellid bod wedi darparu cyfleoedd chwarae cynhwysol.

Felly, dyna gyfle a gollwyd, a dyna'n union lle byddai fy nghynnig yn dod yn weithredol. Rwy'n gofyn i Aelodau'r Cynulliad heddiw nodi fy nghynnig ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Yn syml, byddai'r Bil hwn yn gwella cyfleoedd chwarae cynhwysol drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel bod yn rhaid iddynt ddarparu offer chwarae a mannau sy'n diwallu anghenion plant ag anableddau. Byddai hyn yn adeiladu ar Fesur 2010. Mae hwnnw eisoes yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer chwarae. O'r naw elfen yn hwn, mae dwy yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion cynwysoldeb, ond mae Chwarae Cymru wedi nodi heriau i gynghorau gyflawni'r rhain oherwydd gallu ac adnoddau. Byddai fy nghynnig yn cryfhau ac yn gwella hyn, gan flaenoriaethu'r ddarpariaeth o gyfarpar chwarae cynhwysol.

Rwyf am droi at rwystrau posibl i fy nghynnig. A fyddai Bil o'r fath yn rhoi pwysau ariannol diangen ar gynghorau, yn enwedig yng nghyd-destun y cyni yn y sector cyhoeddus ehangach? Rwyf o'r farn na fyddai. Gallai newidiadau ddigwydd dros amserlen hirdymor heb ddisgwyliadau uniongyrchol o newid llwyr. Gallai cynghorau ddatblygu a chynllunio meysydd chwarae cynhwysol ar sail hylaw fel rhan o unrhyw waith rheolaidd. Fel y mae enghraifft Rhondda Cynon Taf a ddisgrifiais yn gynharach yn ei awgrymu, mae cynghorau'n buddsoddi ac yn uwchraddio offer chwarae yn weddol reolaidd. Ni fyddai fy nghynnig ond yn sicrhau bod uwchraddio a gynlluniwyd yn cynnwys darpariaeth o offer cynhwysol sy'n hygyrch neu wedi'i addasu ar gyfer rhai â phroblemau synhwyraidd—ei bod yn egwyddor gychwynnol yn hytrach nag ychwanegiad munud olaf.

Ar ben hynny, nid yw'r gwahaniaeth rhwng offer chwarae cynhwysol ac offer nad yw'n gynhwysol mor sylweddol ag y gallech ei dybio. Gellid ei wneud yn gyfforddus o fewn gwaith adnewyddu man chwarae ar gost o ddegau o filoedd, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud wrthyf mai cyfartaledd yr hyn a wariant ar adnewyddu un man chwarae yw tua £25,000 yn fras. Mae hyn hefyd yn egluro pam na fyddai cynnig o'r fath yn arwain at ganlyniad anfwriadol fod cynghorau'n peidio ag adnewyddu eu cyfarpar chwarae. Ond problem fwy heriol yw nad oes un darn o offer chwarae a fyddai'n addas i'r holl fathau o anableddau neu bob oedran. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn yw bod yna amryw o ddarnau o gyfarpar a allai fod o fudd i nifer o wahanol grwpiau o ddefnyddwyr.

Nawr, hyd yn oed os yw'r Aelodau'n cefnogi fy nghynnig heddiw, gwn na fydd newid sydyn yn y gyfraith. Fodd bynnag, ceir nifer o gynigion synhwyrol y gellid eu defnyddio i archwilio'r mater ymhellach. Er enghraifft, hoffwn weld yr asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae y mae awdurdodau lleol eisoes yn eu cynhyrchu yn cael eu cyhoeddi. Byddai rhannu gwybodaeth yn well yn grymuso plant a'u teuluoedd fel ein bod ninnau a hwythau'n gwybod beth sydd ar gael. Gellid cryfhau ymwybyddiaeth drwy ryw fath o wobr Baner Werdd am arfer da, naill ai fel menter annibynnol neu fel rhan o'r cynllun nodi mannau gwyrdd sydd eisoes wedi'i sefydlu. A gellid hysbysebu unrhyw waith a wneir ar hyn drwy wefan fel bod rhieni'n gallu defnyddio a gweld ble y lleolir meysydd chwarae cynhwysol da. Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar fy nghynnig.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:44, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw yn fras. Credwn y dylai plant sy'n byw gydag anableddau ac anghenion arbennig allu cael profiadau bywyd pwysig a gwerthfawr y dylai unrhyw blentyn arall yn ein cymdeithas eu cael. Ond rwy'n teimlo ei bod yn anffodus, ar un ystyr, y dylem fod yn ystyried yr anghenion i osod chwarae cynhwysol a mynediad at gyfleoedd chwarae i blant ag anableddau ar sail fwy statudol, oherwydd byddem wedi gobeithio, erbyn hyn, gyda datganoli wedi datblygu i'r fath raddau, y byddai yna gydnabyddiaeth eang gan awdurdodau a'r cyhoedd yn ehangach i'r angen i sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch i bob teulu a phob plentyn ag anabledd neu angen arbennig.

Byddem hefyd wedi gobeithio, gyda'r rhaglenni sydd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr y clywn ragor amdanynt yn nes ymlaen, na fyddai ansicrwydd ynghylch y ddarpariaeth a mynediad, fel sy'n bodoli i lawer o deuluoedd. Pan fydd yn ymateb, efallai y byddai'n werth i'r Gweinidog amlinellu pa ddarpariaeth a geir eisoes a sut y maent yn sicrhau mynediad a gwasanaethau cyson ledled Cymru ar hyn o bryd, neu sut y maent yn cynllunio i wneud hynny.

Yn fy mhrofiad fel Aelod Cynulliad ceir llu o wasanaethau y mae pobl a Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt gael eu darparu gan awdurdodau lleol, ond nad ydynt yn cael eu darparu mewn gwirionedd, neu os ydynt, yna mae'n amrywio o le i le ac weithiau o fewn yr awdurdod ei hun. Clywn yn aml fod Gweinidog yn y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau neu'n rhyddhau arian ar gyfer gwasanaeth penodol ac yn aml, mae hynny i'w groesawu, ond heb sail gyfreithiol a gofyniad i awdurdod weithredu, yn enwedig pan fo'n anodd dod o hyd i arian, daw etholwyr atom i gwyno nad ydynt yn gallu gwneud pethau y dylent allu eu cymryd yn ganiataol.

Rydym yn gweld hyn gyda phethau y tu hwnt i chwarae. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda gofalwyr ifanc—ac mae gennyf gyfarfod gyda'r Gweinidog yfory—sydd wedi dweud wrthyf, er enghraifft, fod asesiadau gofalwyr ifanc wedi'u hysgrifennu o fewn y ddeddfwriaeth, y dylent fod yn digwydd, y dylent gael eu gweithredu, ond mewn sawl ardal, nid yw hyn yn digwydd. Felly, os yw'r ddyletswydd newydd hon ar awdurdodau lleol, fel y'i disgrifiwyd gan Vikki Howells, yn mynd i ddigwydd, beth fydd hyn yn ei olygu'n ymarferol, a beth fydd yn newid ar lawr gwlad? Rwy'n meddwl fod hynny'n allweddol i unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Roeddwn yn meddwl efallai y byddai wedi ymwneud â chwarae mewn termau mwy cyffredinol. Felly, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud am sefyllfa yn fy ardal i y mae'r Gweinidog yn gwybod amdani gyda grŵp chwarae Gweithredu dros Blant yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle mae pobl yn teimlo'u bod wedi'u gadael yn y tywyllwch ynghylch y newidiadau yno ac israddio posibl rhai o'r rhai gwasanaethau hynny. Rwy'n credu ei fod yn dal yn berthnasol yma, oherwydd, wrth gwrs, bydd llawer o'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn rhai ag awtistiaeth, ac os oes offer penodol o fewn y cylch chwarae a fydd ganddynt, drwy Gweithredu dros Blant, yna mae angen i ni wneud yn siŵr fod ganddynt fynediad at yr offer hwnnw pwy bynnag yw'r darparwr yn y dyfodol. Un enghraifft anecdotaidd yw hon, ond mae'n enghraifft o'r pryderon y mae pobl yn eu dwyn i'n sylw drwy'r amser.

Rwy'n cydymdeimlo â'r alwad am ddeddfwriaeth newydd yn hyn o beth, oherwydd credaf fod angen i awdurdodau lleol wneud mwy, ond eto, daw'n ôl at y drafodaeth gydol oes a gawn ynglŷn â beth y mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i'w wneud, neu i beidio â'i wneud, a'r hyblygrwydd sydd ganddynt. Ac os oes rhwymedigaeth statudol yn mynd i fod ar awdurdodau lleol i wneud hyn, bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn ei wneud mewn gwirionedd, ac yn ei wneud yn dda.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:48, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Gwm Cynon am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n falch iawn o allu siarad yn fyr o'i phlaid.

Mae llawer o blant anabl yn colli cyfle i gymdeithasu ac i gymysgu â phlant nad ydynt yn anabl. Mae Mumsnet, gwefan fwyaf y DU ar gyfer rhieni ac elusen Scope yn galw ar awdurdodau lleol i wneud mwy i wneud darpariaeth i blant lleol megis gweithgareddau hamdden, grwpiau a chanolfannau chwarae yn gynhwysol ar gyfer plant anabl a'u teuluoedd. Ac yn ogystal â'r cyfleoedd chwarae y mae plant anabl yn eu colli, ceir effaith ganlyniadol glir yn sgil y ffaith nad yw plant nad ydynt yn anabl yn cael cyfle i chwarae gyda phlant anabl chwaith.

Plant yw'r dinasyddion mwyaf naturiol gynhwysol sydd gennym, ac eto ymddengys ein bod yn weddol effeithiol am fynd â hynny oddi wrthynt wrth iddynt dyfu, er enghraifft, drwy beidio â darparu cyfarpar chwarae cynhwysol. Mae'n amlwg fod eu gwahanu drwy beidio â darparu offer chwarae a darpariaeth gyfunol yn un o'r ffyrdd y mae'n dechrau digwydd. Felly, bydd sicrhau bod plant yn gydradd â'u cyfoedion ac annog cynhwysiant yn ddi-os yn gam i'r cyfeiriad cywir i'w magu i ddod yn oedolion mwy cynhwysol.

Mae'n rhaid dweud, wrth gwrs, nad yw'r egwyddor o sicrhau bod yr un faint o ddarpariaeth chwarae cynhwysol yn golygu fawr ddim mewn ardaloedd heb fawr o fannau chwarae, os o gwbl. Felly, yn yr un modd, rwy'n annog cynghorau nid yn unig i feddwl am y cyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl, ond y cyfleoedd chwarae sydd ar gael i'r holl blant, oherwydd nid yw fel pe bai gennym ormodedd o fannau chwarae a mannau diogel i blant fynd i chwarae ynddynt. Felly, hoffwn weld y ddarpariaeth honno'n gwella. Ond rwy'n cytuno, lle mae'n bodoli, y dylai offer chwarae a'r ddarpariaeth fod yn gynhwysol wrth gwrs. Mae pob plentyn yr un mor bwysig, ond mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac os na wnawn unioni'r anghydraddoldeb hwn, a allwn gwyno a phregethu mewn gwirionedd pan fydd agweddau negyddol tuag at bobl anabl yn parhau?

Mae chwarae'n bwysig i'n holl blant; mae cymdeithasoli'n bwysig i'n holl blant, ac mae'r cysyniad o gydraddoldeb yn hanfodol i'n plant ei ddeall, ei dderbyn a'i barchu. Os na cheir adnoddau priodol i'r cynnig hwn, ni fydd yn gwneud unrhyw beth, ond gyda'r arian iawn tu ôl iddo, gallai gyflawni pethau mawr ar gyfer ein holl blant. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig ac yn gofyn am adnoddau ystyrlon i'w gynnal, os yw'n dwyn ffrwyth mewn gwirionedd. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:50, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Pleser o'r mwyaf yw cyfrannu at y ddadl ar y cynnig deddfwriaethol ar chwarae cynhwysol, a gyflwynwyd gerbron y Siambr gan Vikki Howells. Mae'n rhoi cyfle inni bwyso a mesur cynnydd ers y ddeddfwriaeth arloesol ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Cyfrannodd llawer o Aelodau—nad ydynt yma yn y Siambr ar hyn o bryd—at hynny.

Mae'n werth nodi bod y gair 'arloesol' wedi'i ddefnyddio gan Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol y gwn eich bod wedi cydweithio'n agos â hi, Vikki. Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant yw hi, ac maent wedi arwain y ffordd yn y byd gyda'u hymagwedd yn seiliedig ar hawliau tuag at chwarae plant. Treuliais amser yn fy ngyrfa gynnar mewn gwaith cymunedol yn datblygu a gweithio ar lwyth o feysydd chwarae yng Nghaerdydd ac yn y Pil yng Nghasnewydd. Roeddwn yn falch o gynnwys y dystiolaeth honno o fy mhrofiad ym mholisi chwarae cyntaf y byd ym mis Hydref 2002, pan oeddwn yn Weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mewn iaith a thermau syml, nodai'r polisi chwarae gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd hanfodol chwarae ac ymrwymiad y dylai cymdeithas fynd ar drywydd pob cyfle i'w gefnogi. A chredwch neu beidio, nid oedd chwarae yn flaenoriaeth polisi ar y pryd. Ond roeddem yn gweithio fel Llywodraeth, fel rydych yn ei wneud yn awr, ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn 2006, ymrwymodd 'Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru'—teitl hir iawn—i sicrhau bod erthygl 31 o'r Confensiwn i gydnabod pwysigrwydd chwarae i'r plentyn yn cael ei weithredu'n llawn. Roedd y cynllun cyflawni ar gyfer chwarae yn cyfeirio at y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a hefyd, cyfeiriai at astudiaethau achos, megis Interplay yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a dyfynnaf:

Dechreuodd Interplay yn 1987 fel prosiect chwarae dros yr haf ac mae wedi tyfu ers hynny i ddod yn ddarparwr gydol y flwyddyn o chwarae a hamdden cynhwysol ar gyfer plant 5–19 oed yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. 

Mae gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr rywfaint o anableddau dysgu; mae gan lawer ohonynt namau corfforol, nam ar y synhwyrau ac ymddygiad heriol. Nid yw Interplay yn rhedeg cynlluniau chwarae, ond yn hytrach mae'n darparu staff cymorth ychwanegol i alluogi plant 5-11 oed gydag anghenion amrywiol i gael eu hintegreiddio i gynlluniau chwarae a drefnir gan awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol lleol a chanolfannau hamdden.

Mae angen i unrhyw bolisi i wella chwarae cynhwysol wneud defnydd o'r amgylchedd naturiol yn ogystal: er enghraifft, chwarae stryd, parthau 20 milltir yr awr, ac mae'n rhaid iddo ddenu plant eu hunain i nodi eu hawliau chwarae. A dyna oedd gogoniant datblygu meysydd chwarae antur, megis—a gwn nad yw yma ar hyn o bryd, ond rwyf wedi ymweld sawl gwaith gyda Lesley Griffiths â meysydd chwarae Y Fenter, fel y bydd rhai ohonoch wedi ei wneud yn Wrecsam o bosibl, cynllun sy'n dal i fod yn arloesol iawn.

Credaf fod Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyflwr presennol syniadau polisi a'r ddarpariaeth, gan gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn y diffiniad o chwarae cynhwysol, ond credaf fod Vikki Howells wedi ymestyn y diffiniad hwnnw i sicrhau ein bod yn cynnwys anghenion plant a phobl ifanc anabl.

Rwy'n meddwl bod y ddadl hon yn ein galluogi i roi chwarae yn ôl ar yr agenda, gan wella lles a hawliau plant, a chofio, wrth gwrs, fod y cyfnod sylfaen yn wir wedi agor dysgu drwy chwarae sydd wedi arwain at fwy o hyder yn ein pobl ifanc. Yn amlwg edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog, ond gadewch inni ddefnyddio ein polisi a'n deddfwriaeth arloesol i ailddatgan pwysigrwydd chwarae yng Nghymru ac ystyried beth arall y gallwn ei wneud o safbwynt deddfwriaeth, fel y mae Vikki Howells wedi ei gynnig heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:54, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch yn fawr iawn. Ac yn gyntaf, hoffwn i ddechrau drwy longyfarch Vikki Howells am sicrhau dadl bwysig yn y Siambr heddiw.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Dadl bwysig iawn, a diolch i Vikki hefyd am ei holl amser a gwaith caled yn y maes polisi hwn ers iddi gyrraedd yma, a'i brwdfrydedd dros hyrwyddo chwarae cynhwysol, yma ac yn ei hetholaeth ei hun, ac eraill yn ogystal, fel y mae Jane newydd ein hatgoffa. Diolch hefyd i Bethan a Michelle am eu cyfraniadau i'r ddadl.

Mae'n gyfle sydd i'w groesawu'n fawr i godi proffil yr agenda chwarae a phwysigrwydd cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch er mwyn diwallu anghenion pob plentyn. Fel y soniodd Vikki a Jane yn arbennig, gallwn fod yn falch iawn o'r ffaith fod Cymru wedi arwain ar hyn: y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae. Cydnabyddir bod Cymru yn arweinydd byd yn hyrwyddo cydnabyddiaeth o bwysigrwydd chwarae a gwreiddio hyn yn ein deddfwriaeth. A chyda'n partneriaid, rydym wedi gwneud llawer, fel rydym newydd glywed, i weithio tuag at greu gwlad sy'n gweld gwerth chwarae.

Cytunaf â Vikki fod mwy y gellir ei wneud i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch, ac fe drof at rai o'r awgrymiadau cyn bo hir. Fodd bynnag, buaswn yn awgrymu nad oes angen cyflwyno deddfwriaeth bellach, neu nad dyna'r ffordd orau ymlaen, a hynny am nifer o resymau. Y cyntaf o'r rhain yw'r gydnabyddiaeth eang fod y fframwaith deddfwriaethol presennol—fel y crybwyllwyd yn y ddadl hon eisoes—yn gadarn ac yn addas at y diben. Felly, ochr yn ochr â gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:56, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Yn wir. Fe ildiaf.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cytunaf â chi fod rhai arferion da iawn yno eisoes, a hoffwn eich gwahodd i ddod i fy etholaeth lle y gallwn ddangos enghraifft i chi o fan chwarae cynhwysol da iawn. Efallai y gallech gyfarfod â rhai o'r plant a'r rhieni y bûm yn gweithio gyda hwy.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:56, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Byddai'n bleser mawr manteisio ar y cyfle hwnnw gan mai rhan o'r her yma yw gweld beth sy'n dda a gwneud yn siŵr wedyn fod y da hwnnw'n ymddangos ym mhob man ledled y wlad, gyda phartneriaid ar lawr gwlad, gyda phob awdurdod lleol. Ond mae'r sail statudol yno; mae'n golygu sicrhau yn awr fod hynny'n cael ei gyflawni'n gyson ym mhob man. A bydd yn amrywiol oherwydd bod anghenion y plant yn amrywiol hefyd. Rwy'n hapus i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.

Ceir gofynion clir ar waith eisoes, ond nid ydym ni, nac eraill yn y maes, fel Chwarae Cymru, a grybwyllwyd gan Jane yno, yn teimlo mai rhoi dyletswydd ychwanegol ar awdurdodau lleol yw'r ffordd orau o sicrhau cyfleoedd chwarae cynhwysol. Ond yn ail—a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ychydig o dan £5 miliwn i awdurdodau lleol ers 2013-14 i wella chwarae hygyrch a chynhwysol yn eu hardaloedd, ac yn wir, mae'n debyg ein bod wedi gweld rhai o'r canlyniadau yn eich ardal leol ac eraill yn ogystal. Mae'r asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn datgelu bod awdurdodau lleol wedi bod yn ymdrechu'n lew i ddarparu cyfleoedd chwarae hygyrch. Mae'r adroddiadau cynnydd wedi dangos bod cyllid wedi cael ei ddefnyddio ledled Cymru i fynd i'r afael â materion hygyrchedd mewn perthynas â mannau chwarae awyr agored, a gyda llaw, mae'n cynnwys mannau chwarae ehangach yn ogystal, nid meysydd chwarae yn unig.

Yn drydydd, gallai cyflwyno deddfwriaeth newydd—er gwaethaf y sicrwydd roedd Vikki yn ei roi yn ei chyfraniad—ac mae hyn wedi'i weld nid yn unig gennyf fi ond gan eraill—arwain at ganlyniadau annisgwyl a gallai fod yn wrthgynhyrchiol hyd yn oed. Felly, er enghraifft, mae'r hyn sy'n chwarae hygyrch i rai plant yn rhwystr i eraill mewn gwirionedd. Mae yna risg o benderfyniadau a allai arwain ar lawr gwlad at gynllunio amhriodol neu hyd yn oed at wahanu pellach rhwng plant gwahanol, ac ni fyddem am i hynny ddigwydd.

Fodd bynnag, yn ystod y ddadl nododd Vikki nifer o gynigion diddorol rwy'n awyddus i'w hystyried a'u datblygu ymhellach. Felly, er enghraifft, mewn perthynas â gwobr y Faner Werdd am arfer da, er y deallaf y bwriad sy'n sail i'r awgrym, mae'n debyg y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a ellid cyflawni hyn fel rhan o'r cynllun sefydledig i nodi mannau gwyrdd, efallai, neu drwy ddilyn llwybr arall. Ond rwy'n fodlon edrych ar hynny. Felly, er enghraifft, efallai y byddem eisiau gweithio gyda phartneriaid i gasglu a chyhoeddi astudiaethau achos sy'n nodi'n glir beth yw nodweddion allweddol pwysig cynlluniau ac ymyriadau penodol ledled Cymru.

Gan droi at y mater hollbwysig a nododd Vikki ynghylch ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth a gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, cytunaf yn llwyr y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, a lle y gall pobl fynd ar gyfer chwarae priodol. Dylai hyn gynnwys camau y bwriadant eu cymryd i sicrhau cyfleoedd digonol ac i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol.

Felly, yn sgil y ddadl hon a'r pwyntiau a wnaeth Vikki ac eraill, byddaf yn gofyn i swyddogion symud ymlaen ar unwaith i ddatblygu'r awgrym fel bod gwybodaeth ar gael gan awdurdodau lleol mewn ffordd sy'n cynorthwyo plant a'u teuluoedd i wybod beth y sydd ar gael. Gallai fod rôl, er enghraifft, i wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, y gallwn eu harchwilio, ynghyd â gwneud mwy o ddefnydd o 'Creu mannau chwarae hygyrch - pecyn cymorth newydd' Chwarae Cymru, sef adnodd ar gyfer darparu gwybodaeth dda i rieni.

Felly, Lywydd, yn y pen draw mae galluogi pob plentyn i chwarae a chwarae gyda'i gilydd yn ymwneud â budd i'r gymuned gyfan. Os yw unrhyw blentyn yn cael ei atal rhag chwarae, mae'n lleihau profiad chwarae i bob plentyn. Felly, diolch i Vikki.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:00, 7 Chwefror 2018

Diolch i Vikki Howells am y cyfle y prynhawn yma i drafod chwarae cynhwysol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein plant yn gallu chwarae yn ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Gallwn weld bod agenda yma i'w datblygu, a diolch iddi hi a'r Aelodau eraill sy'n bresennol heddiw am roi'r sylw y mae'n ei haeddu'n fwy aml i chwarae.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Galwaf ar Vikki Howells i ymateb i'r ddadl—Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ac yn enwedig y Gweinidog. Os caf ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins sut olwg fyddai arno ar lawr gwlad, a nododd Michelle Brown rai pryderon ynghylch adnoddau. Credaf mai dyna sy'n atyniadol am fy awgrym, y gallai'r newidiadau hyn ddigwydd yn raddol. Rydym wedi bod yn pori drwy gatalogau chwarae gwahanol, ac fe welwch, er enghraifft, fod rowndabowt cynhwysol yn costio ychydig o gannoedd o bunnoedd yn unig yn fwy nag un safonol, ac nid yw siglen fasged, unwaith eto, ond ychydig gannoedd o bunnoedd yn fwy nag un gonfensiynol. Felly, pan fydd awdurdod lleol yn mynd ati gyda chyllideb o £25,000, dyweder, i ailwampio man chwarae, mae'n eithaf hawdd cynnwys y pethau hynny heb unrhyw ofynion ychwanegol.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn gallu nodi fy nghynnig heddiw. Pe gallai Cymru ddeddfu ar y mater hwn, nid yn unig y byddem y wlad gyntaf yn y byd i basio cyfraith ar yr hawl i chwarae, byddem y wlad gyntaf yn y byd i fod wedi deddfu'n benodol ar chwarae cynhwysol. Byddai cyflawniad o'r fath yn ymwneud â mwy na phasio cyfraith newydd; byddai'n ymwneud â dechrau rhoi camau ar waith fel y gallai plant anabl gael yr un hawliau i chwarae â'u cyfoedion. Byddai'n ymwneud â chreu mannau diogel y bydd rhieni a theuluoedd yn hapus i'r plant eu defnyddio er mwyn gwella eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol, a byddai'n ymwneud â chydnabod bod gan blant anabl yr un hawl i chwarae â'u cyfoedion.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:02, 7 Chwefror 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.