Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 7 Chwefror 2018.
Byddai'n bleser mawr manteisio ar y cyfle hwnnw gan mai rhan o'r her yma yw gweld beth sy'n dda a gwneud yn siŵr wedyn fod y da hwnnw'n ymddangos ym mhob man ledled y wlad, gyda phartneriaid ar lawr gwlad, gyda phob awdurdod lleol. Ond mae'r sail statudol yno; mae'n golygu sicrhau yn awr fod hynny'n cael ei gyflawni'n gyson ym mhob man. A bydd yn amrywiol oherwydd bod anghenion y plant yn amrywiol hefyd. Rwy'n hapus i dderbyn y gwahoddiad hwnnw.
Ceir gofynion clir ar waith eisoes, ond nid ydym ni, nac eraill yn y maes, fel Chwarae Cymru, a grybwyllwyd gan Jane yno, yn teimlo mai rhoi dyletswydd ychwanegol ar awdurdodau lleol yw'r ffordd orau o sicrhau cyfleoedd chwarae cynhwysol. Ond yn ail—a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ychydig o dan £5 miliwn i awdurdodau lleol ers 2013-14 i wella chwarae hygyrch a chynhwysol yn eu hardaloedd, ac yn wir, mae'n debyg ein bod wedi gweld rhai o'r canlyniadau yn eich ardal leol ac eraill yn ogystal. Mae'r asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn datgelu bod awdurdodau lleol wedi bod yn ymdrechu'n lew i ddarparu cyfleoedd chwarae hygyrch. Mae'r adroddiadau cynnydd wedi dangos bod cyllid wedi cael ei ddefnyddio ledled Cymru i fynd i'r afael â materion hygyrchedd mewn perthynas â mannau chwarae awyr agored, a gyda llaw, mae'n cynnwys mannau chwarae ehangach yn ogystal, nid meysydd chwarae yn unig.
Yn drydydd, gallai cyflwyno deddfwriaeth newydd—er gwaethaf y sicrwydd roedd Vikki yn ei roi yn ei chyfraniad—ac mae hyn wedi'i weld nid yn unig gennyf fi ond gan eraill—arwain at ganlyniadau annisgwyl a gallai fod yn wrthgynhyrchiol hyd yn oed. Felly, er enghraifft, mae'r hyn sy'n chwarae hygyrch i rai plant yn rhwystr i eraill mewn gwirionedd. Mae yna risg o benderfyniadau a allai arwain ar lawr gwlad at gynllunio amhriodol neu hyd yn oed at wahanu pellach rhwng plant gwahanol, ac ni fyddem am i hynny ddigwydd.
Fodd bynnag, yn ystod y ddadl nododd Vikki nifer o gynigion diddorol rwy'n awyddus i'w hystyried a'u datblygu ymhellach. Felly, er enghraifft, mewn perthynas â gwobr y Faner Werdd am arfer da, er y deallaf y bwriad sy'n sail i'r awgrym, mae'n debyg y byddai angen gwneud rhagor o waith i weld a ellid cyflawni hyn fel rhan o'r cynllun sefydledig i nodi mannau gwyrdd, efallai, neu drwy ddilyn llwybr arall. Ond rwy'n fodlon edrych ar hynny. Felly, er enghraifft, efallai y byddem eisiau gweithio gyda phartneriaid i gasglu a chyhoeddi astudiaethau achos sy'n nodi'n glir beth yw nodweddion allweddol pwysig cynlluniau ac ymyriadau penodol ledled Cymru.
Gan droi at y mater hollbwysig a nododd Vikki ynghylch ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth a gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, cytunaf yn llwyr y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, a lle y gall pobl fynd ar gyfer chwarae priodol. Dylai hyn gynnwys camau y bwriadant eu cymryd i sicrhau cyfleoedd digonol ac i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol.
Felly, yn sgil y ddadl hon a'r pwyntiau a wnaeth Vikki ac eraill, byddaf yn gofyn i swyddogion symud ymlaen ar unwaith i ddatblygu'r awgrym fel bod gwybodaeth ar gael gan awdurdodau lleol mewn ffordd sy'n cynorthwyo plant a'u teuluoedd i wybod beth y sydd ar gael. Gallai fod rôl, er enghraifft, i wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, y gallwn eu harchwilio, ynghyd â gwneud mwy o ddefnydd o 'Creu mannau chwarae hygyrch - pecyn cymorth newydd' Chwarae Cymru, sef adnodd ar gyfer darparu gwybodaeth dda i rieni.
Felly, Lywydd, yn y pen draw mae galluogi pob plentyn i chwarae a chwarae gyda'i gilydd yn ymwneud â budd i'r gymuned gyfan. Os yw unrhyw blentyn yn cael ei atal rhag chwarae, mae'n lleihau profiad chwarae i bob plentyn. Felly, diolch i Vikki.