Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 7 Chwefror 2018.
Mae’n teimlo ein bod ni wedi bod yn trafod yr M4 ers nifer o flynyddoedd; mi fues i’n rhoi cryn sylw iddo fo fel llefarydd yr economi cyn Adam. Mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers cenhedlaeth neu fwy erbyn hyn. Mae’r dadleuon ynglŷn â sut i fynd i’r afael a thagfeydd traffig yn ardal Casnewydd wedi bod yn mynd ymlaen ers, mae’n siŵr, bron i chwarter canrif. Ac mi ydym ni—rwy’n hapus iawn i’w gwneud yn glir eto yn y fan hyn—yn cydnabod bod y tagfeydd traffig yn y rhan yna o Gymru, yn ardal Casnewydd, yn gallu cael eu gweld fel rhywbeth sy’n niweidiol i economi Cymru. Os felly, os ydym ni’n derbyn hynny, mae eisiau inni chwilio am ateb sy’n effeithiol, ond sydd hefyd yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.
O ran cynaliadwyedd, mae angen ateb sy’n briodol i ddelio â gofynion y dyfodol—dyfodol lle rydym yn dymuno y bydd llawer mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd y byddwn ni, gobeithio, wedi buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Dyfodol lle y bydd yna geir yn gyrru eu hunain, a’r effaith y mae hynny’n mynd i’w chael—ac mi fyddwn i’n licio nodi yn fan hyn fy niddordeb yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach heddiw ynglŷn â datblygu maes profi ar gyfer ceir sy’n gyrru eu hunain i fyny yng nghymoedd Gwent. Mi fydd yna hefyd newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio. Felly, mae angen ystyried hynny, ystyried y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau yn y presennol.
Mae angen ateb sy’n fforddiadwy. Mae cost y project yma wedi cynyddu yn arw. Ni wnaf fynd i mewn i fanylion. Nid wyf i’n siŵr iawn pa ffigur i’w ddefnyddio erbyn hyn: £1.3 biliwn, sydd i lawr ar y papur yn fan hyn, neu £1.4 biliwn neu £1.5 biliwn, a threth ar werth ar ben hynny. Ni wnaf hyd yn oed dyfalu, ond rwy’n siŵr ein bod ni’n sôn am broject sydd yn agosach at £2 biliwn, a dyn a ŵyr faint yn fwy. A sut y gall Llywodraeth Cymru, a sut y gall ein Senedd genedlaethol ni, os caiff pleidlais ei chynnal ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus, gyfiawnhau buddsoddiad o’r fath heb allu profi ei fod o’n rhan o strategaeth ehangach a fyddai’n arwain at wario ar isadeiledd mewn ffordd sydd wedi cydbwyso ar draws Cymru gyfan?
Nid oes gen i ddim diddordeb mewn amddifadu dim un rhan o Gymru o fuddsoddiad sydd yn angenrheidiol, ond mae cydbwysedd yn hanfodol, neu, rydych chi’n siŵr, o fethu â chael y cydbwysedd—mae hynny’n arwain at sefyllfa lle mae un rhanbarth yn cael ei roi yn erbyn rhanbarth arall, ac rwy’n gobeithio nad oes yna neb yn y Siambr yma yn dymuno gweld hynny’n digwydd. Drwy amddifadu rhai o ranbarthau Cymru o fuddsoddiad teg y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu ar draul rhai eraill, mi fyddai project hirdymor o adeiladu ein cenedl ni yn methu. Y realiti ydy bod y dde-ddwyrain ar hyn o bryd yn gweld dwywaith yn fwy o fuddsoddiad mewn isadeiledd o’i gymharu â’r gogledd, a bron i dair gwaith yn fwy na chanolbarth a gorllewin Cymru, ac nid ydy hynny’n rhywbeth y gallwn ni ei anwybyddu yma yng Nghymru.
Mae Adam wedi trafod gwelliant y Llywodraeth. Mi fuaswn i’n licio cyfeirio at un peth sy’n bryder mawr i mi ynglŷn â beth rwy’n ei weld yn Llywodraeth yn tanseilio ac yn amharu ar y broses o gynnal ymchwiliad annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, ers rhai blynyddoedd, wedi bod yn gofyn am astudiaeth o botensial y llwybr glas, neu o leiaf rhywbeth sy’n seiliedig ar beth sydd wedi cael ei adnabod fel y llwybr glas, yn ogystal â buddsoddi mewn rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Ond, trwy fuddsoddi £135 miliwn o bunnau yn nociau Casnewydd yn ddiweddar, gan arwain at y cwmni hwnnw yn tynnu ei wrthwynebiad i’r llwybr du yn ei ôl, yn ogystal â’r holl brynu gorfodol y mae’r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud, mae hynny’n amharu yn llwyr ar y broses annibynnol a oedd i fod i ystyried pob opsiwn, gan gynnwys y llwybr glas neu rywbeth yn seiliedig ar y llwybr glas.
Felly, mae ein cynnig ni heddiw yma yn galw am bleidlais ystyrlon, fel rydym ni wedi clywed, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad annibynnol. Mae hyn yn gwbl gyffredin mewn Seneddau eraill. Rydw i'n licio term Adam, sef 'superproject'—dyna sydd gennym ni yn y fan hyn. Pan mae gennych chi rywbeth ar y lefel yna, mae'n gwneud synnwyr ar lefel ddemocrataidd i sicrhau bod ein Senedd genedlaethol ni yn cael penderfyniad. Rydw i'n credu y byddai gwrthod ein cynnig ni heddiw yn gwrthod y cyfle yna i roi pleidlais sylweddol yn ein dwylo ni fel Senedd genedlaethol, yn bradychu ein hetholwyr, yn bradychu trethdalwyr Cymru hefyd, ac, rydw i'n meddwl, yn bradychu democratiaeth yng Nghymru.