– Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Rydw i'n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.
Diolch o galon, Llywydd. Mae'n bleser gen i i godi i gynnig y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth, sydd yn ymwneud â phroject, well, ffordd liniaru'r M4, efallai—hynny yw, traffordd newydd, mewn gwirionedd, yw e, wrth gwrs. Mae'n wir i ddweud mae'n un o'r prosiectau isadeiledd mwyaf ddadleuol efallai rydym ni wedi bod yn trafod, nid yn unig yn ddiweddar ond am rai degawdau. Mae yna amrediad o farn yng Nghymru, ac mae hynny hefyd, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn y Siambr hon. Ond mae'r cynnig yma, wrth gwrs, yn gofyn inni nid i benderfynu heddiw ynglŷn â'r mater yma, ond i sicrhau y bydd yna gyfle i ni benderfynu, fel bod yr amrediad yna o farn gan Aelodau etholedig yn y lle yma yn gallu cael ei weithredu—hynny yw, bod yna ewyllys democrataidd yn cael ei mynegi mor belled ag y mae'r penderfyniad yma yn y cwestiwn.
Wrth gwrs, rydym ni wedi gweld drwy gydol yr amser mae'r prosiect yma wedi bod dan drafodaeth—ac fe allech chi fynd yn ôl, wrth gwrs, i 1991 yn wreiddiol, pan oedd y cynllun wedi cael ei gynnig—drwy gydol yr amser yna, wrth gwrs, mae costau wedi cynyddu, yn rhannol am resymau chwyddiannol, ond hyd yn oed yn y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr amcangyfrifon y mae'r Llywodraeth ei hunain wedi rhoi ar y project. Hynny yw, mi oedd y Prif Weinidog, dim ond tair blynedd yn ôl a dweud y gwir, yn sôn y byddai'r gost tipyn yn llai nag £1 biliwn, ond nawr rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, o dystiolaeth y Llywodraeth ei hunain i'r ymchwiliad cyhoeddus bod hynny wedi codi o leiaf—. Wel, heb gynnwys treth ar werth, mae wedi codi i dros £1.3 biliwn, ac, os ydych chi wedyn yn cynnwys treth ar werth, ac, wrth gwrs, hefyd, fel rydym ni wedi gweld gyda chymaint o brojectau yn ddiweddar o ran heolydd, wrth gwrs, y posibilrwydd o'r gost yn cynyddu hyd yn oed yn fwy na'r contingency o ryw £150 miliwn mae'r Llywodraeth wedi ei ddarparu—fe allech chi weld y gost yna, yn hawdd iawn, yn cynyddu yn fwy. A dweud y gwir, mae Cyfeillion y Ddaear wedi amcangyfrif, yn eu tystiolaeth nhw i'r ymchwiliad, ein bod ni'n barod yn agosach i £1.8 biliwn. Felly mega-project ydy hwn, yntefe? Hynny yw, nid ydw i'n credu bod unrhyw un yn gallu dadlau gyda hynny.
A phan ystyriwn y peth yn y termau hynny, pan fyddwn yn meddwl am y posibilrwydd ein bod eisoes yn edrych ar ymhell dros £1.5 biliwn pan ychwanegwch yr elfennau gwahanol hyn, yna credaf ei bod hi ond yn iawn ac yn briodol wrth gwrs i'r Senedd hon gael yr hawl i benderfynu. Oherwydd mae yna gost cyfle enfawr yno: £1.5 biliwn, £1.7 biliwn, £1.8 biliwn. Gallwch gael system drafnidiaeth integredig newydd, metro, ar gyfer bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol—mae Mark Barry wedi amcangyfrif y dylai £1 biliwn dalu am gam cyntaf yr holl system drafnidiaeth ranbarthol honno. Byddai gennych rywfaint o arian dros ben—mae'n debyg y gallech wneud yr amcangyfrifon a awgrymwyd ar gyfer ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin yn ogystal. Gallech gael system trafnidiaeth gyhoeddus newydd gyfan ac ailagor y rheilffordd yng ngorllewin Cymru yn hytrach na gwneud hyn.
Nawr, bydd yna Aelodau sy'n credu, yn gwbl gywir, na, mae'n dal i fod—. Bydd eu hasesiad yn wahanol, ac fe welant gost a budd gwahanol i'r hyn y mae fy mhlaid yn ei weld, ac mae hawl ganddynt i wneud hynny wrth gwrs. Pwynt y cynnig hwn, yn syml iawn, yw bod angen clywed ystod o safbwyntiau er mwyn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol. Nawr, rydym wedi cael dadleuon ym mhob Cynulliad, rwy'n credu, ar ffordd liniaru'r M4, gan adlewyrchu'n rhannol yr amrywiaeth o anghytundeb sy'n bodoli. Y broblem, wrth gwrs, yw eu bod wedi'u cyflwyno fel cynigion gan y gwrthbleidiau, ac rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth gwrs, nad yw'r Llywodraeth bob amser yn gwrando ar ganlyniad dadleuon y gwrthbleidiau. Dyna pam y mae'r cynnig hwn yn nodi'n glir y dylai gael ei gyflwyno ar benderfyniad gan y Llywodraeth, fel ei fod yn gynnig rhwymol. A dyna'r arfer safonol, wyddoch chi, ar gyfer prosiectau seilwaith mawr: pan edrychwn ar San Steffan, os edrychwn ar rai o'r mega-brosiectau hynny, lle y cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau unwaith eto, weithiau o fewn y pleidiau yn ogystal—HS2, trydydd llain lanio yn Heathrow, hyd yn oed prosiect adnewyddu Tŷ'r Cyffredin, gallech ddweud; mae hwnnw'n brosiect seilwaith mawr yn awr, £5 biliwn—fe bleidleisiwyd ar y materion hyn. Ac wrth gwrs, mae hynny'n hollol hanfodol mewn democratiaeth, a'r broses, gyda'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a'r datganiadau polisi cenedlaethol yn y DU, yw bod pleidlais seneddol—bydd pleidlais seneddol—fel y dylai fod, yn sicr pan fyddwn yn sôn am y lefel hon o wariant. Ac felly rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth ar draws y Siambr, ar ydraws yr amrywiaeth o safbwyntiau o ran yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl diwedd yr ymchwiliad cyhoeddus gyda'r prosiect penodol hwn.
Os caf ddweud yn fyr am welliant y Llywodraeth, sy'n dweud na ddylem wneud unrhyw beth i niweidio neu ragfarnu canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, pwynt y cynnig yw y dylem gael pleidlais ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus. Nid yw hynny'n rhagfarnu; byddwn wedyn yn cael ein llywio gan ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Ond yn y pen draw, Seneddau a ddylai benderfynu, 'does bosibl, ar benderfyniadau polisi pwysig. Ac yn sicr, pan oeddem yn sôn am raddau'r gwariant, graddau'r effaith mewn termau eraill—yn nhermau trafnidiaeth, yr amgylchedd ac yn gymdeithasol—yna dylai fod yn iawn, mae'n rhaid iddi fod yn iawn, mai'r lle hwn a ddylai wneud y penderfyniad terfynol, a byddwn yn gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ar hynny.
Andrew R.T. Davies. Cyn i chi sefyll ar eich traed, mae angen i mi alw'r gwelliant. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y gwelliant, gwelliant 1, yn ffurfiol.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod ymchwiliad cyhoeddus gan arolygwyr annibynnol i brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau i fynd rhagddo ac ni ddylid gwneud unrhyw beth i amharu ar ganlyniad yr ymchwiliad, adroddiad yr archwilwyr neu’r broses statudol.
Yn ffurfiol.
Ychydig o wrthgleimacs yn y fan honno, Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl. [Torri ar draws.] Nid wyf am fynd â'r sgwrs gam ymhellach. Mae'n bleser mawr gennyf gymryd rhan yn y ddadl hon, a rhaid i mi ddweud, fel y dywedodd llefarydd arweiniol Plaid Cymru, mae dadl ar ôl dadl wedi'i chynnal ar y pwnc hwn yn yr 11 mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, ac rwy'n siŵr fod pobl a oedd yma o fy mlaen yn cofio'r dadleuon cyn hynny. A hyd yn oed cyn sefydlu'r sefydliad hwn, roedd pobl yn sôn am ffordd liniaru'r M4 newydd neu ffordd o amgylch Casnewydd, i ddatrys y problemau tagfeydd wrth gwrs. Ac mewn gwirionedd, nid oes a wnelo'r ddadl hon â manylu ar gymhlethdodau'r beirianneg, yr effaith amgylcheddol ac yn y blaen, mae a wnelo â chynnig syml, cynnig rydym ni ar yr ochr hon i'r tŷ yn cytuno ag ef, sef y dylai'r sefydliad hwn gael pleidlais—pleidlais annibynnol—ynglŷn ag a ddylai'r Llywodraeth fwrw ymlaen â'r prosiect seilwaith mwyaf y mae wedi'i ystyried ai peidio, ac yn ddi-os, bydd yn gwasgu botwm i ddweud 'ie' neu 'na' wedi'r ymchwiliad cyhoeddus.
Gan y bydd y penderfyniad hwnnw'n effeithio ar etholaethau a rhanbarthau Aelodau Cynulliad, 'does bosibl na ddylai fod gennym ran i'w chwarae yn y broses benderfynu honno. Os yw'r Llywodraeth yn hyderus ynglŷn â'i safbwynt, a bod ganddi fwyafrif yma yn rhinwedd y ffaith ei bod yn Llywodraeth, dylai allu ennill y bleidlais i roi caniatâd i'r prosiect fynd rhagddo. Felly, nid yw'n gwestiwn syfrdanol o anodd y mae angen inni dreulio oriau ac oriau yn ei drafod; mae'n gynnig syml i dŷ a etholwyd yn ddemocrataidd chwarae rhan weithredol yn cadarnhau, fel y dywedais, y prosiect seilwaith mwyaf y bu'n rhaid i'r Llywodraeth hon, neu unrhyw Lywodraethau blaenorol, ei ystyried. Ar ein hochr ni o'r tŷ, yr hyn y mae gennym bryderon gwirioneddol yn ei gylch yw'r costau, a chostau cynyddol, y prosiect, ac rydym yn awyddus iawn i allu dweud ein barn ar hynny. Rydym wedi dweud yn gwbl glir na fyddwn yn rhoi unrhyw sieciau gwag ar gyfer y prosiect hwn, ac yn awr, dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yn unig, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor economi a thrafnidiaeth, clywsom gan y Llywodraeth fod y costau'n amrywio rywle rhwng £1.4 biliwn a £1.5 biliwn ar hyn o bryd. Ni allaf ddod o hyd i lawer o brosiectau seilwaith sy'n dechrau ar ffigur ac nad ydynt yn codi o'r ffigur y dechreuoch ag ef. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad inni pa gontractau tymor penodol sydd wedi cyflawni mega-gynlluniau o'r fath o fewn y cyllidebau y gofynnwyd iddynt eu darparu. [Torri ar draws.] A hoffwn hefyd—. Prosiectau cyhoeddus.
A hoffwn wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd i roi eglurhad i ni pam y gwelwyd y cynnydd sylweddol yn y costau hyn er mwyn rhoi rhywfaint o hyder inni y gallai cynigion y Llywodraeth barhau i fod ar y trywydd iawn. Yn amlwg, ddwy flynedd yn ôl yn unig, soniai'r Prif Weinidog am ffigur ymhell o dan £1 biliwn. Ac yn awr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae sefyll yma, ac yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, a'r ffigurau rydych wedi'u cyflwyno i'r ymchwiliad cyhoeddus, mae bod ar ffigur o £1.4 biliwn, rwy'n credu, yn haeddu esboniad, yn hytrach na chyfeirio at chwyddiant yn unig, oherwydd—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy'n cytuno gyda'r Aelod ar yr hyn a ddywedodd hyd yma, ac yn sicr yr egwyddor o gymryd—wyddoch chi, y dylai'r egwyddor o wario'r symiau hynny o arian gael ei gymryd yma, ac nid ei adael i'r Weithrediaeth ar ei phen ei hun. A yw'n cymryd neu a yw'n derbyn o gwbl y dystiolaeth fod y costau'n fwy tebygol o fod, gyda TAW, yn agosach at £2 biliwn? A ble mae'n credu y mae dechrau tynnu'r llinell ar brosiect fel hwn?
Wel, dyna lle roeddwn yn mynd i fynd â fy nadl, oherwydd mae'n amlwg fod gan Ysgrifennydd y Cabinet wybodaeth, a'r dystiolaeth y mae wedi'i roi i bwyllgor yr economi a thrafnidiaeth yw y byddai'n rhaid i gostau godi'n sylweddol cyn y ceir marc cwestiwn uwchben y prosiect hwn. Wel, cawsom ffigur o dan £1 biliwn gan y Prif Weinidog oddeutu dwy flynedd yn ôl. Rydym wedi cyrraedd £1.4 biliwn heddiw—efallai £1.5 biliwn—heb TAW. Dyna gynnydd o £600 miliwn. Rwy'n meddwl tybed beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gredu sy'n gynnydd sylweddol yn y costau cyn i Lywodraeth Cymru eu hunain gwestiynu hyfywedd y prosiect a pha atebion a allai fod yn cael eu rhoi. [Torri ar draws.] Wel, nid oes gennyf y—. Clywaf y mwmian o feinciau Plaid Cymru, ond rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Rhaid i mi ddweud nad yw'r wybodaeth fanwl gennyf. Rydym wedi rhoi ein cardiau ar y bwrdd ac wedi dweud ein bod yn credu bod angen dod o hyd i ateb. [Torri ar draws.] Credwn fod angen dod o hyd i ateb. Roeddwn yn teithio ar hyd y darn hwn o ffordd y bore yma—am 5 o'r gloch y bore yma—yn anelu at farchnad da byw Rhaglan. Am 6:30 y bore yma, roedd y ffordd honno'n llawn dop, tair lôn, yr holl ffordd o bont Hafren i dwneli Bryn-glas. Ni allwch droi eich cefn ar y sefyllfa honno, fod problem ddifrifol gyda'r ffordd a'i bod yn mygu economi Cymru yn ddifrifol. Yr hyn na allwch ei osgoi chwaith yw'r costau cynyddol sydd i'w gweld yn gysylltiedig â phrosiect dewisol y Llywodraeth. Ac felly rwy'n dychwelyd at y cynnig gwreiddiol rydym yn ei drafod yma heddiw, sef y cynnig o sylwedd y dylai'r tŷ hwn gael y gallu i bleidleisio ar y prosiect wrth symud ymlaen a dod yn brosiect cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r trethdalwr yng Nghymru yn rhoi adnoddau tuag ato. A buaswn yn gobeithio y byddai Aelodau sy'n credu'r un fath ar feinciau'r Llywodraeth yn ystyried hwnnw'n gynnig rhesymol ac yn ystyried pleidleisio dros y cynnig hwn heddiw.
Mae’n teimlo ein bod ni wedi bod yn trafod yr M4 ers nifer o flynyddoedd; mi fues i’n rhoi cryn sylw iddo fo fel llefarydd yr economi cyn Adam. Mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers cenhedlaeth neu fwy erbyn hyn. Mae’r dadleuon ynglŷn â sut i fynd i’r afael a thagfeydd traffig yn ardal Casnewydd wedi bod yn mynd ymlaen ers, mae’n siŵr, bron i chwarter canrif. Ac mi ydym ni—rwy’n hapus iawn i’w gwneud yn glir eto yn y fan hyn—yn cydnabod bod y tagfeydd traffig yn y rhan yna o Gymru, yn ardal Casnewydd, yn gallu cael eu gweld fel rhywbeth sy’n niweidiol i economi Cymru. Os felly, os ydym ni’n derbyn hynny, mae eisiau inni chwilio am ateb sy’n effeithiol, ond sydd hefyd yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.
O ran cynaliadwyedd, mae angen ateb sy’n briodol i ddelio â gofynion y dyfodol—dyfodol lle rydym yn dymuno y bydd llawer mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd y byddwn ni, gobeithio, wedi buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Dyfodol lle y bydd yna geir yn gyrru eu hunain, a’r effaith y mae hynny’n mynd i’w chael—ac mi fyddwn i’n licio nodi yn fan hyn fy niddordeb yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach heddiw ynglŷn â datblygu maes profi ar gyfer ceir sy’n gyrru eu hunain i fyny yng nghymoedd Gwent. Mi fydd yna hefyd newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio. Felly, mae angen ystyried hynny, ystyried y dyfodol, wrth wneud penderfyniadau yn y presennol.
Mae angen ateb sy’n fforddiadwy. Mae cost y project yma wedi cynyddu yn arw. Ni wnaf fynd i mewn i fanylion. Nid wyf i’n siŵr iawn pa ffigur i’w ddefnyddio erbyn hyn: £1.3 biliwn, sydd i lawr ar y papur yn fan hyn, neu £1.4 biliwn neu £1.5 biliwn, a threth ar werth ar ben hynny. Ni wnaf hyd yn oed dyfalu, ond rwy’n siŵr ein bod ni’n sôn am broject sydd yn agosach at £2 biliwn, a dyn a ŵyr faint yn fwy. A sut y gall Llywodraeth Cymru, a sut y gall ein Senedd genedlaethol ni, os caiff pleidlais ei chynnal ar ôl yr ymchwiliad cyhoeddus, gyfiawnhau buddsoddiad o’r fath heb allu profi ei fod o’n rhan o strategaeth ehangach a fyddai’n arwain at wario ar isadeiledd mewn ffordd sydd wedi cydbwyso ar draws Cymru gyfan?
Nid oes gen i ddim diddordeb mewn amddifadu dim un rhan o Gymru o fuddsoddiad sydd yn angenrheidiol, ond mae cydbwysedd yn hanfodol, neu, rydych chi’n siŵr, o fethu â chael y cydbwysedd—mae hynny’n arwain at sefyllfa lle mae un rhanbarth yn cael ei roi yn erbyn rhanbarth arall, ac rwy’n gobeithio nad oes yna neb yn y Siambr yma yn dymuno gweld hynny’n digwydd. Drwy amddifadu rhai o ranbarthau Cymru o fuddsoddiad teg y maen nhw ei angen ac yn ei haeddu ar draul rhai eraill, mi fyddai project hirdymor o adeiladu ein cenedl ni yn methu. Y realiti ydy bod y dde-ddwyrain ar hyn o bryd yn gweld dwywaith yn fwy o fuddsoddiad mewn isadeiledd o’i gymharu â’r gogledd, a bron i dair gwaith yn fwy na chanolbarth a gorllewin Cymru, ac nid ydy hynny’n rhywbeth y gallwn ni ei anwybyddu yma yng Nghymru.
Mae Adam wedi trafod gwelliant y Llywodraeth. Mi fuaswn i’n licio cyfeirio at un peth sy’n bryder mawr i mi ynglŷn â beth rwy’n ei weld yn Llywodraeth yn tanseilio ac yn amharu ar y broses o gynnal ymchwiliad annibynnol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru, ers rhai blynyddoedd, wedi bod yn gofyn am astudiaeth o botensial y llwybr glas, neu o leiaf rhywbeth sy’n seiliedig ar beth sydd wedi cael ei adnabod fel y llwybr glas, yn ogystal â buddsoddi mewn rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Ond, trwy fuddsoddi £135 miliwn o bunnau yn nociau Casnewydd yn ddiweddar, gan arwain at y cwmni hwnnw yn tynnu ei wrthwynebiad i’r llwybr du yn ei ôl, yn ogystal â’r holl brynu gorfodol y mae’r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud, mae hynny’n amharu yn llwyr ar y broses annibynnol a oedd i fod i ystyried pob opsiwn, gan gynnwys y llwybr glas neu rywbeth yn seiliedig ar y llwybr glas.
Felly, mae ein cynnig ni heddiw yma yn galw am bleidlais ystyrlon, fel rydym ni wedi clywed, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad annibynnol. Mae hyn yn gwbl gyffredin mewn Seneddau eraill. Rydw i'n licio term Adam, sef 'superproject'—dyna sydd gennym ni yn y fan hyn. Pan mae gennych chi rywbeth ar y lefel yna, mae'n gwneud synnwyr ar lefel ddemocrataidd i sicrhau bod ein Senedd genedlaethol ni yn cael penderfyniad. Rydw i'n credu y byddai gwrthod ein cynnig ni heddiw yn gwrthod y cyfle yna i roi pleidlais sylweddol yn ein dwylo ni fel Senedd genedlaethol, yn bradychu ein hetholwyr, yn bradychu trethdalwyr Cymru hefyd, ac, rydw i'n meddwl, yn bradychu democratiaeth yng Nghymru.
Cytunaf yn llwyr fod angen inni gael trafodaeth o sylwedd ar y mater pwysig hwn yn amser y Llywodraeth. Ond ni allwn ddibynnu'n syml ar gynigion y gwrthbleidiau ar y mater pwysig hwn. Mae'r cynnig hwn mewn perygl o lyncu pob agwedd ar derfynau benthyca Llywodraeth Cymru, sy'n golygu bod perygl gwirioneddol mai dyma'r unig fuddsoddiad cyfalaf y byddem yn gallu ei wneud. Nid wyf yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau o wario £1.5 biliwn.
Mae Andrew R.T. Davies yn sôn am y tagfeydd traffig am 06:30 yn y bore yn dod i'r gorllewin tuag at dwnnel Bryn-glas. Rwyf eto i gael fy argyhoeddi y byddai gwario'r holl arian hwn ar 14 milltir o ffordd newydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r broblem honno ar ei phen ei hun, oherwydd byddai gennych dagfeydd traffig ychydig bach pellach i lawr y ffordd dyna i gyd. Oni chawn newid moddol, nid ydym yn mynd i fod yn datrys y broblem dagfeydd sydd gennym ar adegau penodol o'r dydd. Pan af i lawr y ffordd am 10:30 neu 11:00 y bore, dim problem o gwbl. Problem gymudwyr yw hon, a'r rheswm pam y mae gennym y broblem yw oherwydd nad ydym wedi buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd yn y gorffennol, a dyna pam y mae pobl yn dewis teithio i'w gwaith yng Nghasnewydd a Chaerdydd mewn car, sy'n ffordd gwbl wallgof o ddefnyddio adnoddau.
Mewn gwirionedd, roedd y ffyrdd ar gau heddiw oherwydd nad oedd y bont wedi gorffen ei gwaith cynnal a chadw dros nos—dyna ei hyd a'i lled hi. Rwy'n derbyn y pwynt, ond mae hynny'n fwy o reswm dros gael dadl yma, fel y gall pawb ohonom gyfrannu yn y ddadl honno a'r penderfyniad o sylwedd hwnnw a ydym am wasgu'r botwm i'r prosiect hwn fynd rhagddo ai peidio.
Iawn. Wel, mae'n ddefnyddiol egluro hynny. Roeddwn yn synnu bod yna dagfeydd traffig am 06:30 yn y bore, ond rydych bellach wedi dweud wrthym pam fod problem benodol heddiw.
Ond y ffaith amdani yw, os oes gennym ffordd anhygoel o wych o amgylch Casnewydd, yr hyn sy'n mynd i ddigwydd, hyd yn oed yn ôl tystiolaeth y Llywodraeth ei hun i'r ymchwiliad cyhoeddus, yw ei fod yn mynd i gynyddu nifer y cerbydau sy'n cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd a bydd yn cynyddu tagfeydd yng Nghaerdydd mewn gwirionedd. O ystyried y problemau sydd gennym o ran gorfod cyfaddef yn yr uchel lysoedd fod gennym lefelau anghyfreithlon o lygredd aer, mae'n anodd iawn gweld sut y byddai hyn yn ffordd o ddatrys y problemau sydd gennym.
Mae trafnidiaeth yn cyfrannu'n enfawr at y ffaith fod gennym gynhyrchiant is, fel y trafodwyd yn gynharach. Yn amlwg, mae amser a wastreffir yn eistedd mewn tagfeydd traffig yn amser nad yw'n cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Ond fy nadl i yw na fydd y prosiect hwn yn datrys problem tagfeydd, ac nid ydym wedi gweld gwerthusiad cymharol priodol o fuddsoddiad trafnidiaeth i ddangos sut y byddai gennym senario wahanol iawn pe baem yn gwario £1.5 biliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn llawer mwy deniadol na chymudo i Gaerdydd a Chasnewydd yn y car. Mae hynny'n siom enfawr i mi, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn gwbl absennol, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod cost milltir o draffordd tua'r un fath â milltir o reilffordd newydd, a bod buddsoddiad yn y rheilffordd yn cario rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl. Dyma pam y mae angen rheilffyrdd a thramiau, rheilffyrdd ysgafn, i gludo pobl i'r gwaith ac yn ôl eto. Mae annog pobl i ddod i'r gwaith yn y car yn gynnig hollol hurt.
Felly, gobeithio y cawn ymrwymiadau y byddwn yn cael dadl sylweddol ar y mater hwn wedi i'r ymchwiliad cyhoeddus gael ei gwblhau, ond hefyd ein bod yn edrych o ddifrif ar yr opsiwn arall o wario £1.5 biliwn ar gludiant cyhoeddus i wella'r daith i'r gwaith i bobl a darparu'r newid moddol sydd ei angen.
A gaf fi ddweud ar y cychwyn y bydd fy mhlaid yn cefnogi'r cynnig hwn? Y rheswm am hyn yw bod cynllun ffordd liniaru'r M4, fel y dywedodd yn flaenorol, yn un o'r prosiectau mwyaf a mwyaf costus a wnaed erioed gan Gynulliad Cymru ac mae'n un mor bwysig fel bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi gweld ei bod hi'n briodol lansio ymchwiliad maith a thrwyadl ar ei ffurf a'i gynllun. Felly ymddengys ei bod yn amlwg yn bwysig y dylai'r Cynulliad cyfan gael mewnbwn ystyrlon i'r penderfyniad a wneir, gan gyfeirio at ganlyniad yr ymchwiliad.
Os na chaniateir inni ymgysylltu yn y modd hwn, rydym yn pryderu y bydd bwriadau'r Llywodraeth o ran y llwybr du yn digwydd er gwaethaf canfyddiadau'r ymchwiliad. Ni allwn beidio â nodi'r cytundeb a wnaed eisoes gan y Llywodraeth a'r awdurdod porthladdoedd mewn perthynas â'r arian ychwanegol a ddyrannwyd i leddfu eu pryderon, yr ymddengys eu bod yn deillio'n gyfan gwbl o'r llwybr du arfaethedig. Teimlaf ei bod hi'n ddoeth nodi yma mai ffordd liniaru'r M4 yw hon, beth bynnag am y rhanddirymiad posibl. Mae ffordd liniaru'n dynodi na fydd ond ei hangen go iawn ar gyfer yr adegau pan fydd traffig ar ei drymaf.
Hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet felly i gadw meddwl agored ynghylch pa un o'r opsiynau sydd ar gael a ddewisir. Gwn y bydd yn cadw'r gwahaniaeth enfawr yn y gost rhwng y llwybrau glas a du mewn cof. Gellid defnyddio'r gwahaniaeth hwn yn y costau ar brosiectau trafnidiaeth eraill sy'n fawr eu hangen, ac rwy'n siŵr y gwnaiff faddau i mi eto am grybwyll cyflwr ofnadwy Rover Way, sy'n debycach i lôn gefn gwlad na phrif wythïen i brifddinas y wlad. Rwy'n siŵr y gallai llawer o Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr wneud achos dros brosiectau eraill sydd eu hangen yn ddirfawr, gyda rhai ohonynt wedi'u crybwyll yn gynharach gan Adam Smith, neu hyd yn oed ystyried y newid moddol a grybwyllwyd gan Julie Rathbone—[Torri ar draws.]
Rwy'n ymddiheuro. Nid ydych mor hen â hynny, Adam, rwy'n siŵr. Rwy'n ymddiheuro am y llithrad hwnnw, Adam.
Fodd bynnag, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ganiatáu'r ymgynghoriad a'r bleidlais hon. Wedi'r cyfan, os yw pethau'n mynd o chwith gyda'r prosiect enfawr hwn, gallai'r Siambr gyfan gael ei chyfrif yn euog.
Mae'r Adam Smith gwreiddiol, wrth gwrs, yn llawer nes at yr Adam Price sydd gennym yma, yn hytrach na Sefydliad Adam Smith, sy'n fater cwbl wahanol, rwy'n meddwl.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r croeso y mae'r pleidiau wedi'i roi hyd yn hyn i'r egwyddor o gael pleidlais ystyrlon ar wariant mor fawr. Rwyf am edrych ar y ddadl o safbwynt Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond credaf y bydd y ddadl ynghylch yr amgylchedd a'r Ddeddf llesiant yn cael ei thrafod yn drwyadl ar ryw adeg arall. Hoffwn edrych arni o safbwynt llunio polisïau a sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau ar gyfer amcanion polisi yng ngoleuni'r Ddeddf honno.
Y peth cyntaf i'w ddweud ynglŷn â hynny, wrth gwrs, yw ein bod wedi bod yn glir iawn gyda'r teitl: cenedlaethau'r dyfodol yw Deddf pleidiau'r dyfodol, os mynnwch. Felly, fel gwrthblaid yma, mae Plaid Cymru eisiau dod yn Llywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr fod y Ceidwadwyr hefyd am ddod yn Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn siŵr am UKIP—ni fuaswn hyd yn oed yn ceisio tybio beth y mae UKIP yn ei feddwl y dyddiau hyn. Ond mae unrhyw un sy'n cael ei ethol i'r lle hwn am fod yn Llywodraeth. Rydym am gael llais go iawn, felly, mewn unrhyw fuddsoddiad mawr, enfawr hyd yn oed, a fydd yn clymu dwylo cenedlaethau'r dyfodol a Llywodraethau'r dyfodol o ran sut y gallent fynd i'r afael â heriau gwirioneddol Cymru ar gyfer y dyfodol, nid yn unig o ran yr amgylchedd ond o ran seilwaith, o ran gwaith gwrth-dlodi, o ran ymdrin ag anghenion economaidd Cymru yn y dyfodol. Ni allaf ei roi'n well na'r ffordd y dywedodd rhywun yn 2015:
I mi, mae'n syfrdanol y bydd Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i leihau tlodi yn gwario £1 biliwn o arian cyhoeddus ar brosiect na fydd yn cael unrhyw effaith economaidd ar fy etholwyr.
Nid wyf yn credu bod y person yn ei sedd yn awr, ond yr Aelod dros Flaenau Gwent ydoedd, yn siarad ar ôl i Jenny Rathbone gael ei diswyddo o'i swydd am feirniadu'r cynigion hyn. Felly, rwy'n credu fy mod am ddefnyddio prism cenedlaethau'r dyfodol yn bendant iawn wrth edrych ar y ffordd y gwneir penderfyniadau ac er mwyn gadael i'r Siambr hon a'r Senedd hon wneud y penderfyniad terfynol hwnnw.
Nawr, mae wedi bod yn amlwg iawn o'r dystiolaeth a roddwyd yn yr ymchwiliad cyhoeddus lleol pa mor anghydnaws yw'r cynnig hwn ag amcanion Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Fel y dywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ei hun:
Adeiladu ffyrdd yw'r hyn y buom yn ei wneud dros yr 50 mlynedd diwethaf ac nid dyma'r ateb y dylem fod yn ei geisio yn 2017 a thu hwnt.
Mae'r tueddiadau rydym yn sôn amdanynt yn y Llywodraeth ac y mae Aelodau eraill yma wedi sôn amdanynt, o awtomeiddio i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, lleihau allyriadau, y newidiadau yn ansawdd yr aer a ddaw i'r amlwg wrth inni symud o system drafnidiaeth a arweinir gan danwydd ffosil i un sy'n fwy dibynnol ar gerbydau trydan, hydrogen o bosibl—mae angen ystyried y rhain oll mewn gwariant mor fawr a fydd yn dylanwadu ar genedlaethau'r dyfodol, nid un genhedlaeth yn unig ond dwy neu dair cenhedlaeth i ddod. A hefyd, wrth gwrs—
A wnewch chi ildio?
Ildiaf ar y pwynt hwnnw, gwnaf.
Diolch i chi, rwy'n gwerthfawrogi hynny. Fe ddyfynnoch chi gyflwyniad Sophie Howe ynghylch doethineb adeiladu ffyrdd. Wrth gwrs, fel rhan o'r cyflwyniad hwnnw, dywedodd hefyd nad oedd adeiladu'r llwybr glas yn gydnaws â'r ysbryd hwnnw ychwaith, a dyna yw polisi Plaid Cymru. Felly, i ddilyn ei rhesymeg yn iawn, byddech yn cael gwared ar adeiladu ffyrdd yn gyfan gwbl fel ateb i dagfeydd ffyrdd.
Credaf y byddem yn agored i ailystyried y dystiolaeth ar hynny, ac mae gennyf fy marn bersonol fod y llwybr glas, a ddewiswyd 10 mlynedd yn ôl bellach, fel dewis amgen i M4 newydd sbon a chan Weinidog trafnidiaeth Plaid Cymru mewn Llywodraeth glymblaid, rhaid dweud—. Mae'n rhaid i ni yn awr ailarchwilio yng ngoleuni'r offeryn arfarnu newydd sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth a yw unrhyw adeiladu ffyrdd ynddo'i hun yn ateb i'r hyn sy'n digwydd a phroblemau tagfeydd o gwmpas Casnewydd, neu a ydym yn buddsoddi mewn llawer o wahanol bethau, gan gynnwys gwelliannau ffyrdd. Mae yna eisoes ffordd ddosbarthu bresennol i'r de y gellir ei defnyddio, ond hefyd, cau cyffyrdd, traffig graddol, buddsoddi yn y seilwaith cyhoeddus yn yr ardal honno, rheilffyrdd—sef y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone yn rymus iawn hefyd. Felly, mae angen rhoi pob un o'r rhain yn eu lle; rwy'n deall hynny'n iawn. Credaf nad ydym bellach mewn sefyllfa pan ydym yn gwneud penderfyniadau deuaidd o'r fath. Rydym yn gwneud penderfyniad ynghylch hyd at oddeutu £2 biliwn o arian trafnidiaeth, sut y gellir ei fuddsoddi a sut y gall sicrhau'r budd gorau nid yn unig i Gasnewydd ond i Gymru yn gyffredinol, a chredaf fod Adam Price wedi nodi sut y gallai'r dewisiadau amgen weithio yn hynny o beth.
Felly, mae'r comisiynydd, i ailadrodd y pwynt y mae Lee Waters newydd ei wneud, wedi galw am fuddsoddi ehangach mewn trafnidiaeth yn ymwneud â'r defnydd o dechnoleg, fel y dywedais, am fesurau rheoli cyffyrdd a'r metro. Nid yw hyn—. Efallai fod hyn yn newydd i Gymru, ond nid yw'n gwbl newydd i wledydd a dinasoedd sy'n gorfod ymdrin ag ansawdd aer gwael, trafnidiaeth wael a thagfeydd. Maent wedi ymdrin ag ef mewn ffyrdd eraill. Y cyfan sy'n digwydd wrth i chi adeiladu ffordd newydd yw eich bod yn symud y broblem sawl milltir i'r dwyrain neu'r gorllewin, ac yn achos y cynnig hwn, mae'n fwy na thebyg y byddech yn ei symud yn agosach at Gaerdydd, fel y mae'n digwydd, oherwydd bydd y pontydd wedi ymdrin â'u tollau mewn ffordd wahanol. Credaf fod hynny'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gadw mewn cof wrth ystyried hyn.
Hefyd mae'n werth cofio pan oedd Plaid Cymru mewn Llywodraeth a phan wnaeth Ieuan Wyn Jones y penderfyniad i ganslo—roedd tua'r pumed penderfyniad mewn rhes ar gyfer newid yr M4 newydd—ni chafodd ei wneud am resymau cost yn unig. Cafodd ei wneud yn benodol oherwydd ein bod yn ailfantoli'r gyllideb drafnidiaeth rhwng trafnidiaeth gynaliadwy ac adeiladu ffyrdd. A dyna sydd wedi'i golli yn y ddadl a gawsom ers 2011, ac rwyf am adfer rhywfaint o hynny i'n gwerthfawrogiad y gallwn ddefnyddio Deddf cenedlaethau'r dyfodol i edrych ar hyn.
Rwy'n meddwl mai'r peth olaf, os caf ddweud, Lywydd, yw fy mod wedi fy narbwyllo'n fawr gan y newidiadau sy'n digwydd yn ein heconomi ac yn ein hamgylchedd ynghylch yr hyn y mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn ei ddweud, sef, yn amlwg, pe bai hyn yn mynd yn ei flaen, ni fyddai ond yn ateb am gyfnod byr iawn yn unig. Maent yn dweud hyn:
O 2038 ymlaen, mae'r senario "gwneud rhywbeth" yn cynhyrchu mwy o allyriadau carbon na'r dewis "gwneud cyn lleied â phosibl". Effeithir ar yr hinsawdd gan gyfanswm yr allyriadau. Felly mae'r cynllun hwn yn y pen draw yn fwy niweidiol i'r hinsawdd na'r dewis "gwneud cyn lleied â phosibl".
Rwyf wedi bod yn aelod o'r Cynulliad hwn bellach ers bron i saith mlynedd, a chafwyd dwy ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddynt drwy gydol y cyfnod cyfan hwnnw. Un yw'r metro—ac roedd yn fraint fawr i allu arwain y ddadl Aelod unigol gyntaf ar y mater hwnnw—a'r llall yw ffordd liniaru'r M4.
Roeddwn hefyd yn aelod o bwyllgor yr amgylchedd. Gwelaf fod nifer o aelodau'r pwyllgor hwnnw yma. Treuliasom gryn dipyn o amser, rwy'n cofio, yn y Cynulliad diwethaf, yn mynd drwy fater ffordd liniaru'r M4 yn ofalus tu hwnt, yr effaith—amgylcheddol, materion gyda'r traffig, problemau gyda thrafnidiaeth cynaliadwy ac ati. Bydd rhai ohonoch yn cofio'r dicter ar y pryd pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ychydig cyn i'r pwyllgor gyhoeddi ei ganfyddiadau, ei bod yn dewis y llwybr du—ac rwy'n credu fy mod wedi dweud ar y pryd fod y penderfyniad hwnnw'n tanseilio'r adroddiad a'r gwaith a ddigwyddodd yn y pwyllgor hwn i edrych ar yr holl opsiynau penodol hynny.
Wrth gwrs, ar y pryd roedd y gost bosibl rhwng £350 miliwn ac £1 biliwn, yn dibynnu ar ba lwybrau penodol a gâi eu trafod. Ac yn awr rydym yn sôn—os ydym yn gwbl onest—erbyn ei gorffen a drifft ac ati, am brosiect £2 biliwn. Mae wedi tyfu'n jygarnot economaidd sydd, yn fy marn i, allan o reolaeth. Ac os ydym am sôn am dagfeydd, fe fyddwch wedi gweld adroddiad ddoe mai'r A470 yw'r ffordd fwyaf prysur yng Nghymru mewn gwirionedd. Nid wyf yn gofyn am ffordd osgoi i'r A470, ond wrth gwrs, rwyf wedi bod yn gofyn am y cyswllt rheilffordd newydd fel rhan o'r metro i Lantrisant er mwyn tynnu pobl oddi ar y ffyrdd.
Rydym wedi rhoi ymrwymiad, ymrwymiad sylfaenol i'r metro, i drafnidiaeth integredig gynaliadwy. Rydym wedi rhoi ymrwymiad i bobl y Cymoedd y byddai'r dagfa yno—gyda'r cynnydd yn nifer y tai ledled ardal Taf Elái, ar gyrion Caerdydd, ac yn y Cymoedd—yn cael ei datrys yn rhannol gan ein hymrwymiad trawsnewidiol i'r metro. Fy mhryder mawr yw: lle mae'r cyfalaf pe baem yn bwrw ymlaen â phrosiect sy'n £2 biliwn fwy neu lai? Nid wyf am i'r metro ddod i gyfateb i anghenfil Loch Ness i bob pwrpas—mae pawb wedi gweld llun ohono ond nid oes neb yn gwybod a yw'n bodoli mewn gwirionedd ai peidio. Dyna fy mhryder.
Rwyf wedi rhoi ymrwymiadau i fy etholwyr, rydym wedi rhoi ymrwymiadau yn ein maniffesto, a chredaf fod amser yn awr i gamu'n ôl ac adolygu lle rydym, o gofio maint y prosiect hwn, lle mae arni a beth yw ei oblygiadau ar ein holl ymrwymiadau eraill. Efallai na fyddaf yn ennill y dadleuon hynny maes o law, ond credaf fod yn rhaid inni gael y ddadl honno. Rhaid inni gael cyfle i drafod rhywbeth sydd ar y raddfa hon. Yr hyn rwy'n ei geisio, mewn gwirionedd, yw sicrwydd gan y Llywodraeth y bydd y ddadl benodol honno'n digwydd—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A gaf fi ofyn, o ystyried termau'r cynnig, yn ogystal â'r ddadl, a yw'n ceisio pleidlais ar y mater hwn?
Os ydych yn cael dadl, rwy'n credu bod yn rhaid cael pleidlais, ac mae'n rhaid iddi fod yn bleidlais o fewn amser y Llywodraeth. Felly, dyna'r sicrwydd a geisiaf oherwydd credaf mai dyma'r prosiect mwyaf a wynebwyd gennym erioed, ac mae iddo oblygiadau sylweddol iawn i lawer o'n hymrwymiadau eraill. Ac os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i drafnidiaeth gynaliadwy, i sicrhau bod traffig yn dod oddi ar y ffyrdd, rhaid inni ystyried yr holl opsiynau a'r holl oblygiadau ariannol.
Mae coridor yr M4 Casnewydd yn chwarae rôl hanfodol yn cysylltu de Cymru â Lloegr ac Ewrop. Mae'n un o'r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, a choridor yr M4 yw'r porth economaidd a chymdeithasol i mewn i Gymru. Mae'n cysylltu ein porthladdoedd a'n meysydd awyr ac yn gwasanaethu ein diwydiant twristiaeth. Ddirprwy Lywydd, rwy'n byw o fewn 20m i 30m i'r M4 ac rwy'n teithio'n rheolaidd, ac yn yr 11 o flynyddoedd y bûm yn y Siambr hon, rwyf wedi cyfrif fy mod wedi treulio mwy na 24 awr o amser yn aros bob blwyddyn. Felly, golyga hynny 11 diwrnod rwyf wedi eu gwastraffu ar yr M4 i ddod i'r Siambr hon yn unig.
Fodd bynnag, mae'r M4 yn ne Cymru yn enwog am ei thagfeydd traffig a'r ffordd o amgylch Casnewydd yw'r darn o ffordd prysuraf yng Nghymru ac mae'n un o'r gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Fel y mae pethau, nid yw'r darn hanfodol hwn o'r draffordd yn bodloni safonau cynllunio traffyrdd modern chwaith. Mae hynny'n arwain at amodau teithio gwael, a pheryglus weithiau, i'w defnyddwyr niferus, gan gynnwys cefnogwyr chwaraeon sy'n teithio i Gymru yn go aml—bron bob wythnos. Gyda nifer y lonydd yn gostwng yn aml, llain galed ysbeidiol a dwy lôn yn unig, gwelir tagfeydd ar y ffordd yn rheolaidd ar adegau brig. Yr ardal sydd â'r broblem dagfeydd waethaf yng Nghymru yw twnelau Bryn-glas. Cafwyd 465 o dagfeydd yn y twnelau tua'r gorllewin y llynedd; dyna'r ystadegyn. Mae tagfeydd yn effeithio'n andwyol ar economi Cymru, a busnesau a modurwyr Cymru—hwy sy'n ysgwyddo'r baich. Amcangyfrifir bod tagfeydd traffig ar ein ffyrdd y llynedd wedi costio bron £278 miliwn i economi Cymru. Mae'n ffigur go drawiadol, Ddirprwy Lywydd.
Camau gweithredu'r Llywodraeth Geidwadol i ddileu treth ar werth oddi ar dollau ar bont Hafren yw'r cam cyntaf tuag at ddileu'r taliadau ar y pontydd yn gyfan gwbl erbyn diwedd eleni. Amcangyfrifir bod y manteision i economi Cymru o ddileu'r taliadau oddeutu £100 miliwn. Peryglir yr holl fudd hwn i economi Cymru gan y methiant i fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Diolch i din-droi Llywodraeth Cymru, mae cost y prosiect hanfodol hwn wedi codi. Rhaid ystyried cost tagfeydd a manteision ariannol diddymu'r tollau ar bont Hafren wrth benderfynu ymrwymo bron £1.5 biliwn ar y prosiect hwn. Mae pawb ohonom yn deall fod hwn yn swm enfawr o arian, ond yn yr achos hwn, credaf mai'r allwedd i wella'r economi ranbarthol yw peidio â thaenu'r jam yn rhy denau. Dyna a ddywedodd rhywun yn ddiweddar. Fel arall, rydym mewn perygl o droi'r M4 yn faes parcio mwyaf Cymru. Mae gormod yn y fantol, Ddirprwy Lywydd, i broblem yr M4 gael ei rhoi o'r neilltu am lawer yn hwy.
Drwy leihau tollau ar bontydd Hafren, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi agor y porth i Gymru'n lletach. Rhaid inni sicrhau bod y seilwaith yn ei le ar gyfer cael y budd mwyaf posibl i economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud ei rhan yn awr i sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes, ac rwyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd cyn gynted â phosibl. Mater i'r Cynulliad hwn wedyn fydd trafod a phenderfynu ar ei argymhellion. Ac mewn gwirionedd, maent oll yn flychau y gallwn eu ticio i gael y ffordd bwysig hon yn ei lle cyn gynted â phosibl. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ar y gweill ers 2006 pan gynhyrchwyd TR111 ar gyfer y Llywodraeth, ac yn 2014, pan oedd y Gweinidog yn optimistaidd iawn yn y Siambr hon am y llwybr glas a du, ac yn y bôn, crybwyllodd fy nghyd-Aelodau ar y pryd fod rhai o'r ardaloedd yn negyddol iawn hefyd. Dywedodd rhai ohonynt nad oedd yn ddefnyddiol. Dywedodd un ohonynt yn y Siambr hon ei fod yn safbwynt anghywir ar ran y Llywodraeth a hefyd ei fod yn arian sy'n mynd i lawr y draen a'r math hwnnw o nonsens.
Ond yn y bôn, mae'n brosiect gwych ac mae'n rhoi tic ym mhob blwch: gwerth am arian; amcanion Llywodraeth Cymru; masnachol hyfyw; fforddiadwy yn fasnachol. A pha un a allwn ei gyflawni—y cyhoedd a'n heconomi fydd yn cael budd yn y pen draw. Weinidog, rwy'n eithaf siŵr y byddwch yn ei wneud ac os gwelwch yn dda, gwnewch hyn cyn gynted â phosibl. Diolch.
Credaf ei bod yn iawn fod y ddadl ynghylch yr M4 yn newid, ac mae'n amlwg o'r cyfraniadau y prynhawn yma fod y safbwyntiau'n dal yn hylif ar hyn. Mae yna bobl, yn amlwg, ar y fainc hon ac ar fainc y Ceidwadwyr sydd wedi dadlau'n gyson o blaid y llwybr du, er fy mod yn falch o glywed Andrew R.T. Davies yn canslo'r siec wag y mae wedi ei rhoi i'r prosiect hwn a chymhwyso rhywfaint ar ei gefnogaeth. Ceir rhai ar feinciau'r Ceidwadwyr a meinciau Plaid Cymru sydd o blaid y llwybr glas, ac roeddwn yn falch iawn o glywed Simon Thomas yn bod yn agored ynghylch y modd y mae Plaid Cymru'n ailfeddwl am eu safbwynt yng ngoleuni barn argyhoeddiadol iawn comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol.
Nid wyf yn siŵr lle rydym arni ar y meinciau Ceidwadol—a yw Mark Reckless, fel rhan o'i ymgais i hudo Alun Cairns i ganiatáu lle iddo yn y Blaid Geidwadol, wedi cefnu ar ei gefnogaeth i'r llwybr glas a'i uwchraddio i'r llwybr du—felly edrychaf ymlaen at wylio hynny'n datblygu gyda diddordeb. Ond nid wyf yn meddwl bod Alun Cairns yn mynd i gynhesu atoch beth bynnag a wnewch, Mark—dyna fyddai fy nghyngor i i chi.
Felly, mae pethau'n newid, a chredaf fod hynny'n iawn. Yn yr hen ddyfyniad gan John Maynard Keynes—
Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy'n newid fy meddwl.
Mae hwn yn ateb 30 oed i broblem tagfeydd ac mae'r dechnoleg yn newid yn gyflym—rydym yn disgwyl i geir heb yrwyr fod ar werth o fewn y tair blynedd nesaf ac mae'r costau wedi newid. Pan oeddem yn ymladd ar sail ein maniffesto yn yr etholiad, roeddem yn sôn am brosiect o dan £1 biliwn. Rydym bellach yn edrych ar £1.3 biliwn i £1.4 biliwn. Mae hynny ar brisiau 2015 a heb TAW, y dywedir wrthym ei fod yn cael ei negodi. Felly, buaswn yn dychmygu y byddwn yn edrych ar ffigur agosach at £2 biliwn nag £1 biliwn, a chredaf fod hynny'n newid natur yr ymrwymiad a oedd gennym yn ein maniffesto, ac mae'n ein galluogi i edrych o'r newydd ar hynny.
Nid wyf am ailadrodd y dadleuon y prynhawn yma—rwyf wedi eu cyflwyno yn y lle hwn o'r blaen. Digon yw dweud fy mod o ddifrif ynglŷn â hyn ac nid yw fy safbwynt ar hyn yn fater o chwarae gemau. Clywais y cyfweliadau a roddodd Adam Price ar y penwythnos am agor ffrynt gyffredin gyda'r Ceidwadwyr a'i obaith y gallent gael safbwynt ar y cyd ar hyn heddiw, a fyddai'n denu Aelodau o feinciau cefn Llafur i ymuno â'u hochr hwy fel ffordd o achosi trafferth i'r Llywodraeth ac anghysur i'r Prif Weinidog. Nid wyf am unrhyw ran o hynny. Rwyf am ladd y ffordd hon, nid wyf am chwarae gemau o'i chylch.
Credaf fod yna rywfaint o anhawster ynglŷn â'r cynnig ei hun hefyd. Cyfaddefodd Adam Price nad oes grym llawn i gynigion y gwrthbleidiau. Hefyd, y pwynt a wnaeth Simon Thomas y dylid gwneud penderfyniadau yma nid gan y Weithrediaeth. Wel, mae'r cynnig hwn, yn ymwneud yn benodol ag ariannu'r prosiect hwn, a gwneir penderfyniadau ar ariannu prosiectau yn y gyllideb. Gallai Plaid Cymru fod wedi lladd y prosiect hwn yn y gyllideb, pe baent wedi dymuno gwenud hynny, ond dewisasant beidio â gwneud hynny. Felly, nid yw hon yn ddadl—[Torri ar draws.] Gadewch i mi fwrw ymlaen. Nid cynnig yw hwn heddiw—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn eiliad. Ond mae'r cynnig hwn heddiw yn ymwneud ag ariannu a chredaf mai mewn Senedd y dylai ariannu ddigwydd, wedi'i benderfynu ar sail cyllideb, ond rwy'n meddwl y dylai fod pleidlais ystyrlon yn amser y Llywodraeth. Fe ildiaf.
Diolch i'r Aelod am ildio. I fod yn glir iawn i'r Aelod, nid yw'r gyllideb ond yn rhoi cyfalaf wrth gefn ar gyfer y cyllid hwn. Byddai angen cyllideb atodol a phleidlais ar y gyllideb atodol i ganiatáu i hyn fynd rhagddo, ac ar hynny edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yn y lobi, fel yr arferent ei ddweud, i bleidleisio yn erbyn rhoi'r arian tuag at y prosiect hwn.
Wel, nid wyf yn un am bleidleisio yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Lafur, felly dyna pam rwyf am ddatgysylltu'r mater hwn. Mae'r cynnig hwn heddiw ynglŷn â'r cyllido. Rwyf eisiau cynnig ar wahân gerbron y Cynulliad hwn, ar ôl cael adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus, cyn i Weinidogion wneud eu penderfyniad, ar egwyddor y ffordd, nid yn benodol ar yr ariannu, ond ar egwyddor y ffordd. Dyna'r hyn yr hoffwn i Weinidogion ei ystyried, felly dyna pam na fyddaf yn gallu cefnogi geiriad y cynnig heddiw, er fy mod yn cefnogi ei sylwedd.
Felly, gobeithio y bydd Gweinidogion yn gwrando ar gryfder y teimlad sydd yna ar y mater hwn. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn bod yn rhan o gemau Plaid Cymru, ond rwyf eisiau ceisio newid polisi trafnidiaeth yn ein gwlad, oherwydd rydym wedi mynd yn gaeth i ragweld a darparu, ac rydym wedi bwrw o'r neilltu yr egwyddor o newid moddol. Ac yn egwyddor Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a basiwyd gennym, dyna'r prosiect y dylem ganolbwyntio arno yn y blynyddoedd i ddod.
Felly, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma, ond rwy'n gwrthwynebu'r ffordd, serch hynny. Mae safbwynt Plaid Cymru, safbwynt y Torïaid, yn newid ac mae mwy o ddiddordeb ganddynt mewn chwarae gemau ar hyn. Rwy'n cofio rhannu platfform—[Torri ar draws.] Fel erioed, mae Leanne Wood yn dangos diffyg urddas yn ei heclo. Cofiaf rannu platfform gyda Leanne Wood, gan ddadlau yn erbyn ffyrdd fel ffordd o fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol, a chlywn ganddi, 'Gadewch inni roi cannoedd o filiynau tuag at lwybr glas yn lle hynny' neu Rhun ap Iorwerth: 'Cannoedd o filiynau tuag at gynlluniau adeiladu ffyrdd eraill ar draws Cymru.' Rwyf am weld newid polisi i anrhydeddu'r hyn a gytunwyd gennych chi a minnau bryd hynny, Leanne Wood. Cywilydd arnoch am newid eich safbwynt ar gyfer chwarae gemau. Nid wyf yn y gêm honno.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n parchu barn yr Aelodau ar y mater hwn? Cafwyd ystod eang o safbwyntiau ar y pwnc hwn bob amser—safbwyntiau egwyddorol y credir yn angerddol ynddynt, ac rwy'n cydnabod cryfder y teimlad hwnnw. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau hefyd yn cydnabod fy niffuantrwydd wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw.
Ceir Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu'r llwybr du arfaethedig—ffordd liniaru'r M4—yn gyson ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn meddwl bod anghytundeb, i fod yn onest, yn y Siambr ynglŷn â'r cwestiwn fod angen gwneud rhywbeth o gwmpas Casnewydd a thwnelau Bryn-glas. Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol ac na all barhau. Mae cymudwyr, teithwyr a busnesau, cludwyr nwyddau a chynnyrch—maent i gyd yn treulio gormod o amser o lawer mewn ciwiau a thagfeydd ar y rhan honno o'r M4.
Ddirprwy Lywydd, nid yw hyd yn oed y rheini sy'n cwestiynu'r cynllun arfaethedig a'r rhai sydd â phryderon egwyddorol ynghylch yr angen i wneud gwaith uwchraddio mawr ar ffyrdd yn meddwl bod 'gwneud dim' yn opsiwn posibl. Yr hyn y credaf sy'n achosi anghytundeb yw beth a wnawn i fynd i'r afael â'r broblem o amgylch Casnewydd a thwneli Bryn-glas, yn yr un modd ag y mae sut yr awn ati i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd mewn rhannau eraill o Gymru yn aml yn destun anghytundeb canolog: a ddewiswn y llwybr glas, neu a awn am y llwybr du, a ydym yn mynd i arllwys y cyfalaf i mewn i un prosiect ffordd neu i mewn i deithio llesol, neu'r rheilffyrdd, neu gyfuniad o atebion. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyflwyno cynnig, yn seiliedig ar ymrwymiad maniffesto yr etholwyd fy mhlaid arno adeg yr etholiad diwethaf. Yn allweddol, mae'r cynllun yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer system drafnidiaeth integredig amlfoddol gynaliadwy o'r radd flaenaf yn ne Cymru, y soniodd Mick Antoniw yn gynnes amdani. Un sydd, ochr yn ochr ag uchelgais a chreadigrwydd y metro, yn gallu darparu sylfaen gref a pharhaol ar gyfer twf cynhwysol—twf yn y rhanbarth, ac o'i gwmpas hefyd.
Nawr, fel y dywedais, rwy'n ymwybodol o'r amrywiol safbwyntiau a fynegwyd ar y cynnig hwn heddiw a dros nifer o flynyddoedd. Ac er mwyn sicrhau bod barn pawb ar bob ochr yn cael eu hystyried yn drylwyr ac yn systematig, mae arolygwyr annibynnol wedi bod wrthi dros fisoedd lawer yn cymryd tystiolaeth, yn gwrando'n ofalus ac yn ystyried barn pawb. Mae pob Aelod yn y Siambr hon, pob plaid wleidyddol, pob busnes, pob grŵp, pob unigolyn yng Nghymru, wedi cael cyfle i gyfrannu at y broses honno, a bellach mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad yn cael ei phrofi'n drwyadl. O ystyried y sylwadau braidd yn annymunol ac annheg a welsom yn ddiweddar, yn ymwneud â swyddogion cyhoeddus sy'n darparu cyngor annibynnol, gwn y byddwn yn gosod safon well ac esiampl well dros y misoedd nesaf, drwy barchu'r broses a ddefnyddiwyd ar gyfer profi'r dystiolaeth, a thrwy barchu canlyniad yr ymchwiliad. Bydd yr ymchwiliad yn gorffen ei waith cyn bo hir. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod am i'r ymchwiliad cyhoeddus hwn fod yn agored, a hefyd i fod yn gadarn, gan brofi pob dewis amgen a awgrymir i lywio'r hyn a fydd yn fuddsoddiad seilwaith sylweddol i Gymru.
O ystyried y diddordeb o du'r pleidiau yn y Siambr hon, dyna pam fy mod wedi rhoi cyfarwyddyd i'r llwybr glas gael ei ddatblygu a'i asesu mewn cryn fanylder, gyda saith amrywiad ohono wedi'u gosod gerbron yr ymchwiliad, i'w gymharu â chynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, soniodd yr Aelodau am wahaniaethau yn y gost fel cyfiawnhad dros y cynnig heddiw, ac eto, hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi cyflwyno ei adroddiad, ni fyddwn yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth yn y gost mewn gwirionedd. Yn wir, efallai na fydd gwahaniaeth yn y gost.
Rwy'n cydnabod hefyd fod nifer o'r Aelodau heddiw wedi sôn am y technolegau sy'n dod i'r amlwg y gellir eu defnyddio mewn ceir yn y dyfodol. Ar sail llawer o dystiolaeth ryngwladol, gallai defnyddio'r hyn a elwir yn fodel rhagweld a darparu y presennol ar gyfer cerbydau yn y dyfodol arwain at angen cynyddol am ofod ffyrdd, o gofio y bydd ceir awtonomaidd, yn sicr dros gyfnod eu datblygu, yn debygol o alw am fwy o le er mwyn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau newydd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Gwnaf.
Roeddwn yn meddwl tybed, cyn iddo orffen ei sylwadau, a allai roi sylw i fater canolog y cynnig, sef y cwestiwn a fydd yna bleidlais ystyrlon yn y Cynulliad hwn ar ôl i'r ymchwiliad cyhoeddus ddod i ben.
Rwy'n dod at yr union bwynt hwnnw, a dylwn ddweud nad yw Llywodraeth Cymru, ac ni fydd yn gwneud penderfyniad heb ystyried canfyddiadau a chasgliadau'r arolygydd yn llawn ac yn drwyadl, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gwelliant y mae wedi'i gyflwyno heddiw.
Hoffwn ddweud rhywbeth am y Cynulliad, a'i rôl mewn perthynas â phleidleisio ar brosiectau unigol. Ar gyllid ar gyfer y prosiect penodol hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi datgan y caniateir i'r ymchwiliad cyhoeddus gyflwyno adroddiad cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau ar ddyrannu, ac adroddir ar y penderfyniadau dyrannu hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol. A lle bydd angen cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyllidebau dilynol, rhaid cael y gymeradwyaeth honno a dyna fydd yn digwydd. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar Aelodau sydd wedi gwneud y ddadl ei fod yn galw am weithdrefnau arbennig oherwydd maint y prosiect penodol hwn. Ond fel Senedd, rwy'n meddwl bod angen inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y byddai ariannu prosiectau unigol yn gweithio.
A wnewch chi ildio?
Pa brosiectau eraill y byddai'n rhaid eu hystyried ar wahân? Oherwydd nid oes unrhyw lawlyfr nac unrhyw ganllaw yn ein cyfansoddiad sy'n disgrifio pa mor fawr y dylai prosiect unigol fod i gyfiawnhau cynnal pleidlais unigol ar ei ariannu ar lawr y tŷ hwn. Yn wir, buaswn yn ofni y gallai diddordeb rhanbarthol fod yn drech, o bosibl. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae angen inni sicrhau, fel rhan o'r broses o adeiladu cenedl, nad yw rhanbarthau'n cael eu gosod yn erbyn ei gilydd. Byddai risg go iawn o osod rhanbarthau yn erbyn ei gilydd pe baem yn cael pleidleisiau unigol ar brosiectau unigol. Ond fe ildiaf i Nick Ramsay.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe symudoch ymlaen ychydig o'r pwynt roeddwn yn mynd i'w wneud, ond credaf fod angen ei wneud. Edrychir yn ôl yn awr ar benderfyniad Beeching i gau llawer o reilffyrdd, yn y 1950au a'r 1960au, fel camgymeriad enfawr. Ni chafodd y penderfyniad hwnnw ei farnu'n briodol na'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Rydych wedi sôn am geir heb yrwyr, ac rydych wedi dweud, yn ystod eu camau cynnar, mae'n bosibl y bydd arnynt angen mwy o le, ond mewn gwirionedd, pan ddatblygir y dechnoleg honno, gallwch ffitio mwy o'r ceir hynny i ofod ffyrdd penodol am nad oes angen yr un pellteroedd stopio a chânt eu rheoli'n gyfrifiadurol. Felly, fy mhwynt i yw: a wnewch chi sicrhau bod y penderfyniad hwn, pan gaiff ei gymryd, wedi'i ddiogelu'n ddigonol ar gyfer y dyfodol i wneud yn siŵr na fydd gennym lwyth o gapasiti ffyrdd na fydd ei angen arnom yn y dyfodol mewn gwirionedd?
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae hwnnw'n ofyniad pendant ar gyfer yr asesiad trylwyr o'r holl dystiolaeth a roddir. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar rai o'r proffwydoliaethau a wnaed ynghylch y defnydd o gerbydau awtonomaidd yn fwy hirdymor, mae'n debygol y bydd cerbydau awtonomaidd yn arwain at lai o bobl yn berchen ar geir, ond mwy o ddefnydd ar geir, ac y bydd mwy o geir yn cael eu defnyddio am fwy o amser ar ffyrdd, gan arwain at fwy o gerbydau'n cael eu defnyddio ar unrhyw adeg. Gallai hynny, yn ei dro, arwain at fwy o alw am le ar y ffyrdd.
Ddirprwy Lywydd, y mis hwn mae'n flwyddyn ers i brosiect yr M4 gael ei archwilio gan ddau arolygydd cynllunio a pheirianneg annibynnol. Yr ymchwiliad cyhoeddus hwn sydd i ddod i ben cyn hir fydd yr hwyaf i'w gynnal yng Nghymru erioed. Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon fod yn rhaid i'r broses adolygu gymryd cymaint o amser ag y bo'n angenrheidiol i graffu ar y dystiolaeth ar y cynllun ac i ganiatáu i bawb gael dweud eu barn. Mae hynny'n digwydd, a gofynnaf i'r Aelodau ganiatáu i'r ymchwiliad gwblhau ei waith, caniatáu i'r holl dystiolaeth gan arbenigwyr ac unigolion sydd â diddordeb i gael ei hystyried yn llawn, ac uwchlaw popeth, parchu'r broses a derbyn ei chanlyniad cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Adam Price i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn mynd i ddweud hanner ffordd drwy'r ddadl fy mod yn teimlo ei bod yn enghraifft o'r Senedd ar ei gorau oherwydd cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau ar y mater, ond ein bod yn dod at ein gilydd ac yn uno, mewn gwirionedd, o gwmpas yr egwyddor craidd, yn y pen draw, fod yn rhaid i'r Senedd benderfynu. Roeddwn yn gobeithio y byddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei sylwadau ar y diwedd, yn egluro'r mater canolog hwnnw i ni, ac eto rwy'n gwbl aneglur yn ei gylch. Gall ymyrryd, os hoffai, yn groes i'r modd yr ymyrrais innau arno ef.
Soniodd am gael pleidlais unigol ar brosiectau unigol, ac yna aeth ymlaen i sôn am rai o anfanteision hynny pe gosodid cynsail. Nid wyf yn hollol glir o hyd a yw'r cynsail yn mynd i gael ei osod. A oes ymrwymiad i gael pleidlais benodol? Nid yw'n ddigon i gael pleidlais ar y gyllideb atodol. Gallai cyllideb atodol fod â nifer o bethau ynddi. Rwy'n gwybod beth fyddai'n digwydd wedyn oherwydd mae wedi digwydd i mi sawl gwaith, Lee Waters. Rwy'n pleidleisio am un rheswm, ond wedyn caf fy nghyhuddo o fod yn erbyn y rhestr o bethau eraill sydd yn y gyllideb, ac fel arfer maent yn bethau na allai unrhyw un eu gwrthwynebu. Dyna pam y mae angen inni gael pleidlais benodol.
O ran y pwynt a gododd Lee Waters, os oes problemau gyda geiriad y cynnig, fi sy'n gyfrifol am hynny. Credaf fod ysbryd y cynnig yn glir, fodd bynnag. Yr hyn y ceisiem ei wneud gyda'r cynnig oedd dweud na allai'r Llywodraeth fwrw rhagddi i wario ar y prosiect cyn cael pleidlais ar egwyddor yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus. Rwy'n credu bod hynny'n amlwg i mi. Os nad oedd yn glir i'r Aelodau eraill, yna rwy'n ymddiheuro am hynny, ond rwy'n egluro'r bwriad. Wyddoch chi, nid ydym yn byw mewn byd perffaith, ac yn sicr nid ydym yn byw mewn Senedd berffaith. Felly, os ydych am bleidleisio o blaid yr egwyddor o bleidlais ar yr egwyddor yna hon fydd yr unig bleidlais rydych yn mynd i'w chael, iawn. A'r hyn yr hoffwn ei ddweud—yn onest, ac o ddyfnder fy nghalon, hoffwn ddweud wrth yr Aelod gyferbyn, hoffwn ddweud wrth yr Aelod gyferbyn: edrychwch y tu hwnt i'ch gelyniaeth, naill ai ataf fi neu at fy mhlaid, oherwydd mae mater mwy yma, y tu hwnt i blaid. Yn wir, fel y dywed Simon Thomas, mae tu hwnt i genedlaethau, onid yw? Rydym yn siarad yma am degwch rhwng cenedlaethau. Ac felly, buaswn yn apelio arno—gwn ei fod yn gwbl ddiffuant am y mater sylfaenol, ond o ran sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi pleidlais i bawb ohonom, dyma ein cyfle. Manteisiwch arno. Manteisiwch arno yn awr. Manteisiwch arno heno. Ni chawn gyfle arall; dyma ydyw.
Credaf mai'r consensws a glywais yn y cyfraniadau yn y Siambr, gan Andrew R.T. Davies, gan Aelodau eraill, gan gynnwys Lee Waters, rwy'n credu, yw'r ffigur o £2 biliwn. Credaf fod pob un ohonom yn derbyn bod yna elfen anochel ynglŷn ag i ble rydym yn mynd yn y pen draw. Mewn cyfraniad grymus iawn, tynnodd Jenny Rathbone sylw at y ffaith bod costau cyfle i'w cael ym mhob rhan o Gymru, onid oes? Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at beth o'r tanfuddsoddi cymharol a fu mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru. Ond mae'n wir: roedd Mark Barry, yn ei asesiad cychwynnol o gost cyfnod cyntaf y metro—wyddoch chi, byddai £1 biliwn, £1.5 biliwn, £2 biliwn yn sicrhau effaith drawsnewidiol enfawr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru hefyd. A'r cyfrif o'r gost cyfle honno sy'n rhaid inni allu ei hysgwyddo fel Aelodau unigol ar draws ein pleidiau, ac roedd Simon Thomas yn iawn i ddweud ein bod—fel plaid, mae'n rhaid i ni ailwerthuso ein safbwynt yng ngoleuni'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Felly, rydym yn cofnodi hynny. Hoffem annog yr Aelodau—. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn gynhenid anodd, ac mewn gwirionedd, rwy'n talu teyrnged i'r Aelodau ar y meinciau Llafur a siaradodd yn rymus tu hwnt, fod angen inni gael pleidlais ddemocrataidd, yn bennaf, wrth gwrs, oherwydd yr amheuaeth rydych yn ei rannu, rydym ni yn ei rhannu, ynglŷn ag a fyddai hyn yn dangos gwir werth am arian, ond hefyd y gwerthoedd cywiraf—y gwerthoedd rydym am eu hymgorffori yn y dyfodol y ceisiwn ei greu ar gyfer ein gwlad.
Edrychwch, rwy'n sylweddoli ein bod i gyd yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd—mae'n ddiffyg galwedigaethol o bosibl—mewn gornest gecru. Ond mae rhai pethau'n bwysicach, ac os wyf fi mewn unrhyw ffordd, mewn unrhyw sylwadau a wneuthum, wedi cymylu eich barn ar hynny rwy'n ymddiheuro, oherwydd—cafwyd llawer o ymddiheuriadau yn y Siambr hon yn ddiweddar, ac rwy'n barod i wneud hwn hefyd—mae hyn yn bwysicach na theatr wleidyddol. Mae hyn yn bwysicach nag ennill neu golli yn yr ystyr arwynebol honno. Mae hyn yn ymwneud â dyfodol ein gwlad, a chaf fy nghalonogi gan yr ymdeimlad o gonsensws yn y Siambr hon, ar y mathau hyn o benderfyniadau—penderfyniadau a fydd, o'u gwneud, yn effeithio ar genedlaethau i ddod—yna rhaid i ni, fel Senedd, fel seneddwyr, waeth beth fo'n plaid, fynnu ein bod yn cael pleidlais. Ac fe wahoddais Ysgrifennydd y Cabinet—yn yr ychydig eiliadau sydd gennyf yn weddill, os yw am godi ar ei draed i roi sicrwydd i ni y cawn y bleidlais honno, gall wneud hynny. Ond mae arnaf ofn fod y tawelwch yn siarad drosto'i hun. Os ydych am weld pleidlais ddemocrataidd, defnyddiwch eich pleidlais heno.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.