Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 7 Chwefror 2018.
Os ydych yn cael dadl, rwy'n credu bod yn rhaid cael pleidlais, ac mae'n rhaid iddi fod yn bleidlais o fewn amser y Llywodraeth. Felly, dyna'r sicrwydd a geisiaf oherwydd credaf mai dyma'r prosiect mwyaf a wynebwyd gennym erioed, ac mae iddo oblygiadau sylweddol iawn i lawer o'n hymrwymiadau eraill. Ac os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i drafnidiaeth gynaliadwy, i sicrhau bod traffig yn dod oddi ar y ffyrdd, rhaid inni ystyried yr holl opsiynau a'r holl oblygiadau ariannol.