Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n parchu barn yr Aelodau ar y mater hwn? Cafwyd ystod eang o safbwyntiau ar y pwnc hwn bob amser—safbwyntiau egwyddorol y credir yn angerddol ynddynt, ac rwy'n cydnabod cryfder y teimlad hwnnw. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau hefyd yn cydnabod fy niffuantrwydd wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw.
Ceir Aelodau yn y Siambr hon sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu'r llwybr du arfaethedig—ffordd liniaru'r M4—yn gyson ers blynyddoedd lawer. Nid wyf yn meddwl bod anghytundeb, i fod yn onest, yn y Siambr ynglŷn â'r cwestiwn fod angen gwneud rhywbeth o gwmpas Casnewydd a thwnelau Bryn-glas. Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol ac na all barhau. Mae cymudwyr, teithwyr a busnesau, cludwyr nwyddau a chynnyrch—maent i gyd yn treulio gormod o amser o lawer mewn ciwiau a thagfeydd ar y rhan honno o'r M4.
Ddirprwy Lywydd, nid yw hyd yn oed y rheini sy'n cwestiynu'r cynllun arfaethedig a'r rhai sydd â phryderon egwyddorol ynghylch yr angen i wneud gwaith uwchraddio mawr ar ffyrdd yn meddwl bod 'gwneud dim' yn opsiwn posibl. Yr hyn y credaf sy'n achosi anghytundeb yw beth a wnawn i fynd i'r afael â'r broblem o amgylch Casnewydd a thwneli Bryn-glas, yn yr un modd ag y mae sut yr awn ati i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd mewn rhannau eraill o Gymru yn aml yn destun anghytundeb canolog: a ddewiswn y llwybr glas, neu a awn am y llwybr du, a ydym yn mynd i arllwys y cyfalaf i mewn i un prosiect ffordd neu i mewn i deithio llesol, neu'r rheilffyrdd, neu gyfuniad o atebion. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyflwyno cynnig, yn seiliedig ar ymrwymiad maniffesto yr etholwyd fy mhlaid arno adeg yr etholiad diwethaf. Yn allweddol, mae'r cynllun yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer system drafnidiaeth integredig amlfoddol gynaliadwy o'r radd flaenaf yn ne Cymru, y soniodd Mick Antoniw yn gynnes amdani. Un sydd, ochr yn ochr ag uchelgais a chreadigrwydd y metro, yn gallu darparu sylfaen gref a pharhaol ar gyfer twf cynhwysol—twf yn y rhanbarth, ac o'i gwmpas hefyd.
Nawr, fel y dywedais, rwy'n ymwybodol o'r amrywiol safbwyntiau a fynegwyd ar y cynnig hwn heddiw a dros nifer o flynyddoedd. Ac er mwyn sicrhau bod barn pawb ar bob ochr yn cael eu hystyried yn drylwyr ac yn systematig, mae arolygwyr annibynnol wedi bod wrthi dros fisoedd lawer yn cymryd tystiolaeth, yn gwrando'n ofalus ac yn ystyried barn pawb. Mae pob Aelod yn y Siambr hon, pob plaid wleidyddol, pob busnes, pob grŵp, pob unigolyn yng Nghymru, wedi cael cyfle i gyfrannu at y broses honno, a bellach mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad yn cael ei phrofi'n drwyadl. O ystyried y sylwadau braidd yn annymunol ac annheg a welsom yn ddiweddar, yn ymwneud â swyddogion cyhoeddus sy'n darparu cyngor annibynnol, gwn y byddwn yn gosod safon well ac esiampl well dros y misoedd nesaf, drwy barchu'r broses a ddefnyddiwyd ar gyfer profi'r dystiolaeth, a thrwy barchu canlyniad yr ymchwiliad. Bydd yr ymchwiliad yn gorffen ei waith cyn bo hir. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod am i'r ymchwiliad cyhoeddus hwn fod yn agored, a hefyd i fod yn gadarn, gan brofi pob dewis amgen a awgrymir i lywio'r hyn a fydd yn fuddsoddiad seilwaith sylweddol i Gymru.
O ystyried y diddordeb o du'r pleidiau yn y Siambr hon, dyna pam fy mod wedi rhoi cyfarwyddyd i'r llwybr glas gael ei ddatblygu a'i asesu mewn cryn fanylder, gyda saith amrywiad ohono wedi'u gosod gerbron yr ymchwiliad, i'w gymharu â chynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, soniodd yr Aelodau am wahaniaethau yn y gost fel cyfiawnhad dros y cynnig heddiw, ac eto, hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi cyflwyno ei adroddiad, ni fyddwn yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth yn y gost mewn gwirionedd. Yn wir, efallai na fydd gwahaniaeth yn y gost.
Rwy'n cydnabod hefyd fod nifer o'r Aelodau heddiw wedi sôn am y technolegau sy'n dod i'r amlwg y gellir eu defnyddio mewn ceir yn y dyfodol. Ar sail llawer o dystiolaeth ryngwladol, gallai defnyddio'r hyn a elwir yn fodel rhagweld a darparu y presennol ar gyfer cerbydau yn y dyfodol arwain at angen cynyddol am ofod ffyrdd, o gofio y bydd ceir awtonomaidd, yn sicr dros gyfnod eu datblygu, yn debygol o alw am fwy o le er mwyn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau newydd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs. Gwnaf.