Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 7 Chwefror 2018.
Wel, cefais innau brofiad etholiadol deifiol yn 1997 hefyd, ond yn etholiad cyffredinol 1997 oedd hynny. Felly, rwy'n deall beth y mae Lee Waters yn ei ddweud, ond ni chredaf y byddai'n benderfyniad cymhleth: ni fyddai ond yn gofyn i'r Cymry a ydynt am gynyddu maint y Cynulliad 50 y cant neu ba ffigur bynnag o ganlyniad i'r trafodaethau y cyfeiriodd y Llywydd atynt yn gynharach. Nid wyf yn meddwl ei fod yn gwestiwn anodd i bobl ei ddeall o gwbl.
Cawsom bwerau ychwanegol wedi'u datganoli i'r Cynulliad a gallai rhagor ddod eto, ond af yn ôl hefyd at y ddadl a wnaeth Gareth Bennett yn ei araith yn gynharach: a oes gennym ormod o waith? Wel, efallai'n wir. Rwyf ar dri phwyllgor yn ogystal â bod yn arweinydd plaid ac rwy'n cyfrannu'n frwdfrydig at ddadleuon y Siambr hon, ac rwyf hefyd, gyda fy nhri chyd-Aelod, wrth gwrs, yn cynrychioli 75 y cant o arwynebedd tir Cymru yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Nid wyf yn teimlo bod gennyf lwyth gwaith arbennig o ormodol, ond mae'n ddiwrnod llawn ac yn wythnos lawn, cytunaf yn llwyr, a gallai pawb ohonom wneud â mwy o amser, efallai, i feddwl yn ogystal ag i siarad. Yn sicr, dyna ran o fy mywyd yr hoffwn weld ychydig mwy o ryddid i'w archwilio. Ond ar y cyfan, y prif bwynt a wnawn yn y ddadl hon yw ein bod i gyd yma fel procsis ar ran y bobl, ac er mwyn i ni sicrhau mwy o ddilysrwydd ym meddyliau'r bobl—. Wedi'r cyfan, mae nifer y pleidleiswyr mewn etholiadau yn druenus o isel o'i gymharu â'r hyn y dylai fod. Yn wir, yn yr isetholiad yn Alun a Glannau Dyfrdwy, 29 y cant yn unig oedd y nifer ddoe, ac yn etholiad y Cynulliad y llynedd, nid oedd ond yn y pedwardegau. Felly, nid yw'n gymeradwyaeth fyddarol i'n sefydliad. Ac felly, cyn inni geisio ehangu ei faint, credaf y dylem fynd yn ôl at ein meistri, y bobl, a gofyn am eu cymeradwyaeth a'u caniatâd cyn inni gymryd y cam hwnnw.