Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 7 Chwefror 2018.
Mae llawer ohonom sydd â phrofiad o ymladd refferendwm 2011 a cheisio mynegi achos y byddai pobl yn ei ddeall am symud o Ran 3 i Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru wedi'u deifio braidd gan y profiad, ac nid yw'r cwestiwn a ddylem newid cyfluniad mewnol y Cynulliad ai peidio yn fater o egwyddor, buaswn yn awgrymu, yn yr un modd na fu refferendwm i weld a ddylid lleihau nifer yr ASau.