Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, pan oedd pawb ohonom yn sefyll etholiad yn UKIP 18 mis neu fwy yn ôl, fe ddywedasom ein bod yn dod i'r Cynulliad hwn er mwyn mynd i'r afael â chonsensws Bae Caerdydd, ac rwy'n meddwl bod y ddadl y prynhawn yma'n dangos bod yna rôl i blaid fel UKIP a fydd yn gwneud hynny.
Rydym wedi cael y pleser anarferol o gyfraniad y Llywydd yn y ddadl hon, sydd wedi ychwanegu llewyrch at yr hyn a oedd gennym oll i'w ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi ei safbwynt yn gwneud hynny, nad yw hi am achub y blaen ar benderfyniad pobl Cymru. Ond ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn yn y pen draw: a yw pobl Cymru eu hunain i gael eu caniatáu i wneud y penderfyniad terfynol. Pan agorodd Gareth Bennett ei araith—nid wyf am wneud sylwadau ar rai o'i argymhellion—ond rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno fy mod yn awyddus i ganiatáu i safbwyntiau anuniongred ffynnu yn fy ngrŵp. Ond ar ddwy egwyddor sylfaenol ei araith—y bydd pobl Cymru yn sicr yn pryderu am y costau sydd wedi chwyddo ers 1997, pan ragwelwyd y byddai hyn y n costio tua £10 miliwn y flwyddyn i ni—. Mae'r Cynulliad bellach yn gwario tua £54 miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Felly, mae hwnnw'n swm sylweddol o arian a byddai cynyddu ei faint, wrth gwrs, yn cynyddu ei gost.
Ond yr egwyddor bwysicaf yw'r egwyddor cydsyniad y canolbwyntiodd Gareth Bennett arni. Gwn fod rhai o Aelodau'r tŷ hwn yn awyddus iawn i gael refferenda mewn rhai amgylchiadau i wrthdroi refferenda eraill, ond os ydym yn onest, credaf nad yw'r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y sefydliad hwn gyda'r math o barch y mae pawb ohonom yn credu ei fod yn ei haeddu. Ni fu erioed cydsyniad gwirioneddol dwymgalon ynghylch ei greu yn y lle cyntaf. Nid wyf am fychanu dim ar y setliad datganoli yr wyf wedi dod yn fwyfwy brwdfrydig yn ei gylch, mewn gwirionedd, dros y blynyddoedd. O ganlyniad i fy rhan yn nadleuon y lle hwn, rwyf wedi gweld ei rinweddau, ac yn sicr—fel rwyf wedi dweud droeon yn y tŷ hwn—rwy'n credu mewn dod â'r Llywodraeth yn agosach at y bobl a chael cystadleuaeth hefyd rhwng gwahanol awdurdodaethau y Deyrnas Unedig. Credaf fod hynny'n beth da iawn i lywodraeth a democratiaeth yn gyffredinol.
Felly, nid wyf—fel y dywedodd Caroline Jones yn ei haraith—yn gwrthwynebu cynyddu maint y Cynulliad o ran ideoleg. Yn sicr, o ran gwaith mewnol y Cynulliad, credaf fod yna'n sicr achos da iawn dros hynny, ac fel y nododd Angela Burns, rwy'n meddwl, yn gynharach y prynhawn yma, dros gynyddu nifer yr Aelodau meinciau cefn yn y Blaid Lafur, er enghraifft, lle y gallai hynny arwain efallai at fwy o safbwyntiau anuniongred yn eu plaid eu hunain yn ogystal, ac efallai na fyddai Lee Waters, wedyn, lawn mor bryderus ynglŷn â gorfod camu y tu allan i'r ffens ar faterion fel yr M4. Byddai hynny'n beth da iawn i waith y sefydliad hwn a'r ddemocratiaeth gynrychioladol a ymgorfforir gennym.
Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud yr achos a chario'r bobl gyda ni. Un o'r rhesymau pam roeddwn o blaid cael refferendwm ar yr UE oedd, nid yn unig oherwydd fy mod eisiau dod allan o'r UE, ond oherwydd fod y Prif Weinidog, Edward Heath, wedi dweud pan aethom i mewn gyntaf, na fyddai'n digwydd heb gydsyniad brwd y Senedd a'r bobl. Wel, fe gafodd gefnogaeth lugoer y Senedd oherwydd ar y pryd, roedd y mwyafrifoedd yn y ffigurau sengl wrth i Fil y Cymunedau Ewropeaidd wneud ei ffordd drwy Dŷ'r Cyffredin, ond ni chafodd erioed gydsyniad brwd pobl y wlad, a chanlyniad hynny, dros y 40 mlynedd diwethaf, yw bod yr Undeb Ewropeaidd bob amser wedi bod yn fater dadleuol.
Ac os yw'r Cynulliad yn gorff hyderus fel y credaf ei fod, yna ni ddylai ofni gofyn am benderfyniad y bobl ynglŷn ag a ddylem gynyddu ei faint. Gwyddom fod yna addewid yn y refferendwm diwethaf na ddylem ddatganoli pwerau trethu i'r Cynulliad, a thorrwyd yr addewid hwnnw. Yn bersonol, rwyf o blaid datganoli treth incwm i'r Cynulliad a threthi eraill hefyd yn wir, ond gan ein bod wedi addo i'r bobl na fyddai hynny'n digwydd heb bleidlais arall, credaf mai bradychu ymddiriedaeth oedd na ddigwyddodd hynny. Ac os ydym i gynyddu maint y Cynulliad hwn, rwy'n credu bod yn rhaid inni gario pobl gyda ni a gofyn am eu barn mewn pleidlais ystyrlon. Ni allaf weld unrhyw reswm democrataidd pam na ddylai hynny fod yn dderbyniol i holl Aelodau eraill y Cynulliad.
Mae'n hanfodol, rwy'n meddwl, ein bod yn cynyddu diddordeb pobl yn y Cynulliad. Credaf ei bod yn rhyfeddol nad yw hanner pobl Cymru ag unrhyw syniad fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei weinyddu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na chan Jeremy Hunt a'i gyfeillion yn San Steffan. Mae gennym lawer mwy i'w wneud i gynyddu ymwybyddiaeth ddinesig y Cynulliad a dilysrwydd yr hyn a wnawn ym meddyliau—[Torri ar draws.] Iawn, yn sicr fe wnaf i ildio.