Tlodi yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:42, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o bwyslais Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru yn seiliedig ar greu dwy ganolfan strategol yng Nghastell-nedd ac yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o dasglu'r Cymoedd, fel yr wyf yn siŵr y gwyddoch, ac un elfen allweddol o hynny yw rhyddhau tir cyflogaeth ar gyfer defnydd diwydiannol. Nawr, o gofio bod hynny hefyd yn wir am y rhan fwyaf o ganolfannau strategol ar draws gweddill Cymoedd y de, a ydych chi'n cytuno bod perygl, oni bai fod sectorau a chwmnïau penodol yn cael eu targedu mewn ffordd systemig, y bydd eich Llywodraeth yn gorlenwi'r farchnad trwy ryddhau tir na fydd unrhyw bosibilrwydd i chi ei lenwi?