1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51777
Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut y byddwn ni'n cynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig i wireddu eu potensial a byw bywydau bodlon. Ac rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol ein plant ac yn tyfu ein heconomi. Bydd tasglu gweinidogol y Cymoedd yn gwella canlyniadau hefyd, wrth gwrs, i gymoedd Gorllewin De Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Mae fy rhanbarth i yn un o ranbarthau tlotaf y DU erbyn hyn. Mae ganddi'r gyfradd cyflogaeth isaf yng Nghymru, lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, a pheth o'r incwm gwario gros isaf yn y DU ymhlith ei haelwydydd. Ar ôl bron i 20 mlynedd o gynlluniau economaidd Llafur, mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Nid tincran economaidd sydd ei angen ar fy rhanbarth i, fel y canolfannau Technium trychinebus, nac ardaloedd menter gwag. Mae angen economi treth isel, ystyriol o fusnes i annog busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth. Mae llwyfan cyfrifiadura bach mwyaf llwyddiannus y byd—
A allwch chi ddod i gwestiwn, os gwelwch yn dda?
—gallaf—eisoes yn cael ei gynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Dylem ni fod yn adeiladu clwstwr uwch-dechnoleg o gwmpas Pen-coed, a threth is yw'r catalydd sydd ei angen arnom ni. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros gyllid am efelychu Iwerddon ac annog busnesau uwch-dechnoleg fel Intel ac Apple i sefydlu yng Nghymru trwy gynnig cymhellion treth iddynt pan fyddwn ni'n rhydd o reolau cymorth gwladwriaethol yr UE?
Nawr, gadewch i mi geisio deall y pwynt yma, os gallaf i. Yr wythnos diwethaf, roedd UKIP yn dadlau nad oedden nhw eisiau gweld trethi newydd, ac nawr maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau gweld trethi busnes, nad ydynt wedi eu datganoli—. Rydych chi eisiau gweld trethi busnes yn cael eu datganoli i'r Cynulliad hwn—ai dyna ydych chi'n ei ddweud? Oherwydd dyna ganlyniad rhesymegol yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud.
Ac yna mae gennym ni'r cwestiwn nesaf: sut ydych chi'n talu, wedyn, am wasanaethau cyhoeddus, os oes bwlch yn y dreth gyhoeddus a dderbynnir? Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi gwrth-ddweud ei hun yn ystod y cwestiwn yna. Dywedodd bod Gorllewin De Cymru yn un o ardaloedd tlotaf Cymru, yna aeth ymlaen i enwi rhai o'r llwyddiannau—un ohonynt yn fy etholaeth i—yr ydym ni wedi eu gweld o ganlyniad i waith Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad i Gymru. Beth yw cynllun economaidd UKIP? Ein gwahanu oddi wrth ein marchnad agosaf a phwysicaf, lle mae 60 y cant o'n hallforion yn mynd, lle mae 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd. Nid yw hwnnw'n gynllun economaidd a fydd yn gweithio ar gyfer y dyfodol. A gallaf ddweud, cyn belled ag y mae ffigurau gwerth ychwanegol gros yn y cwestiwn, ein bod ni'n gwybod mai Cymru yw'r wlad sy'n tyfu gyflymaf yn y DU o ran gwerth ychwanegol gros, gyda gwerth ychwanegol gros yn cynyddu i bron i £60 biliwn yn 2016, ac rydym ni'n gwybod bod ein cyfradd cyflogaeth yn parhau i dyfu. Mae hynny oherwydd y gwaith caled yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod gennym ni swyddi i'n pobl.
Mae llawer o bwyslais Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru yn seiliedig ar greu dwy ganolfan strategol yng Nghastell-nedd ac yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o dasglu'r Cymoedd, fel yr wyf yn siŵr y gwyddoch, ac un elfen allweddol o hynny yw rhyddhau tir cyflogaeth ar gyfer defnydd diwydiannol. Nawr, o gofio bod hynny hefyd yn wir am y rhan fwyaf o ganolfannau strategol ar draws gweddill Cymoedd y de, a ydych chi'n cytuno bod perygl, oni bai fod sectorau a chwmnïau penodol yn cael eu targedu mewn ffordd systemig, y bydd eich Llywodraeth yn gorlenwi'r farchnad trwy ryddhau tir na fydd unrhyw bosibilrwydd i chi ei lenwi?
Hen fodel Awdurdod Datblygu Cymru yw hwnnw, lle mae gennych chi dir, rydych chi'n adeiladu llawer o adeiladau gwag ac yna nid yw'r adeiladau hynny'n cael eu llenwi. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr, cyn belled ag y mae galw yn y cwestiwn, ei fod yn cael ei gyfateb yn agos i gyflenwad, ac, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar ardaloedd o Gymru lle ceir y sylfaen sgiliau i ddenu rhagor o fuddsoddiad. Dyna'n union, wrth gwrs, pam mae gennym ni gynllun gweithredu economaidd sydd â'r angen, wrth ei wraidd, i dargedu rhannau o Gymru yn ôl eu cryfderau.
Prif Weinidog, dywedwyd wrthym mewn sesiwn dystiolaeth pwyllgor yn ddiweddar ynglŷn â digartrefedd mai un o brif achosion digartrefedd erbyn hyn yw rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU. A ydych chi'n cytuno, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, nad yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU i atal cyflwyniad y rhaglen credyd cynhwysol drychinebus hon?
Ydw, yn sicr, ond dydyn nhw ddim yn gwrando, nac ydyn? Fe es i ymweld â phobl a oedd yn ddigartref cyn y Nadolig, a byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr i wneud yr un peth; efallai y bydden nhw'n dysgu rhywbeth. Ond y gwir amdani yw nad oes ots ganddyn nhw am ddioddefaint pobl sy'n ddigartref. Nid oes ots ganddyn nhw am y broblem o gysgu ar y stryd. Mae arweinydd yr wrthblaid yn eistedd yn y fan yna, o'i ystâd wledig, ac yn condemnio pobl am fod yn ddigartref. Dyna realiti ei safbwynt. Rydym ni, fel plaid, wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn brifo. Gwn ei fod yn eich brifo, ac nad ydych chi'n hoffi'r gwir—rwy'n deall hynny. Rydym ni wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn ar bla digartrefedd ymhlith pobl ifanc tra bod y Ceidwadwyr wedi eistedd a gwneud dim.