Tlodi yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ydw, yn sicr, ond dydyn nhw ddim yn gwrando, nac ydyn? Fe es i ymweld â phobl a oedd yn ddigartref cyn y Nadolig, a byddwn yn cynghori'r Ceidwadwyr i wneud yr un peth; efallai y bydden nhw'n dysgu rhywbeth. Ond y gwir amdani yw nad oes ots ganddyn nhw am ddioddefaint pobl sy'n ddigartref. Nid oes ots ganddyn nhw am y broblem o gysgu ar y stryd. Mae arweinydd yr wrthblaid yn eistedd yn y fan yna, o'i ystâd wledig, ac yn condemnio pobl am fod yn ddigartref. Dyna realiti ei safbwynt. Rydym ni, fel plaid, wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn brifo. Gwn ei fod yn eich brifo, ac nad ydych chi'n hoffi'r gwir—rwy'n deall hynny. Rydym ni wedi ymrwymo £10 miliwn i roi terfyn ar bla digartrefedd ymhlith pobl ifanc tra bod y Ceidwadwyr wedi eistedd a gwneud dim.