Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Mae fy rhanbarth i yn un o ranbarthau tlotaf y DU erbyn hyn. Mae ganddi'r gyfradd cyflogaeth isaf yng Nghymru, lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, a pheth o'r incwm gwario gros isaf yn y DU ymhlith ei haelwydydd. Ar ôl bron i 20 mlynedd o gynlluniau economaidd Llafur, mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Nid tincran economaidd sydd ei angen ar fy rhanbarth i, fel y canolfannau Technium trychinebus, nac ardaloedd menter gwag. Mae angen economi treth isel, ystyriol o fusnes i annog busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth. Mae llwyfan cyfrifiadura bach mwyaf llwyddiannus y byd—