Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Chwefror 2018.
Ers degawdau, mae fframweithiau polisi'r UE wedi dylanwadu ar reolaeth ein tir, wedi bod yn sail i batrymau cynhyrchu bwyd, ac wedi ategu incwm ffermydd. Ar ôl Brexit, bydd ein prif gynhyrchwyr yn fwy agored i farchnadoedd byd-eang a bydd mwy o wrthdaro mewn systemau masnachu gan arwain at ganlyniadau negyddol sylweddol, i'r sector cig dafad yn benodol.