Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:53, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dywedasoch fis Medi diwethaf eich bod chi eisiau gweld system gyfiawnder—a dyfynnaf—a oedd yn gwbl gynrychioliadol o anghenion Cymru.

Y blaenoriaethau yw gwella mynediad at gyfiawnder, lleihau trosedd a hyrwyddo adsefydlu. Rydym ni'n gwybod y disgwylir i'ch comisiwn adrodd yn ôl yn 2019, ond mae hynny braidd yn hwyr i sicrhau y gellir datganoli polisi cyfiawnder mewn modd pendant ac eglur yn barod ar gyfer Senedd nesaf Cymru. A ydych chi'n hyderus y bydd yr achos dros system gyfiawnder unigryw i Gymru yn cael ei gryfhau gan eich comisiwn ac y gellir gwneud cynnydd cyflym os bydd yn adrodd yn ôl gyda thystiolaeth gymhellol ar gyfer newid?