Y Diwydiant Amaethyddiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:08, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, pan es i â phwyllgor Cynulliad i Ddulyn a chyfarfod y Taoiseach, dysgais sut mae Iwerddon yn elwa ar £2 biliwn oherwydd mynediad breintiedig at ein marchnadoedd cig eidion a chynhyrchion llaeth yn yr undeb tollau, gyda chwarter ein cig eidion yn dod o Iwerddon. Onid yw'n wir mai ein dewis ni y tu allan i undeb tollau fyddai masnachu'n rhydd a phrynu cig eidion yn rhatach o rywle arall, neu, os byddai'n well gennym ni dariffau, prynu cig eidion gan ffermwyr yng Nghymru a'r DU yn hytrach?