Porthladd Caergybi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:12, 13 Chwefror 2018

Diolch am yr ymateb yna. Mae'n werth atgoffa pobl fod masnach drwy borthladd Caergybi wedi cynyddu bron iawn i 700 y cant ers dechrau y farchnad sengl. Allwn ni ddim fforddio gweld Cymru a phorthladd Caergybi ddim yn rhan o undeb tollau a ddim yn rhan o farchnad sengl. Rwy'n poeni am oblygiadau tariffs ar fasnach. Mi fyddai llwybrau newydd yn cael eu datblygu, yn sicr, rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop. Nid oes lle yn gorfforol ym mhorthladd Caergybi i ddelio efo'r checks ar lorris ac yn y blaen. Rŵan, yn wahanol i arweinydd eich plaid chi, Jeremy Corbyn, rwy'n falch o'ch clywed chi yn dweud eich bod chi'n credu mewn aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl, ond beth ydych chi'n fodlon wneud am y peth? Pa mor bell ydych chi'n fodlon gwthio hyn? Mae Seneddau is-wladwriaethol eraill yn Ewrop yn gallu cael gwir ddylanwad—feto, hyd yn oed, mewn rhai enghreifftiau—dros benderfyniad y wladwriaeth. Pa mor bell ydych chi yn dymuno gweld dylanwad Cymru yn mynd o ran penderfynu ar ein llais ni a grymoedd Cymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd?