Llywodraethau Rhyngwladol a Gweinyddiaethau Is-ranbarthol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:22, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cefnogi'n llwyr, wrth gwrs, hawl unigolyn i ryddid cydwybod. Rwyf i wedi codi materion hawliau dynol yn y gorffennol mewn rhai gwledydd yr wyf i wedi bod ynddynt—nid wyf wedi osgoi hynny. Wrth gwrs, rydym ni'n cymryd cyngor gan y Swyddfa Dramor; mae'n hynod bwysig, gyda'u rhwydwaith o lysgenadaethau a'u mynediad at wybodaeth, ein bod ni'n cymryd cyngor ganddyn nhw, ond ni allai neb, wrth gwrs, gymeradwyo sefyllfa lle nad yw rhyddid cydwybod yn cael ei barchu.