Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Chwefror 2018.
Mae gan rai Llywodraethau rhanbarthol, fel Fflandrys, er enghraifft, fel yr oedd Rhun ap Iorwerth yn pwyntio mas, feto dros dermau terfynol cytundeb Brexit, nad oes gan Gymru ar hyn o bryd. Wrth gwrs, fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae cysylltiad hanesyddol agos iawn rhwng Cymru a Fflandrys. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried arwain dirprwyaeth i Fflandrys i apelio iddyn nhw, os oes yn rhaid, i ddefnyddio'r grym sydd ganddyn nhw i helpu Cymru, yn ein hawr ni o angen, fel y gwnaeth Cymry yn eu miloedd, can mlynedd yn ôl, drostyn nhw?