Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dyraniad o £73 miliwn ychwanegol i raglen addysg ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn cynyddu'r cyfanswm a fuddsoddwyd i £3.8 biliwn. Prif Weinidog, fel y gwelsoch chi eich hun pan wnaethoch agor Ysgol Uwchradd Islwyn yn swyddogol, mae seilwaith ysgolion Cymru yn cael ei ail-lunio a'i ailadeiladu i wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol. Sut felly, y gellir cynnal y fenter radical, drawsnewidiol hon yn y blynyddoedd i ddod, fel na fydd Cymru byth yn gweld adeiladau ysgolion yn dadfeilio fel yn oes Thatcher a Major, pan oedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am bolisi Llywodraeth addysgol yng Nghymru ddiwethaf?