Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Chwefror 2018.
Roedd llawer ohonom ni yn yr ysgol yn yr 1980au, ac er gwaethaf ymdrechion gorau ein hathrawon, cawsom ein haddysgu mewn adeiladau a oedd yn dadfeilio, cabanau — rwy'n cofio un caban lle'r oedd eiddew yn tyfu i fyny'r wal y tu mewn oherwydd bod bwlch rhwng y llawr a'r wal. Gwelais systemau gwresogi nad oeddent yn gweithio. Ni welais unrhyw ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu. Cymharwch hynny â nawr. Cymharwch hynny â heddiw, pan fo gennym ni dros 150 o ysgolion a cholegau yng Nghymru a fydd yn cael eu hadnewyddu neu y bydd ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn eu lle yn y pum mlynedd hyd at 2019. Mae hynny'n 150 o ysgolion a cholegau a fyddai, o dan y Torïaid, wedi eu gadael i ddirywio.