3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:09, 13 Chwefror 2018

Os caf i groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw gan ddweud fy mod i'n siomedig braidd, wrth gwrs, nad yw e wedi dewis y dreth plastig untro, ond rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn mynd i ddefnyddio'r broses newydd yma i arbrofi gyda threth newydd—cawn ni ei alw fe'n 'taxco', efallai, i gyd-fynd â'r LCO. Ond rydym ni, yn fan hyn, yn cefnogi'r ffaith bod y broses yma yn mynd i gael ei phrofi. Fel mae e yn ei ddatganiad wedi dweud, nid ydym ni'n mynd i ymrwymo yn ddi-droi'n-ôl at y dreth tir gwag yma. Rydym ni eisiau gweld sut fydd yn cael ei datblygu a beth yn union fydd pwrpas a defnydd y dreth a rhychwant ac ystod y dreth yma yng Nghymru. Ond, rydym ni'n sicr yn cefnogi’r egwyddor o ddefnyddio'r broses yma o lunio trethi newydd.

Un cwestiwn yn benodol ar y dreth tir gwag sydd yn bosibl i'w ofyn nawr yw: i bwy y bydd y dreth yn gymwys? Mae'r datganiad yn sôn am ddatblygwyr tir, pobl sy'n dal—gallwch chi feddwl am archfarchnadoedd sydd yn enwog am eistedd ar dir am gyfnodau hir iawn. Ond, y ffaith amdani yw bod lot o dir yng Nghymru yn cael ei berchen gan y sector cyhoeddus, gan y Llywodraeth ei hunan, a gan awdurdodau lleol, a'r sector cyhoeddus yn yr ystyr ehangach, megis prifysgolion, megis colegau, megis cymdeithasau tai, sydd yn dal yn y sector cyhoeddus oni bai ein bod ni'n pasio'r Ddeddf sydd yn cael ei thrafod yn nes ymlaen heddiw. Felly, rwyf eisiau deall: a yw'n gwestiwn y bydd treth o'r fath hefyd yn mynd i fod yn trethu'r sector cyhoeddus am eu bod nhw'n eistedd ar dir gwag? Achos mae braidd yn od i Lywodraeth drethu rhan arall o'r Llywodraeth, fel petai. Nid wyf yn siŵr beth fydd pwrpas hynny. Mae gan y Llywodraeth arfau polisi eraill i fynd i'r afael â'r broblem, yn hytrach na threthu. Dyna'r cwestiwn sydd gyda fi ar hyn o bryd.

Os gwnaf droi at y datganiad yn ehangach, ac os caf i hefyd ddweud bod y datganiad ar lafar heddiw wrth gwrs yn cyd-fynd â datganiad ysgrifenedig a datganiad hirfaith o ddatganiad polisi treth ar gyfer 2018 y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gosod allan, sy'n llawer rhy hir i gael trafodaeth heddiw amdano, ond mae yna gwpwl o bethau sy'n deillio o hynny y liciwn i ofyn heddiw yn ogystal. Yn y polisi treth rydych chi wedi datgan heddiw, un o'r pethau rydych chi'n dweud yw mai amcanion eich polisi chi yw defnyddio trethi er mwyn dylanwadu ar ymddygiad—nid yn unig i godi arian ond i ddylanwadu ar ymddygiad. Yn y cyd destun hwnnw, roedd y dreth ar blastig untro yn edrych yn ddeniadol iawn. Rwy'n deall beth rydych chi'n dweud ynglŷn â datblygiadau ar lefel y Deyrnas Gyfunol, ond a fedrwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni nawr am yr ymwneud fydd gyda chi gyda Llywodraeth San Steffan ar ddatblygu treth plastig untro? Rydych chi'n sôn am fod yn rhan o gasglu tystiolaeth, ond a ydych chi hefyd am fod yn rhan o ffurfio polisi, dylanwadu ar y polisi, a gwneud yn siŵr, os bydd yna dreth plastig untro, drwy'r dulliau hynny, eu bod nhw'n gymwys ar gyfer hynny?

Un o'r cwestiynau sydd wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Cynulliad yma wrth inni drafod y syniad yw bod rhaid iddo gyd-fynd â'r ailgylchu uchel sydd gyda ni yng Nghymru, ac mae ailgylchu o fath wahanol mewn rhannau eraill o Brydain. Nid yw pob treth yn mynd i fod yn addas i ni o dro i dro. Un o'r pethau amlwg, felly, os daw treth blastig drwy ddulliau San Steffan, yw y dylai fod rhyw fath o ddylanwad neu rhyw fath o hawl gan y Llywodraeth fan hyn ar lefel y dreth honno. Fel arall, nid oes modd i chi gymhwyso'r dreth ar gyfer y sefyllfa sydd gyda ni yma. 

Dau gwestiwn i gloi sy'n codi o'r cyd-destun ehangach rŷch chi wedi cyhoeddi heddiw. Yn y polisi treth rŷch chi'n sôn am drethi lleol a'r egwyddor o sut mae'r rhain yn cydweithio gyda'i gilydd. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, eich bod chi'n adolygu trethi busnes, ac rydym ni'n wynebu treth cyngor gyda rhai codiadau uchel iawn o bosib eleni. Mae gyda chi arian craidd o'r Llywodraeth ganolog sy'n mynd i awdurdodau lleol sydd hefyd yn lleihau. Yn Lloegr, mae'n glir erbyn hyn ei bod yn fwriad gan Lywodraeth Lloegr i dorri nôl yn sylweddol ar yr arian sy'n dod o ffynonellau canolog ac i felly annog trethi cyngor a threth busnes i gynyddu er mwyn gwneud i fyny am hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw ddatganiad o fwriad na pholisi gan Lywodraeth bresennol Cymru ynglŷn â'r materion yna. A fedrwch chi roi rhyw fath o syniad i ni o ble rydych chi'n gweld trethi lleol yn mynd dros y blynyddoedd nesaf?

Ac yn olaf, rydym ni'n gweld datganoli treth incwm ar y gorwel. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol nad yw'n bolisi'r Llywodraeth yma i newid treth incwm yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. A fedrwch chi ailgadarnhau wrth y Cynulliad heddiw mai dyna sy'n aros fel eich polisi chi?