4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:00, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Pan fydd gennych chi 46 o ymgynghorwyr Damweiniau ac Achosion Brys sydd wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog, yn dweud bod risgiau diogelwch yn annerbyniol, yna dylem ni fod yn feirniadol iawn ynghylch sut yr ydym ni'n ymdrin â'r gaeaf. Pan oedd gennych chi, yn ystod anterth y galw dros y gaeaf, yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, gynorthwywyr personol, staff TG a rheolwyr yn cael eu galw i fynd ar drywydd canlyniadau sganio a meddyginiaeth hyd yn oed i helpu i leihau oedi, mae'n rhaid inni holi sut y gwnaethom ni y gaeaf hwn. Cawsom y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dweud y bu rhai cleifion yng Nghymru yn aros mwy na 80 o oriau mewn adrannau achosion brys.

Felly, mae pedwar cwestiwn yr hoffwn i ofyn i chi, a'r cyntaf ynglŷn â defnyddio gwelyau. Flwyddyn ddiwethaf yn unig, cafwyd gostyngiad o 8 y cant mewn gwelyau adsefydlu, 6 y cant mewn seiciatreg, 6 y cant mewn llawdriniaeth gyffredinol a bron i 6 y cant mewn meddygaeth geriatrig. Dywedasoch chi fod byrddau iechyd wedi cael eu cefnogi i agor gwelyau ychwanegol y gaeaf hwn, ond mae'n amlwg na wnaeth fawr ddim i leddfu'r galw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed os gallech ddweud wrthym beth aeth o'i le â hynny—pam yr oedd gan Ysbyty Tywysog Philip ddefnydd gwelyau o 103 y cant dros y bythefnos honno o'r gaeaf, Llwynhelyg yn 98, Bronglais yn 100 y cant, Ysbyty Brenhinol Gwent yn 98, Ysbyty Nevill Hall yn 98. Maen nhw'n anhygoel o uchel, a hoffwn ddeall sut y mae'r £50 miliwn a roddwyd gennych yn gynharach y llynedd, £10 miliwn a roesoch chi yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau rheng flaen—ac rwy'n croesawu'r £10 miliwn yr ydych chi wedi'i gyhoeddi yn y datganiad hwn heddiw ar gyfer y sector gofal cymdeithasol—. Ond, wyddoch chi, nid yw'n cyrraedd lle mae ei angen. Mae defnydd gwelyau yn broblem fawr.

Fy ail bryder oedd ynghylch gofal y tu allan i oriau. Ymddengys fod natur 4-3-4 y bythefnos honno dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd mewn gwirionedd wedi dal pobl ar y gamfa. Yn Aneurin Bevan, dim ond 20 o feddygon oedd gennym ar sifft pan y mae angen 20 arnom, mewn gwirionedd. Caerdydd a'r Fro—dim ond 92 awr meddygon teulu gafodd eu gweithio er bod angen 192. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Roedd gennym feddygon teulu yn methu â chyflenwi'r gwasanaeth tu allan i oriau, fel bod pobl wrth gwrs wedyn yn mynd i'r ysbytai ac yn rhoi'r pwysau ar ein gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Gan droi at ddamweiniau ac achosion brys, dros y cyfnod hwnnw o bythefnos—nid wyf am eich diflasu ag ystadegau; maen nhw i gyd gen i yma—faint o gleifion oedd yn aros ymhell dros 12 awr? Ond, pan fyddwch chi'n meddwl bod Ysbyty Athrofaol Cymru wedi gallu cynllunio ar gyfer rownd derfynol Cwpan UEFA drwy ddweud wrth bob ward sengl, 'Mae'n rhaid ichi wagio dau wely er mwyn i ni allu rheoli unrhyw fewnlifiad allai fod gennym'—ni wnaeth y lefel honno o gynllunio manwl ddigwydd ar gyfer pwysau'r gaeaf. Os edrychwch chi ar Ysbyty Athrofaol Cymru, roedd ganddyn nhw bron i ddwy ward yn llawn o bobl yn aros am drosglwyddiad gofal i adael yr ysbyty, a chredaf fod yn rhaid bod hynny wedi ychwanegu yn aruthrol at y pwysau hwnnw.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â ffliw. Roedd y gyfradd ymgynghori â meddyg teulu ar gyfer ffliw ymhell uwchlaw'r trothwy epidemig symudol. Golyga hynny ein bod yn cyrraedd—neu wedi cyrraedd—pwynt argyfwng. Bu cynnydd enfawr mewn ffliw, a hoffwn ddeall, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gallwch chi ei wneud i wella'r niferoedd sy'n cael y brechiad rhag y ffliw. Pan fyddwn ni'n meddwl mai dim ond 51 y cant o staff y GIG gafodd frechiad rhag y ffliw, a dim ond 53 y cant o staff y GIG a oedd yn y rheng flaen a oedd wedi cael brechiad rhag y ffliw, yna gallwn weld mewn gwirionedd bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth am hyn.

Yn olaf, ar y canllawiau NICE, y brechlyn eleni oedd y brechlyn trifalent £5, ac nid oedd hwnnw'n cynnwys ffliw B, sydd wedi achosi dros 50 y cant o dderbyniadau i'r ysbyty. Byddai'r brechlyn arall hwnnw wedi costio £8. Felly, hoffwn eich sylwadau ar pa un ag ydych chi o'r farn mai'r wers ar gyfer y dyfodol yw y dylem ni geisio cael brechlyn mwy cynhwysfawr ar gael er mwyn ei atal. Ffliw, yn enwedig yn yr ifanc a'r henoed, sy'n achosi cymaint o bwysau ar ein hadran ddamweiniau ac achosion brys. Mae llawer iawn mwy i'w ddweud am bwysau'r gaeaf, ac rwy'n cydnabod yr egin gwyrdd o lwyddiant a amlygwyd gennych. Sut i'w gwneud yn gyson a sut i'w defnyddio'n gyffredinol ar draws y GIG yw'r her yr ydych chi'n ei hwynebu, ond mae'n rhaid i chi fod yn fforensig wrth ddeall pam ac ym mha faes na wnaethom ni lwyddo eleni.