9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:30, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) ar ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cyn troi at y mater perthnasol dan sylw, rwyf am gofnodi fy niolch i'r is-bwyllgor a sefydlwyd am ei waith o gasglu tystiolaeth yn rhan o broses Cyfnod 1. Yn benodol, rwyf eisiau diolch i Eluned Morgan am gadeirio cam cynnar gwaith yr is-bwyllgor cyn cael ei phenodi i Lywodraeth Cymru, i David Melding am gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth a'i ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth honno, a chofnodi cyfraniad Steffan Lewis i'r gwaith.

Llywydd, mae'r angen am y ddeddfwriaeth hon yn glir; nid ydym yn herio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud. Mae'n hollbwysig inni wrthdroi penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu a sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu hystyried yn gyrff sector preifat at ddibenion cyfrifyddu. At hynny, rydym ni'n cydnabod y risgiau i allu landlord cymdeithasol cofrestredig i fenthyg arian os na fydd ailddosbarthu yn digwydd. Fodd bynnag, rydym ni'n glir yn ein hadroddiad, er yr ystyrir yn briodol bod y Bil hwn er budd y cyhoedd, y dylid ei ystyried yn gam tuag at ddadreoleiddio'r sector—ni allwn ni anwybyddu'r ffaith honno—ac y bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli risg a monitro effeithiolrwydd yn ddyfal.

I lywio casgliadau ac argymhellion ein pwyllgor, clywsom gan randdeiliaid allweddol yn y sector ac fe gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o chwech o'r 19 o argymhellion y nododd y Gweinidog. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ein gwaith.

Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn un eithaf syml, sef argymell derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, oherwydd byddai methu â phasio'r ddeddfwriaeth hon, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, yn golygu gostyngiad o fwy na 5,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac mae hynny'n annerbyniol.

Roedd argymhelliad 2 yn edrych ar yr agwedd o ddylanwad awdurdodau lleol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chlywsom negeseuon croes gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Llywodraeth ynghylch statws cynghorwyr lleol sy'n aelodau annibynnol o'r bwrdd. Rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud y bydd yn derbyn hyn ac yn egluro'r sefyllfa er mwyn sicrhau nad yw unigolion sydd yno fel unigolion yn cael eu gosod yno a'u hystyried yn gynrychiolwyr i'r awdurdodau lleol.

Yn ystod ein gwaith, fe wnaethom ni ddarganfod y byddai'r fframwaith rheoleiddio yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig o ran plismona landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, pan fyddai'r newidiadau deddfwriaethol a wneir gan y Bil hwn yn dod i rym. Er ein bod yn croesawu'r adolygiad o'r fframwaith rheoleiddio a'r safonau perfformiad cysylltiedig, rydym ni yn argymell gwella'r Bil i sicrhau bod cydnabyddiaeth glir ar wyneb y Bil bod methu â chydymffurfio â'r fframwaith rheoleiddio yn cael ei gyfrif yn benodol yn fethiant i gydymffurfio â gofynion deddf. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi datgan ei bod yn credu mai rheoleiddio sydd fwyaf addas ar gyfer hyn, ond hoffwn bwysleisio y byddai dyletswydd i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny yn rhoi grym ychwanegol.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â swyddogaeth tenantiaid ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn cydnabod mai bwriad y Bil yw cyflwyno cyn lleied o newidiadau â phosib er mwyn ymateb i faterion sy'n ymwneud â'r ailddosbarthu a wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond rydym ni yn credu ein bod yn colli cyfle i atgyfnerthu swyddogaeth tenantiaid yn nhrefniadau llywodraethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O ganlyniad, rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y peth mewn gwirionedd a chyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â hyn. Achubwch ar y cyfle y mae hyn yn ei gyflwyno i chi a chryfhewch swyddogaeth tenantiaid cyn i newidiadau cyfansoddiadol ac uniadau penodol gael eu hystyried.

Gan droi at y pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 18 o'r Bil, clywsom gan randdeiliaid y bu pryderon ynglŷn ag ehangder y pwerau hynny. Mewn tystiolaeth lafar, fe wnaeth y Gweinidog gydnabod y pryderon hynny, ond pwysleisiodd y gellid defnyddio'r pwerau yn y Bil ar gyfer gwelliannau canlyniadol yn unig. Roeddem ni o'r farn, yn argymhelliad 5 o'n heiddo, y dylai Llywodraeth Cymru egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn adran 18 yno i wneud diwygiadau canlyniadol yn unig, ac rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, fel y dywedodd hi.

Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru y mae ein chweched argymhelliad, sef yr olaf, mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, ond ar gyfer y Cynulliad hwn. Yn aml iawn, rydym yn trafod Bil ynglŷn â pholisi, ond heddiw rydym yn trafod Bil sydd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i benderfyniad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae angen inni felly edrych ar oblygiadau'r Bil hwnnw ar bolisïau a sut y caiff ei weithredu. O ystyried y newidiadau fydd yn dod yn sgil y Bil hwn, rydym ni o'r farn y dylem ni fod yn ofalus nad oes yna ganlyniadau anfwriadol ac annisgwyl. Felly, rydym ni wedi argymell bod pwyllgor o'r Cynulliad hwn yn gwneud gwaith craffu ar y Bil hwn ar ôl ei basio, pe byddai'n dod yn Ddeddf. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd, rydym ni wedi gwneud hyn o'r blaen gyda Biliau eraill ac rydym yn credu y dylai'r gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ystyried a yw hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu'n briodol, ac y dylai hefyd sicrhau nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwared ar dir ac asedau mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ragweld, mewn geiriau eraill, nad yw'r pryderon y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw yn troi'n broblemau go iawn. Rydym ni'n gofyn i'r Cynulliad felly fynd i'r afael â'r agwedd honno.

I gloi, Llywydd, rydym ni'n credu y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r Bil hwn, ond mae angen mynd i'r afael, rydym ni'n credu, â'r pryderon hynny a nodwyd gennym ni yn ein hadroddiad. Rwyf i wedi clywed sylwadau agoriadol y Gweinidog, rwy'n gobeithio hefyd ei bod hi wedi clywed ein pryderon a'n dyheadau ni, nid yn unig yn ein hadroddiad ond drwy'r drafodaeth y prynhawn yma, fel bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei safbwynt ar rai o'r pwyntiau hynny ac yn cyflwyno gwelliannau i gryfhau'r Bil, i gryfhau hawliau tenantiaid a rhoi'r llais iddyn nhw y credwn ni y dylen nhw ei gael.