– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 13 Chwefror 2018.
Eitem 9 ar ein hagenda yw dadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yn cyflwyno newidiadau i'r ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus ym mis Medi 2016. Pan gyflwynodd Carl Sargeant y Bil fis Hydref diwethaf, eglurodd fod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn diogelu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy, diogel o ansawdd da yng Nghymru. Yn Symud Cymru Ymlaen, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi ymrwymo i gyflenwi o leiaf 12,500 o'r cartrefi hynny ac, er mwyn gwneud hyn, bydd angen iddynt gael benthyg tua £1 biliwn o'r sector preifat i ychwanegu at gyllid Llywodraeth Cymru.
Yn ymarferol, mae'r penderfyniad i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus yn dod â benthyciadau preifat landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'r cyfrifon cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai gynyddu'r gwariant ar dai cymdeithasol o ryw £1 biliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a fyddai'n effeithio'n ddifrifol ar ein hymrwymiadau gwario presennol, neu dderbyn y byddai 5,000 yn llai o gartrefi yn y rhaglen, gan na fyddai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gallu benthyg er mwyn buddsoddi.
Y cyfan y mae'r Bil hwn yn ei gynnig yw'r newidiadau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â rheolaethau'r Llywodraeth a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel bod modd adolygu'r penderfyniad dosbarthu, gan reoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn drylwyr ac effeithiol. Ers ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ym mis Medi 2016, mae'r holl bleidiau gwleidyddol wedi cytuno bod angen i ni weithredu er mwyn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i adolygu'r dosbarthiad, ac mae rhanddeiliaid a'r pwyllgorau yn cefnogi hyn hefyd. Cafwyd 19 o argymhellion gan y pwyllgorau fu'n craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd pob pwyllgor i ymateb i'r argymhellion maes o law, ond rwy'n falch o amlinellu fy syniadau cychwynnol heddiw.
Rwy'n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethol Ychwanegol y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru geisio eglurhad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â sefyllfa cynghorwyr a benodir i fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn swyddogaethau eraill. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor cyn gynted ag y bydd un ar gael, ond mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau eto y byddai'r Bil, os caiff ei weithredu fel y'i drafftiwyd, yn caniatáu iddyn nhw ailddosbarthu'r sector.
Mae hawliau a buddiannau tenantiaid wedi bod yn ganolog i'r broses graffu, a hynny'n gwbl briodol, ac rwy'n pwysleisio bod tenantiaid wrth wraidd rheoleiddio ac nid yw'r Bil hwn yn newid hynny. Mae'r disgwyliadau o ran ymgynghori â thenantiaid a'r angen i fyrddau ystyried barn tenantiaid wedi'u nodi'n glir yn y fframwaith rheoleiddio a'r canllawiau. Ar ôl i'r Bil gael ei basio, caiff y canllawiau hyn eu diweddaru a'u cyhoeddi fel canllawiau statudol. Gallai methu â dilyn canllawiau statudol gael ei adlewyrchu yn y dyfarniad rheoleiddio ac fe ellid ystyried camau i orfodi rheoleiddio. Mae'r disgwyliadau rheoleiddio ynghylch ymgynghori yn glir, fel y mae'r goblygiadau rheoleiddio posib os nad yw byrddau o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau i denantiaid. Nid wyf wedi fy argyhoeddi felly bod angen cyflwyno unrhyw fesurau eraill ar ymgynghori â thenantiaid yn y Bil hwn, ond byddaf yn sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn adlewyrchu pwysigrwydd y materion hyn.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliant i egluro mai unig ddiben y pwerau rheoleiddio yn adran 19 o'r Bil yw gwneud diwygiadau canlyniadol. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn datblygu gwelliant gyda'r bwriad o nodi hyn yn fwy eglur.
Mae argymhelliad olaf y pwyllgor hwn ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, ond os bydd y Cynulliad yn penderfynu craffu ar y Bil ar ôl ei basio, bydd Llywodraeth Cymru wrth gwrs, yn dymuno cynorthwyo. Yn sail i'r argymhelliad hwn y mae'r angen i ddiogelu asedau tai cymdeithasol a hawliau tenantiaid. Mae'r rhain yn egwyddorion reoleiddio allweddol a gallaf eich sicrhau y bydd goruchwylio rheoleiddiol cadarn yn parhau.
Mae'r argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â gweithredu'r Bil a monitro perfformiad ariannol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ganlyniad i arallgyfeirio. Rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion hyn. Bydd fy swyddogion yn egluro'r strategaeth i fonitro perfformiad ariannol a risg o ganlyniad i arallgyfeirio yn y cyhoeddiad sydd ar y gweill sy'n rhoi trosolwg o'r peryglon sy'n wynebu'r sector. Rwy'n argyhoeddedig bod digon o adnoddau wedi'u dyrannu i'r Bil cyfathrebu a'i ddiben, ond mae'r materion hyn eisoes yn cael eu hadolygu'n gyson.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi argymell fy mod yn esbonio'r rhesymau dros gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth bresennol y DU yn hytrach nag un sydd wedi ei gydgrynhoi ac sy'n annibynnol. Bydd angen ystyried pa un ai a oes angen cydgrynhoi ai peidio un Bil ar y tro bob amser, gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael a ffactorau eraill fel pwysau amser. Gofynnodd y pwyllgor a fyddem ni wedi gallu dechrau gweithio ar y prosiect hwn ym mis Hydref 2015, pan benderfynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylid ailddosbarthu cymdeithasau tai Lloegr. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth wahanol i'r rhai yn Lloegr, a dim ond ar ôl i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi ei hadolygiad o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ym mis Medi 2016 y gallem ni sefydlu gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn union pa newidiadau deddfwriaethol yr oedd eu hangen.
Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu y gallem ni efallai fod wedi cael cyfnod hirach ar gyfer ymgynghori, gan ddibynnu ar sicrwydd y Trysorlys y gallen nhw ymestyn eu datgymhwyso dros dro o'r rheolaethau cyfrifyddu y tu hwnt i fis Mawrth 2018, ar yr amod ein bod ni wedi gwneud digon o gynnydd gyda'n deddfwriaeth ni. Byddai cydgrynhoi wedi arafu'r cynnydd hwnnw yn sylweddol a byddai wedi bod yn amhriodol i obeithio bod y Trysorlys yn barod i roi estyniad ar gyfer y broses hirach hon. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried o ddifrif bwrw ymlaen â chydgrynhoi deddfau datganoledig Cymru. Rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i egluro'r weithdrefn ar gyfer cael gwared â phobl sydd wedi eu penodi gan awdurdodau lleol o fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i drafod y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ynglŷn ag egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) ar ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cyn troi at y mater perthnasol dan sylw, rwyf am gofnodi fy niolch i'r is-bwyllgor a sefydlwyd am ei waith o gasglu tystiolaeth yn rhan o broses Cyfnod 1. Yn benodol, rwyf eisiau diolch i Eluned Morgan am gadeirio cam cynnar gwaith yr is-bwyllgor cyn cael ei phenodi i Lywodraeth Cymru, i David Melding am gynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth a'i ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth honno, a chofnodi cyfraniad Steffan Lewis i'r gwaith.
Llywydd, mae'r angen am y ddeddfwriaeth hon yn glir; nid ydym yn herio'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud. Mae'n hollbwysig inni wrthdroi penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu a sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael eu hystyried yn gyrff sector preifat at ddibenion cyfrifyddu. At hynny, rydym ni'n cydnabod y risgiau i allu landlord cymdeithasol cofrestredig i fenthyg arian os na fydd ailddosbarthu yn digwydd. Fodd bynnag, rydym ni'n glir yn ein hadroddiad, er yr ystyrir yn briodol bod y Bil hwn er budd y cyhoedd, y dylid ei ystyried yn gam tuag at ddadreoleiddio'r sector—ni allwn ni anwybyddu'r ffaith honno—ac y bydd angen i Lywodraeth Cymru reoli risg a monitro effeithiolrwydd yn ddyfal.
I lywio casgliadau ac argymhellion ein pwyllgor, clywsom gan randdeiliaid allweddol yn y sector ac fe gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae ein hadroddiad yn gwneud cyfanswm o chwech o'r 19 o argymhellion y nododd y Gweinidog. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ein gwaith.
Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn un eithaf syml, sef argymell derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil, oherwydd byddai methu â phasio'r ddeddfwriaeth hon, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, yn golygu gostyngiad o fwy na 5,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac mae hynny'n annerbyniol.
Roedd argymhelliad 2 yn edrych ar yr agwedd o ddylanwad awdurdodau lleol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chlywsom negeseuon croes gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Llywodraeth ynghylch statws cynghorwyr lleol sy'n aelodau annibynnol o'r bwrdd. Rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud y bydd yn derbyn hyn ac yn egluro'r sefyllfa er mwyn sicrhau nad yw unigolion sydd yno fel unigolion yn cael eu gosod yno a'u hystyried yn gynrychiolwyr i'r awdurdodau lleol.
Yn ystod ein gwaith, fe wnaethom ni ddarganfod y byddai'r fframwaith rheoleiddio yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig o ran plismona landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, pan fyddai'r newidiadau deddfwriaethol a wneir gan y Bil hwn yn dod i rym. Er ein bod yn croesawu'r adolygiad o'r fframwaith rheoleiddio a'r safonau perfformiad cysylltiedig, rydym ni yn argymell gwella'r Bil i sicrhau bod cydnabyddiaeth glir ar wyneb y Bil bod methu â chydymffurfio â'r fframwaith rheoleiddio yn cael ei gyfrif yn benodol yn fethiant i gydymffurfio â gofynion deddf. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi datgan ei bod yn credu mai rheoleiddio sydd fwyaf addas ar gyfer hyn, ond hoffwn bwysleisio y byddai dyletswydd i gydymffurfio â'r rheoliadau hynny yn rhoi grym ychwanegol.
Mae ein pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â swyddogaeth tenantiaid ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rydym yn cydnabod mai bwriad y Bil yw cyflwyno cyn lleied o newidiadau â phosib er mwyn ymateb i faterion sy'n ymwneud â'r ailddosbarthu a wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond rydym ni yn credu ein bod yn colli cyfle i atgyfnerthu swyddogaeth tenantiaid yn nhrefniadau llywodraethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O ganlyniad, rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y peth mewn gwirionedd a chyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â hyn. Achubwch ar y cyfle y mae hyn yn ei gyflwyno i chi a chryfhewch swyddogaeth tenantiaid cyn i newidiadau cyfansoddiadol ac uniadau penodol gael eu hystyried.
Gan droi at y pwerau i wneud rheoliadau o dan adran 18 o'r Bil, clywsom gan randdeiliaid y bu pryderon ynglŷn ag ehangder y pwerau hynny. Mewn tystiolaeth lafar, fe wnaeth y Gweinidog gydnabod y pryderon hynny, ond pwysleisiodd y gellid defnyddio'r pwerau yn y Bil ar gyfer gwelliannau canlyniadol yn unig. Roeddem ni o'r farn, yn argymhelliad 5 o'n heiddo, y dylai Llywodraeth Cymru egluro bod y pwerau gwneud rheoliadau yn adran 18 yno i wneud diwygiadau canlyniadol yn unig, ac rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad, fel y dywedodd hi.
Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru y mae ein chweched argymhelliad, sef yr olaf, mewn gwirionedd, fel y nododd y Gweinidog, ond ar gyfer y Cynulliad hwn. Yn aml iawn, rydym yn trafod Bil ynglŷn â pholisi, ond heddiw rydym yn trafod Bil sydd wedi'i gyflwyno o ganlyniad i benderfyniad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae angen inni felly edrych ar oblygiadau'r Bil hwnnw ar bolisïau a sut y caiff ei weithredu. O ystyried y newidiadau fydd yn dod yn sgil y Bil hwn, rydym ni o'r farn y dylem ni fod yn ofalus nad oes yna ganlyniadau anfwriadol ac annisgwyl. Felly, rydym ni wedi argymell bod pwyllgor o'r Cynulliad hwn yn gwneud gwaith craffu ar y Bil hwn ar ôl ei basio, pe byddai'n dod yn Ddeddf. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd, rydym ni wedi gwneud hyn o'r blaen gyda Biliau eraill ac rydym yn credu y dylai'r gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ystyried a yw hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu'n briodol, ac y dylai hefyd sicrhau nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwared ar dir ac asedau mewn modd nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ragweld, mewn geiriau eraill, nad yw'r pryderon y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw yn troi'n broblemau go iawn. Rydym ni'n gofyn i'r Cynulliad felly fynd i'r afael â'r agwedd honno.
I gloi, Llywydd, rydym ni'n credu y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r Bil hwn, ond mae angen mynd i'r afael, rydym ni'n credu, â'r pryderon hynny a nodwyd gennym ni yn ein hadroddiad. Rwyf i wedi clywed sylwadau agoriadol y Gweinidog, rwy'n gobeithio hefyd ei bod hi wedi clywed ein pryderon a'n dyheadau ni, nid yn unig yn ein hadroddiad ond drwy'r drafodaeth y prynhawn yma, fel bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei safbwynt ar rai o'r pwyntiau hynny ac yn cyflwyno gwelliannau i gryfhau'r Bil, i gryfhau hawliau tenantiaid a rhoi'r llais iddyn nhw y credwn ni y dylen nhw ei gael.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni gyflwyno adroddiad ar y Bil hwn ar 2 Chwefror a gwneud 10 argymhelliad i'r Gweinidog. Yn rhan o'n hystyriaeth arferol, fe wnaethom ni ystyried y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i ymdrin ag ef drwy is-ddeddfwriaeth, ac roeddem yn fodlon â'r cydbwysedd. Yn benodol, roedd y pwyllgor yn dymuno cymeradwyo sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i roi sylw i'r mater o reolaeth llywodraeth leol. Mae'r pwyllgor hwn wedi bod o'r farn ers amser bod yn rhaid i'r cyhoedd wybod beth a ddisgwylir ohonyn nhw er mwyn i gyfraith fod yn effeithiol, ac mae'r modd yr aethpwyd i'r afael â'r mater hwn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn hytrach na rheoliadau yn rhoi lefel dda o dryloywder, sydd i'w groesawu. Rydym ni'n gobeithio y bydd y Gweinidog a'i chyd-Aelodau yn defnyddio yn ymdrin â deddfwriaeth mewn modd tebyg yn y dyfodol.
Felly, gan droi yn awr at sylwadau penodol y pwyllgor ar y Bil: mae adrannau 6 ac 8 o'r Bil yn diwygio'r sail y gall Gweinidogion Cymru benodi swyddogion neu reolwr landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn sicrhau cydymffurfio â gofyniad a osodir gan, neu o dan, ddeddf. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'n bosibl y gallai landlord cymdeithasol cofrestredig fod yn gweithredu'n ddigonol gyda swyddog neu reolwr penodedig yn dal i fod yn ei swydd. Felly rydym yn argymell gwella'r Bil i osod terfyn amser ar unrhyw benodiadau a wneir pan gydymffurfir â'r gofyniad perthnasol a hynny er boddhad Gweinidogion Cymru.
Mae Atodlen 2 i'r Bil yn nodi'r mân welliannau a'r gwelliannau canlyniadol y bydd angen eu gwneud i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i'r darpariaethau eraill a nodir yn y Bil hwn. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i adolygu pob un o'r darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 i sicrhau cysondeb â'r ddeddfwriaeth hon. Byddem yn disgwyl i'r Gweinidog gynnal yr adolygiad hwn ar y cyfle cyntaf. At ddibenion eglurder, rydym yn argymell hefyd diwygio Atodlen 2 y Bil fel bod union ddiffiniad 'hysbysu' yn cael ei fewnosod yn adran 63 o Ddeddf Tai 1996.
O ran y pwerau yn y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth, fe wnaethom ni edrych yn ofalus ar adrannau 5 a 14. Mae'r adrannau hyn yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch yr agweddau technegol ac ymarferol ar unrhyw hysbysiadau a gyflwynir gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i Weinidogion Cymru ynghylch newidiadau cyfansoddiadol a strwythurol a gwarediadau tir penodol. Gan y byddai methu â chydymffurfio yn arwain at orfodi neu hysbysiad cosb posibl, rydym yn argymell y dylid cyflwyno unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud hynny. O ystyried pwysigrwydd y cyfarwyddiadau hyn, ac i hybu tryloywder, rydym yn credu y dylai hyn hefyd gynnwys datganiad ysgrifenedig i esbonio pwrpas y cyfarwyddiadau.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y pwyllgor hwn yn cymryd diddordeb arbennig ym mhwerau Harri'r VIII, ac rydym yn monitro'r defnydd o'r darpariaethau hyn yn ofalus. Rydym ni felly yn croesawu adran 18(4) o'r Bil, sy'n nodi, pan fo rheoliadau yn gwella deddfwriaeth sylfaenol, y byddant yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Hefyd, o ran adran 18, os yw'r rheoliadau, fel y nododd y Gweinidog yn ei thystiolaeth i ni, yn ymdrin â phwerau canlyniadol yn unig, credwn y dylid gwella geiriad adran 18(1) o'r Bil i ddarparu ar gyfer yr hyn sydd ei angen yn unig. Mae argymhellion 8 a 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i'r afael â'r pryder hwn a sicrhau bod y pwerau a ddarperir gan y darpariaethau yn adran 18 yn dod i ben pan ceir cadarnhad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u hailddosbarthu yn gorfforaethau anariannol preifat.
Wrth ystyried Atodlen 1 i'r Bil, sy'n cyflwyno adran 7C newydd i Ddeddf Tai 1996 er mwyn ymdrin ag aelodaeth byrddau awdurdodau lleol, nid ydym yn gweld pam mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig aros deufis cyn cael gwared ar benodai o'i fwrdd ar ôl cael ei hysbysu pa rai y mae angen cael gwared arnynt. Credwn y gallai hyn achosi oedi diangen ac ansicrwydd; felly rydym ni'n argymell bod y Gweinidog yn diwygio adran 7C(3) o Atodlen 1 i'w fewnosod yn Neddf Tai 1996 i roi sylw i'r mater hwn.
Roeddem yn pryderu'n benodol am adran 13 o'r Bil, sy'n diddymu adran 81 o Ddeddf Tai 1988, sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Yn ôl a wyddom ni, mae adran 81 o Ddeddf Tai 1988 yn dal i gynnwys cyfeiriadau at Loegr. Mae ein hadroddiad yn gwneud dau argymhelliad i'r Gweinidog er mwyn egluro bod adran 13 y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, drwy nodi'n glir bod adran 81 o Ddeddf Tai 1988 dim ond yn cael ei diddymu pan fo hi'n gysylltiedig â Chymru.
I gloi, mae yna rai sylwadau yr hoffwn i eu gwneud ynghylch cydgrynhoi deddfwriaeth yn y maes hwn. Rydym ni'n cydnabod y cyfyngiadau amser ar gyfer cynhyrchu'r ddeddfwriaeth hon a'r angen clir i fodloni'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, ein rhagdybiaeth yw bod Llywodraeth Cymru yn gwybod am y mater perthnasol a oedd i'w drafod yn 2015. O gofio bod Llywodraeth y DU, yn gweithredu dros Loegr, wedi dod yn ymwybodol o'r mater hwn ar y pryd, amlygir hyn ym mhapur ymgynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â diwygio'r ffordd y caiff landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eu rheoleiddio. Rydym ni wedi nodi hefyd y posibilrwydd y bydd estyniad posibl i'r rhanddirymiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, fel y cyfeiriwyd ato yn y dystiolaeth i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Felly, rwy'n gwahodd y Gweinidog i egluro'n llawn y rhesymau dros gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth bresennol y DU, yn hytrach na deddfwriaeth sydd wedi'i chydgrynhoi ac sy'n annibynnol.
Byddwch chi'n cofio, Llywydd, i Carl Sargeant a minnau anghytuno'n aml ar yr hawl i brynu—ac, mae'n rhaid dweud, ar rai materion eraill yn ymwneud â thai hefyd—ond ar hyn, roeddem ni'n cytuno. Ac a gaf i groesawu ei fab, Jack, i'r Siambr y prynhawn yma? Roedd gennym ni ar yr ochr hon i'r Siambr feddwl mawr o'ch tad a pharch tuag ato. Roedd yn wrthwynebydd gwirioneddol deilwng a grymus. Mae'n debyg y dylwn i gynnig gair o ymddiheuriad i chi, oherwydd roedd fy mhum awr ar y ffonau—. Roedden nhw'n ffonau yn swyddfa ganolog y Torïaid, Llywydd, cyn i chi feddwl bod yn rhaid i chi fy anfon i at y pwyllgor safonau. Beth bynnag, ni chefais lawer o lwyddiant o fy mhum awr ar y ffonau yn annog pobl i bleidleisio dros eich gwrthwynebydd, er i mi ddarganfod bod etholwyr Llafur yn Alun a Glannau Dyfrdwy ymhlith y bobl fwyaf cwrtais yn yr etholaeth y cefais y fraint o sgwrsio â nhw erioed.
Er gwaethaf y ffaith fy mod i'n credu y bydd y Bil hwn yn cael cefnogaeth unfrydol yn y Cynulliad, ar hyn o bryd ac ar gyfnodau yn y dyfodol, roedd yna rai meysydd, rwy'n credu, pan fu'r pwyllgor yn ei ystyried, a achosodd rhywfaint o bryder ac y mae angen rhywfaint o waith neu addasu pellach. Ni wnaf ailadrodd y cyflwyniad medrus y mae Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees, newydd ei wneud, ond gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon ac yn myfyrio ar rai o'r amheuon yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw mewn ymateb i'r adroddiad. Yn amlwg, rydym ni'n croesawu eich bod wedi dweud eich y byddwch yn gweithredu argymhellion mewn rhai meysydd.
Fel y mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn datgan, diben y ddeddfwriaeth hon yw, a dyfynnaf, yw
'i weithredu'r diwygiadau rheoleiddio, dileu rheolaethau llywodraeth ganolog a lleol gan ganiatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu dosbarthiad y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y pennir ar hyn o bryd eu bod yn sefydliadau sector cyhoeddus at ddibenion cyfrifo.'
Er nad oes unrhyw amheuaeth ei bod hi er budd y cyhoedd, o ystyried y farn honno gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ein bod yn ymateb i'r pryderon, dylai pob un ohonom ni gydnabod bod y Bil hwn yn weithred sylweddol o ddadreoleiddio o fewn y sector ac, o ganlyniad, fel y nodwyd gennym ni yn yr is-bwyllgor, bydd angen rheoli risg yn ofalus a monitro'n effeithiol, fel bod buddiannau benthycwyr a thenantiaid, yn benodol, yn cael eu diogelu'n briodol. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd David am graffu ar ôl deddfu, a gobeithiaf y bydd y Comisiwn yn cefnogi hynny hefyd. Gall fod yn bwysig i ni edrych eto ar y ffordd y mae hyn, pe bai'n dod yn Ddeddf, wedi'i weithredu yn ymarferol.
Rwyf yn credu bod angen i ni ddatgan, a dweud y gwir, mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r ddeddfwrfa yma, a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol—. Yn amlwg, mae eu barn nhw'n hollbwysig, ond rwyf braidd yn bryderus pan mae Llywodraeth Cymru yn dweud, 'A, mae'r Bil, fel y mae wedi'i gyflwyno ar hyn o bryd, eisoes wedi'i basio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn addas at ei ddiben', a'r neges gudd, rwy'n meddwl, yw 'Gwae chi os byddwch yn ymyrryd â hynny'. Rwyf wedi bod yn eithaf siomedig, mewn gwirionedd, gyda'r trafodaethau rhwng y pwyllgor a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol pan yr ydym wedi nodi meysydd lle'r ydym yn credu y gellid cryfhau'r Bil gan ofyn a fydden nhw'n rhoi barn ar rai o'r materion hyn ac maen nhw'n amharod i wneud hynny. Ond rwy'n credu bod angen iddyn nhw fyfyrio ar eu gweithdrefnau, a gallai unrhyw gyrff eraill yn y dyfodol sy'n rhyngweithio â deddfwrfeydd gadw hyn mewn cof, oherwydd mae'n rhaid inni fod yn hollol o ddifrif ynglŷn â'n deddfu, ac ni yw'r ddeddfwrfa yng Nghymru.
Wedi dweud hynny, mae'r materion y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu codi, yn y bôn, yn rhai sy'n ymwneud ag arferion cyfrifyddu rhyngwladol, ac ni allwn ni eu hanwybyddu, ac rwy'n credu mai dyna'r brif farn. Ond rwyf yn credu y dylem ni edrych ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr ac yn yr Alban a chymharu'r mesurau yno gyda'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Ac, yn benodol, rwy'n ffafrio'r llais cryfach i denantiaid a fydd yn rhan annatod o ddeddfwriaeth yr Alban.
Nid wyf yn credu bod angen inni ddweud, fel y gwnânt yn yr Alban, y byddai angen i denantiaid gytuno i newidiadau cyfansoddiadol penodol, ond rwy'n credu y dylai ddweud ar wyneb y Bil y dylid ymgynghori â thenantiaid. Mae'n un peth i'r Gweinidog ddweud, 'Ie, wel, rydym ni'n mynd i ymdrin â hynny i gyd yn y rheoliadau', ond, Llywydd, beth sy'n fwy pwerus na rhoi datganiad o'r fath ar wyneb ein deddfwriaeth ac a chael pleidlais yn y Cynulliad hwn i wneud hynny? Hwn yw'r safon uchaf ac rwy'n annog y Gweinidog i fyfyrio ar hynny. Mae gennym ni, rwy'n credu, gyfle i wneud hynny, a'n dyletswydd ni yw ceisio gwella a chryfhau'r Bil ac, fel y dywedais i, yn benodol, yn gysylltiedig â thenantiaid.
Gwnaeth David y pwynt am y fframwaith rheoleiddiol yn fedrus iawn, rwy'n credu, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ceisio'i ddiwygio, os oes angen, os nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno ei gwelliannau ei hun i sicrhau bod methiant o dan y fframwaith yn cael ei ystyried yn fethiant i ddilyn gofynion deddf. Rwy'n credu bod hynny'n rhoi llawer iawn o sicrwydd.
Rwyf yn annog y Gweinidog i fod mor hyblyg â phosibl. Rwy'n credu ein bod wedi cyflawni rhywbeth y prynhawn yma gyda'i hymateb. Mae'n galonogol eich bod yn edrych ar y fframwaith, ac y bydd yn cael ei ddiweddaru. Ac, wrth gwrs, bydd yn gweithio gyda'r Bil hwn i ddarparu fframwaith rheoleiddio priodol, ond rwy'n dal i feddwl bod yna rai pethau yn yr ymwneud hwn y mae angen eu harchwilio yn ofalus iawn, iawn.
Wedi dweud hynny, rwy'n gweld nad oes amser ar ôl. Byddaf yn—
Da iawn am sylwi.
Mae'n debygol y byddaf yn gwneud rhai diwygiadau, yn y bôn sy'n adlewyrchu'r hyn a ddywedodd y ddau bwyllgor, ac rwy'n aelod pwyllgor materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol hefyd, ond ni fyddwn mewn unrhyw ffordd—wel, ar ochr hon y tŷ—yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn ni'n gallu gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Oherwydd byddai unrhyw gyfyngiad ar gapasiti benthyca cymdeithasau tai yn ergyd wirioneddol i'r targedau sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy. Felly, byddwn ni'n gweithio mewn ffordd adeiladol iawn i sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant, ac rwy'n annog pawb i'w dderbyn ar hyn o bryd fel egwyddor y dylem ni ei chefnogi. Diolch.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw yma gan ein bod ni yn derbyn bod yna resymau cwbl bragmataidd a chyllidol cadarn dros yr angen am y ddeddfwriaeth yma. Mae categoreiddio cymdeithasau tai fel corfforaethau cyhoeddus yn golygu mai fel cyrff cyhoeddus maen nhw’n cael eu trin o safbwynt cyfrifon cyhoeddus, ac mae gan hynny, wrth gwrs, oblygiadau mawr wrth i fenthyciadau gan y cymdeithasau tai gael eu cyfrif yn erbyn nenfwd benthyca Llywodraeth Cymru. Yn ei dro, mi allai hynny gael effaith andwyol ar allu’r sector i adeiladu tai, a hynny ar yr union adeg pan fo prinder dybryd o dai cymdeithasol, sy’n creu argyfwng gwirioneddol mewn sawl rhan o Gymru. Ond—ac mae yna 'ond', ac 'ond' gweddol fawr y prynhawn yma—mae gen i bryderon y gallai dadreoleiddio, a dyna'r ydym ni'n sôn amdano fan hyn, dadreoleiddio, arwain at ganlyniadau sydd ddim wedi cael eu rhagweld yn llawn, a chanlyniadau a allai filwrio yn erbyn rhai o egwyddorion craidd cymdeithasau tai fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, cofio nad cerbyd sector preifat creu elw ydy cymdeithas dai, ond, yn hytrach, strwythur ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.
Rydym ni wedi clywed heddiw gan ddau bwyllgor sydd—wel, rydym ni wedi clywed gan un, ond yn mynd i glywed gan y llall yn nes ymlaen—wedi cael cyfle i graffu ar yr egwyddorion cyffredinol sydd gerbron heddiw. Ond fy nghwestiwn i ydy: tybed a ydy'r craffu yna wedi bod yn rhy gul ac yn gyfyngedig, o gofio mai materion cyllidol a materion cyfansoddiadol sydd wedi bod o dan sylw yn bennaf. Rydw i'n meddwl bod angen golwg ehangach er mwyn tawelu rhai o'r pryderon sydd gen i. Buaswn i yn licio gweld y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cael cyfle i graffu ar y mater yma—nid y Bil ei hun, ond craffu ar beth allai'r newidiadau yn sgil dadreoleiddio, beth allai hynny, golygu i ddyfodol y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Mae yna rai cwestiynau mae angen inni chwilio atebion ar eu cyfer nhw. A fydd dadreoleiddio yn golygu newid mewn blaenoriaethau strategol gan gymdeithasau tai? A fydd o'n golygu mwy o bwyslais ar greu elw, ac a fydd hynny yn golygu, er enghraifft, fod ardaloedd gwledig yn colli allan? Achos rydym ni i gyd yn gwybod ei bod yn rhatach i adeiladu ystadau mawr mewn ardaloedd trefol nag ydy hi i adeiladu clystyrau o dai mewn ardaloedd gwledig, ond mae mawr angen y math yna o dai mewn ardaloedd gwledig. A ydym ni'n mynd i weld llai o adeiladu mewn ardaloedd gwledig, a hynny wedyn yn cyfrannu at all-boblogi a dirywiad yr iaith Gymraeg?
Rydym ni wedi sôn yn fan hyn am y pryder arall yn barod, sef colli atebolrwydd a democratiaeth. Rydym ni wedi sôn am lais y tenantiaid, ond mae llais cynghorwyr i'w glywed yn glir mewn byrddau rheoli ar hyn o bryd. Gyda gostyngiad yn y ganran, mae perig i'r lleisiau yma—lleisiau cynghorwyr a lleisiau tenantiaid—gael llai o ddylanwad, ac, yn ei dro, arwain at lai o atebolrwydd, ac, efallai, rydym ni'n ôl eto at y syniad yma y gall y byrddau rheoli newid cyfeiriad strategol, yn groes i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni yn y maes yma.
Rhaid inni gofio bod y stoc tai wedi cael ei drosglwyddo o ddwylo cynghorau lleol i ddwylo cymdeithasau tai mewn sawl achos ar draws Cymru. Fe ellid dadlau bod y symudiad hwnnw wedi arwain at bellhau atebolrwydd yn barod. Mae yna bryder y gall y cam nesaf sydd o dan sylw'r Bil yma arwain at golli hyd yn oed mwy o atebolrwydd ac at y newid cyfeiriad strategol a allai weithio yn erbyn holl bwrpas cymdeithasau tai.
Felly, rydw i'n teimlo bod yn rhaid inni symud yn ofalus iawn o'r cam yma, gan sicrhau gwelliannau a fydd yn cryfhau'r llais democrataidd, ond hefyd yn diogelu pwrpas craidd y cymdeithasau tai: i mi, adeiladu'r math cywir o dai ar gyfer y bobl sydd eu hangen—ie, hynny—ond hefyd eu hadeiladu nhw yn y llefydd lle mae eu hangen nhw, nid lle mae'r farchnad yn gyrru'r datblygiadau. Felly, mae eisiau bod yn gwbl effro i beryglon dadreoleiddio ac ystyried pa gamau sydd eu hangen i ateb rhai o'r pryderon yr ydw i wedi’u codi heddiw. Rydw i'n awgrymu y byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gallu cyfrannu at y drafodaeth yna. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Rydym ni'n cytuno â'r angen i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac felly rydym ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd bod angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Nid yw Cymru yn adeiladu digon o gartrefi. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn, gyda 12,500 ohonyn nhw i gael eu hadeiladu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fodd bynnag, mae yna ymchwil hefyd, yn arbennig gan y diweddar Dr Alan Holmans, sy'n awgrymu y gallai Cymru fod angen cymaint â 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd disgwyliedig yn nifer yr aelwydydd un person. Felly, rydym ni'n wynebu problemau ar y gorwel o ran ateb y galw am dai, a thai fforddiadwy yn enwedig.
Pan gawsom ni ddadl ynglŷn â deddfwriaeth flaenorol gan Lywodraeth Cymru, sef diddymu'r hawl i brynu, gwnaethom sôn am hynny yn y grŵp UKIP a daethom i'n casgliad ein hunain ein bod ni'n meddwl nad oedd yn mynd i fod yn ddigon, oherwydd y nifer gymharol fach o dai cymdeithasol a oedd yn mynd i'r sector preifat o ganlyniad i'r hawl i brynu. Ond os nad oedd y Bil hwnnw'n mynd i fod yn ddigon yna mae'r Bil hwn efallai yn gwneud gormod, oherwydd mae'r risg o ran cyllid ar gyfer tai cymdeithasol fforddiadwy yn ddifrifol iawn. Os na weithredwn ni, bydd canlyniadau difrifol o ran cyllid, fel mae cyfranwyr blaenorol heddiw wedi ei amlinellu, ac ni fyddai’n bosibl darparu cartrefi newydd yn y niferoedd y mae ar Gymru eu hangen.
Byddwn ni, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac, fel y mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod y manylion technegol, mewn gwirionedd, yn cefnogi amcanion y ddeddfwriaeth, sef sicrhau bod dyled cymdeithasau tai yn cael ei dynnu oddi ar ffigurau benthyca'r sector cyhoeddus.
Rwy'n sylwi, yn sgil pasio rheoliadau cyfatebol yn Lloegr, bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi cwblhau asesiad o'r sector cymdeithasau tai yno, a chanlyniad hynny yw bod y sefyllfa wedi'i wrthdroi, a darparwyr cofrestredig tai cymdeithasol yn Lloegr wedi'u hailddosbarthu yn gynhyrchwyr marchnad breifat. Ac, wrth gwrs, mae hynny—. Gallai hynny fod yn gam tuag at ddarparu mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad dai, sef yr hyn yr ydym ni ei eisiau yma yng Nghymru.
Mae'r Bil o bosibl yn caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu os yw o'r farn nad yw cymdeithas dai yn gweithredu yn unol â'r gyfraith—mae hyn yn ymdrin â'r mater o ddadreoleiddio, y mae llawer wedi sôn amdano. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod tenantiaid yn parhau i fynegi eu barn ynglŷn â sut y caiff cymdeithas dai ei rhedeg. Wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi codi'r mater o lais y tenant heddiw, ac mae David Melding wedi gwneud achos cryf dros ei gynnwys ar wyneb y Bil, y byddem ni yn sicr yn ei ystyried, ac mae'n bosibl iawn y byddwn yn cefnogi unrhyw welliant y gallai ef ei gyflwyno i'r perwyl hwnnw os na fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn ei gyngor, ond gwneud hynny fyddai'r peth gorau i Lywodraeth Cymru, efallai.
Bydd y newidiadau yn arbennig o bwysig i denantiaid a allai gael eu heffeithio gan drosglwyddiadau stoc o awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Rwy'n gobeithio y gallwn ni ymchwilio i hyn drwy waith y Pwyllgor craffu, ond byddai'n ddiddorol pe gallai'r Gweinidog ychwanegu unrhyw beth at hynny heddiw.
Rydym ni hefyd yn ymddiddori yn y ffordd y bydd cymdeithasau tai yn parhau i gael eu hariannu yn y dyfodol ac mae angen inni, wrth gwrs, barhau i ddod o hyd i fodelau cyllido newydd ac arloesol i barhau i ddarparu'r llif o dai fforddiadwy.
Felly, i gloi, Llywydd, rydym ni yn UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym ni o'r farn mai dyma'r ffordd briodol o weithredu, er bod yn rhaid inni gadw mewn cof na fydd hyn ynddo'i hun yn datrys y prinder tai sydd ar y gorwel. Rydym ni'n edrych ymlaen at barhau i glywed yr hyn sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ynglŷn â hyn ac, ac o bosib, i graffu, yn y pwyllgor llywodraeth leol, neu mewn unrhyw bwyllgor perthnasol arall, ar y cynlluniau sydd ganddyn nhw yn y dyfodol i ddarparu'r tai y mae eu dirfawr angen ar Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, o ran craffu ar y Bil hyd yn hyn, rwy'n meddwl bod y gwaith ymgysylltu wedi bod yn adeiladol iawn, iawn yn wir. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol, efallai, os y gwnaf i nodi rhai sylwadau ar yr hyn nad yw'r Bil hwn yn ymwneud ag ef. Nid oes dim yn y Bil hwn a fyddai, er enghraifft, yn diddymu nodau craidd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran eu gwaith o ddarparu tai fforddiadwy, o ansawdd da ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Yn wir, maen nhw'n ymroddedig iawn i'r agenda honno ac yn ddiweddar maen nhw wedi cyhoeddi cynllun sy'n edrych ymlaen mor bell â 2035 o ran nodi sut y byddan nhw'n parhau i fynd ati i wneud hynny, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n symud tuag at agenda di-garbon, sy'n ceisio cynnal cymaint o werth y buddsoddiad yma yng Nghymru, ac sydd hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu ansawdd da a gwella ansawdd bob amser.
Does dim yn y Bil, hefyd, sy'n lleihau cadernid y gyfundrefn reoleiddio sydd gennym yng Nghymru, ac nid yw'n effeithio ar unrhyw un o'r ymrwymiadau sylfaenol, ychwaith, a wnaed i denantiaid ar yr adeg trosglwyddo. Felly, er enghraifft, bydd y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy'n trosglwyddo'n wirfoddol ar raddfa fawr yn dal i orfod cyflawni a chynnal safon ansawdd Cymru. Felly, mae llawer o fathau o faterion yr ydym wedi eu hystyried yn ystod hynt y Bil hyd yma, ond mae rhai hanfodion na fyddan nhw'n newid o ganlyniad i'r Bil hwn, sydd, fel yr ydym wedi trafod, yn eithaf cyfyngedig o ran ei gwmpas a'i ddiben.
David Melding—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf siŵr.
Er eich bod yn dweud nad yw hyn ar y Bil, beth am y canlyniadau anfwriadol a godais, nid o reidrwydd yn y ddeddfwriaeth ei hun, ond y sgil-effeithiau?
Drwy'r dyfarniadau a'r safonau y mae'n rhaid i'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lynu atynt yng Nghymru, maen nhw'n glir iawn ynghylch eu diben o ran cynnal pwyslais cryf ar ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer y bobl sydd fwyaf eu hangen—tai cymdeithasol o ansawdd da. Hefyd, drwy ein fframwaith rheoleiddio, mae gennym gyfle i ymchwilio i ba raddau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn buddsoddi eu hymdrechion a'u hadnoddau mewn busnes y byddem ni o'r farn nad yw y busnes craidd. Mae'r rhain yn drafodaethau y byddem ni'n eu cael ar gam cynnar iawn gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, dylent ddod i lefel a oedd yn peri pryder i ni.
Byddwn i hefyd yn dweud bod David Melding yn gywir yn yr ystyr bod y trafodaethau gawsom hefyd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol am y ffaith nad oeddynt yn barod i gynnal trafodaeth ar ffurf deialog gyda ni o ran y syniadau a'r pryderon ac ati a ddygwyd ymlaen—. Fodd bynnag, nid yw hynny'n cynnwys y mater hwnnw o eglurder o ran swyddogaeth, neu statws, ddylwn i ddweud, cynghorwyr awdurdodau lleol ar y bwrdd, ac rydym yn dal i geisio cael rhywfaint o eglurder gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a chyn gynted ag y cawn yr eglurder hwnnw, byddwn yn ei rannu gyda'r pwyllgorau.
Hoffwn droi at y tenantiaid, a hawliau tenantiaid ac ymgysylltu â thenantiaid a'u llais, oherwydd mae hyn yn rhywbeth sy'n amlwg wedi bod o bryder i aelodau'r pwyllgor, yn y ddadl heddiw ac i eraill drwy gydol hynt y Bil hyd yma. Mae'n werth myfyrio ar y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y broses graffu gan gadeirydd Tai Cymunedol Cymru, a ddywedodd,
Rwy'n credu mai'r niwed gwirioneddol i denantiaid, i fod yn hollol onest, fyddai pe na byddem yn cael y Bil hwn drwyddo i'n galluogi i gael ein hailddosbarthu, a gwn fod Tai Cymunedol Cymru heddiw wedi anfon neges e-bost at holl Aelodau'r Cynulliad â gwybodaeth fanwl, yn nodi'r pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch swyddogaeth tenantiaid mewn newidiadau cyfansoddiadol penodol a chytuno bod gan denantiaid swyddogaeth hanfodol o ran craffu ar y landlordiaid. Fel busnesau annibynnol, mae gan gymdeithasau tai amrywiaeth o ffyrdd y maen nhw'n cynnwys tenantiaid yn y prosesau craffu a llywodraethu, maen nhw'n dweud wrthym, ac maen nhw'n gweithio'n barhaus i wella yn y maes hwn. Ond mae Tai Cymunedol Cymru heddiw wedi bod yn glir iawn eu bod yn credu nad oes angen newidiadau i'r ddeddfwriaeth i wella yn y maes hwn, ac y gellir cyflawni hyn drwy gyd-ddatblygu canllawiau statudol rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cymdeithasau tai a chyrff tenantiaid sy'n sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau neu newidiadau cyfansoddiadol. Dyna'n sicr y modd y byddwn—[torri ar draws.]
Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd yn sefyll yn gyntaf. Rwy'n credu mai Mark oedd yn gyntaf.
Chi sy'n penderfynu, rwy'n credu, pwy—
Mark oedd yn gyntaf.
Diolch. Yn fy 12 mlynedd fel aelod gwirfoddol, di-dâl o fwrdd cymdeithas tai rwyf wedi dysgu y gall cymdeithas sy'n cael ei rhedeg yn dda, cymdeithas ddi-elw, fod y cyfrwng mwyaf effeithiol ar gyfer darparu cymdeithasol tai a grymuso tenantiaid. A ydych chi'n cydnabod yr hyn a ddysgwyd gennym—bod ymgysylltu â thenantiaid o'r top i lawr, ymgynghori o'r top i lawr, yn aneffeithiol, ac mai mynd i'r gwaelod, o'r gwaelod i fyny, ymgysylltu â thenantiaid, dod i adnabod tenantiaid, gwrando ar denantiaid, mewn gwirionedd, yw'r ffordd o sbarduno ymgysylltu effeithiol i sicrhau bod barn tenantiaid yn cael ei glywed a'n bod yn gweithredu ar hynny?
Rwy'n cytuno'n llwyr fod ymgysylltu'n llawn ac yn wirioneddol â thenantiaid ar y cyfle cynharaf posibl yn gwbl hanfodol, a dyma un o'r rhesymau pam yr wyf i'n falch bod bwrdd rheoleiddiol Cymru wedi penderfynu comisiynu adolygiad o'r ymgysylltiad â thenantiaid yng Nghymru, a nod hyn wedyn fydd nodi gweledigaeth ar gyfer cyfranogiad tenantiaid yn y dyfodol a cheisio deall beth y mae tenantiaid ei eisiau gan eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad. Mae'r adolygiad hwn, rwy'n deall, yn debygol o ddechrau ym mis Ebrill, a gwn y byddai bwrdd rheoleiddiol Cymru yn croesawu ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad a'u cynnwys yn y broses honno. Gwn y bydd gan Aelodau'r Cynulliad farn yn seiliedig ar eu profiadau lleol o ran ansawdd a phrydlondeb ymgysylltu â thenantiaid, ac rwy'n siŵr y byddai croeso mawr i'ch barn chi, ynghyd ag eraill, yn y broses honno.
Diolch i chi am ildio. Yn ogystal â'r broses craffu ar y Bil, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad hir i gymdeithasau tai yng Nghymru. Ar y pwynt hwn, gwelsom, yn gyfnewid am y rhyddid ychwanegol yr oeddynt yn ei gael drwy'r mesur hwn, fod cyfrifoldeb ar gymdeithasau tai eu hunain i fynd ati'n rhagweithiol i annog craffu gan eu tenantiaid. Felly, a all hi ein sicrhau ni, wrth i'r canllawiau statudol gael eu datblygu, bod y cyfrifoldeb hwnnw yn cael ei roi ar gymdeithasau tai er mwyn codi'r safon?
Yn sicr, byddaf yn ystyried y mater hwnnw o ran sut y gallwn annog, drwy'r canllawiau, a ddaw yn statudol, y pwysigrwydd o sicrhau bod tenantiaid yn fedrus a bod ganddyn nhw'r gallu a'r hyder i herio aelodau bwrdd. Rwy'n awyddus iawn, ym mhob amgylchiad, bod aelodau bwrdd yn deall mai eu swyddogaeth nhw, i raddau helaeth, yw herio a chraffu, a dylen nhw bob amser gael eu galluogi i fod â'r sgiliau hynny er mwyn cynnal y math hwnnw o swyddogaeth mewn modd cadarn a thrylwyr.
Hoffwn i hefyd ychwanegu bod un o'r safonau perfformiad, y mae'n rhaid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lynu wrthyn nhw yn benodol, yn eu gorfodi i ddangos ymgysylltiad effeithiol a phriodol gyda thenantiaid, a gwasanaethau gwell o safon uchel i denantiaid. Mae TPAS Cymru, drwy glywed llais tenantiaid wrth reoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru, yn casglu barn a phryderon gan denantiaid ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r wybodaeth y mae TPAS yn ei darparu wedyn i Lywodraeth Cymru yn gwirio mewn ffordd, ar ein cyfer ni, a yw'r hyn y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ei ddweud wrthym yn ystyrlon o ran sut maen nhw’n ymgysylltu â thenantiaid ac yn ystyried eu barn.
Dywedwyd ar ran TPAS Cymru, wrth roi tystiolaeth, ei fod yn credu bod un o'r risgiau yma yn ymwneud â'r angen i sicrhau bod tenantiaid yn cymryd rhan a bod eu lleisiau'n cael eu clywed drwy gydol y broses o ran sut y mae sefydliadau yn gweithredu, a dyna un o'r safonau rheoleiddio newydd. Disgwylir i denantiaid bellach fod yn rhan o'r cynllunio strwythurol ar gyfer cymdeithasau tai.
Maen nhw'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w groesawu i raddau helaeth, fel y gwnaf i. Felly, yn ddi-os, bydd pwyntiau manwl y bydd angen inni eu hystyried yn ddyfnach wrth inni symud i Gyfnod 2 y broses, ond heddiw rwy'n gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.